Mae FareShare Cymru yn cyflenwi dros 210 o fudiadau rheng flaen hanfodol ledled Cymru gyda bwyd dros ben ffres, blasus ac sydd o fewn y dyddiad bwyta, gan y diwydiant bwyd. Os ydy eich elusen, grŵp cymunedol, menter gymdeithasol, ysgol neu fudiad nid er elw arall chi yn cefnogi trigolion eich cymuned drwy ddarparu bwyd iddyn nhw, gallwch chi hefyd danysgrifio i dderbyn bwyd.

Diogelwch bwyd

Mae modd i FareShare Cymru fanteisio ar amrywiaeth eang o fwydydd o safon, o gig i lysiau i ffa pob. Rydym yn meddu ar gysylltiadau cadarn gyda chyrff eraill yn y diwydiant bwyd, felly rydym yn ymdrechu i gaffael cyflenwad rheolaidd a digonedd o’r math o fwyd sydd ei angen arnoch chi.

Arbed arian

Rydym yn codi lleiafswm ffi ar aelodau FareShare Cymru am y bwyd maen nhw’n eu derbyn – mae gwerth manwerthu’r bwyd yn 5-10 gwaith y ffi aelodaeth. Yn ychwanegol i’r archebion bwyd cyflawn o ein warws, mae modd i’n haelodau fanteisio ar fwyd dros ben am ddim gan archfarchnadoedd lleol drwy FareShare Go. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddefnyddio’u cyllid ar wasanaethau hanfodol eraill. Mae aelodau’n arbed £7,900 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu bil bwyd. 

Dysgu mwy am FareShare Go

Cefnogaeth

Mae FareShare Cymru yn gymuned gadarn o aelodau yr ydym ni’n eu cefnogi drwy gynnig bwyd iddyn nhw a mwy. Os ydy eich anghenion chi’n newid, gallwn addasu ein gwasanaeth i fodloni’r rheiny. Gallwn gynnig cyngor ar ddiogelwch bwyd a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli i’r rheiny sy’n manteisio ar ein gwasanaeth. At hyn, gallwn gynrychioli’ch barnau mewn fforymau a’ch hysbysu am unrhyw newyddion fyddai’n fuddiol ichi fel rhan o rwydwaith o fudiadau tebyg.

Hoffech chi dderbyn bwyd gan FareShare Cymru?

Cwblhewch y ffurflen ymholiadau FareShare Cymru, ffoniwch Katie ar 07773 618175 neu cliciwch ar y dolenni isod i ganfod yr holl ffyrdd gallwch chi fanteisio ar fwyd.

Get food

FareShare Cymru supplies over 210 vital frontline provisions across Wales with fresh, tasty, in date surplus food from the food industry. If your charity,

Joining FareShare Cymru

We work with a wide variety of organisations to support them with their food needs, from community pantries and lunch clubs to community centres

FareShare Go

The food you will collect is unsold surplus food at the end of the day. It is all good quality food that is simply