fbpx

Hybu morâl staff

Yn ogystal â hybu hygrededd cynaliadwyedd busnesau, mae ail ddosbarthu bwyd dros ben i elusennau hefyd yn helpu hybu ymrwymiad staff a chwsmeriaid.

 

Helpu elusennau lleol

Gyda bwyd dros ben ffres, gall elusennau gynnig deiet amrywiol, iach, a gall yr arian sy’n cael ei arbed ar fwyd gael ei fuddsoddi yn eu gwasanaethau hanfodol eraill. Heb fwyd gan FareShare, dywed un mewn pum elusen y byddai’n rhaid iddyn nhw gau. Darllenwch am rai o’r mudiadau ‘rydym yn eu helpu. 

 

 

Cwrdd â’ch targedau cynaliadwyedd

Mae dargyfeirio’ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn eich cynorthwyo i gyrraedd ymrwymiad eich busnes dan Fap trywydd Lleihau Gwastraff Bwyd WRAP/IGD i Dargedu – Mesur – Gweithredu i leihau’ch gwastraff bwyd, mae’n:

  • Caniatáu i fusnesau fesur ac adrodd yn gyson a gyda hyder
  • Helpu busnesau bwyd i weithredu i leihau ei gwastraff bwyd yn eu gweithredu, eu cadwyn cyflenwi a gan gwsmeriaid
  • Helpu’r sector bwyd i anelu at dargedau Courtauld 2025
  • Helpu’r DU i chwarae ei ran yng Ngôl Datblygiad Cynaliadwyedd 12.3

Fe weithiwn gyda chi i adnabod bwyd dros ben bwytadwy, yna’i ddargyfeirio’n ddiogel drwy’n rhwydwaith Cymru-gyfan o 188 o elusennau a grwpiau cymunedol, gan wneud gwahaniaeth cymdeithasol mesuradwy yn y cymunedau yr ydych yn gweithredu ynddynt.

 

Cyfrannu bwyd