Prif nod a gweledigaeth yr elusen Oasis Caerdydd yw cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymunedau lleol. Maen nhw’n darparu cefnogaeth i tua 100-150 o ymwelwyr yn ddyddiol o ledled y byd, gan gynnwys pobl o Iran, Irac, Affganistan, Sudan, El Salvador, a’r Traeth Ifori. Yn wythnosol, maen nhw’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau, yn ogystal â chinio am ddim yn ystod yr wythnos.
Mae FareShare wedi darparu bwyd dros ben o ansawdd da i Oasis ers pedair blynedd. Mae Oasis yn defnyddio’r bwyd hyn i baratoi prydau bwyd i’w cleientiaid sy’n parchu’u diwylliant a’u traddodiadau unigol. Mae hyn yn eu galluogi i ymgartrefu’n well ac i deimlo’n gartrefol yng Nghymru.
Mae’r bwyd dros ben sy’n cael ei ddarparu gan FareShare Cymru yn cynnwys cynhwysion sydd fel arfer yn cael eu defnyddio ym mwyd y Gorllewin. Mae Oasis yn dangos i’w cleientiaid sut i ddefnyddio’r cynhwysion, sydd yn aml yn ddieithr iddyn nhw, ar y cyd gyda blas a sbeisys sy’n gyfarwydd i’w diwylliant nhw i wneud bwyd blasus llawn maeth.
Mae bwyd yn bwerus iawn. Mae pobl yn rhannu’u straeon pan maen nhw’n coginio neu’n bwyta. Pan mae’r iaith yn rhwystr, maen nhw’n rhannu’r bwyd ynghyd â rhan o’u diwylliant a’u stori.
Songyeon Choi, Rheolwr Cegin Oasis
Er bod eu cyllid yn gyfyng fel elusen fach, mae cydweithio gyda FareShare yn galluogi i gleientiaid Oasis fwynhau danteithion arbennig, fel wyau Pasg a phwdin Nadolig, sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
Ar ddechrau’r pandemig pan gaeodd y siopau i gyd, daliodd FareShare ati i fynd, ac am hynny rydyn ni’n ddiolchgar iawn.
Songyeon Choi, Rheolwr Cegin Oasis
Mae’r bwyd sydd wedi’i ddarparu gan FareShare wedi helpu cael effaith bositif ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae Oasis yn dangos i’w cleientiaid sut y gallant lwyddo i greu prydau bwyd go iawn, iachus, hyd yn oed gyda chyllid cyfyngedig. Enghraifft o hyn yw bwyd tun, sydd, er yn rhad, yn gallu cael ei ddefnyddio mewn amryw o ffyrdd i greu prydau bwyd iachus.
Mae’r cydweithio gyda FareShare wedi galluogi Oasis i arbed arian, sydd yn ei dro wedi cael ei fuddsoddi gan iddynt gyflogi mwy o bobl yn y gegin i goginio’r prydau bwyd maethlon maent yn eu darparu i’w gwesteion. Golyga hyn eu bod yn cefnogi hyd yn oed mwy o bobl, ac yn eu cynorthwyo i integreiddio i’w cymunedau lleol.