fbpx

Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi ddysgu am y byd bwyd dros ben a thlodi bwyd yn Ne Cymru. Mae Gwirfoddoli fel Tîm yn ffordd wych o ddangos eich ymroddiad tuag at Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, calonogi eich tîm a chreu’r teimlad o berthyn.

Beth ydy’r drefn?

Yn dilyn cyflwyniad a chyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch byr bydd eich tîm yn mynd ati gan helpu gyda’r gwaith o ail-ddosbarthu bwyd sy’n gyfle ichi wella bywydau dydd i ddydd y rheiny sy’n wynebu tlodi bwyd. Rydym yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr arbennig i gyflawni ein gwaith dyddiol a byddwch yn cydweithio gyda staff a gwirfoddolwyr eraill i gyflawni ystod o weithgareddau. Gallai’r gweithgareddau gynnwys, ond nid ydyn nhw wedi’u cyfyngu i: 

  • Cynorthwyo ein gyrwyr i gludo bwyd i ein Haelodau Cymunedol yn Ne Cymru 
  • Dewis bwyd ar gyfer archebion ein haelodau 
  • Dosbarthu bwyd a threfnu ein warws 
  • Glanhau a thacluso 

Mae sawl un o’r tasgau hyn yn gorfforol ac mae’n bosib y bydd gofyn ichi godi a chario nwyddau a phlygu lawr i’w nôl nhw. Hoffem sicrhau nad oes yna unrhyw rwystrau i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan felly rhowch wybod inni os oes gan unrhyw un o’ch tîm drafferthion a allai effeithio ar eu hamser gyda ni. Byddwn yn ymdrechu i ganfod gweithgareddau a fyddai’n gweddu iddyn nhw.

Sut ydym ni’n mynd ati i gymryd rhan?

Dyma ychydig o fanylion ichi eu dwyn i ystyriaeth: 

  • Gallwn groesawu timau o hyd at chwe unigolyn oherwydd cyfyngiadau o ran lle. 
  • Ein nod ydy cynnal un diwrnod tîm corfforaethol y mis, ond fe allwn ni fod yn hyblyg. 
  • Gofynnwn am gyfraniad i dalu am ein costau cynnal; mae hyn yn fodd inni ddosbarthu mwy fyth o fwyd i’r rheiny sydd ei angen. 
  • Rydym yn blaenoriaethu’r cwmnïau hynny sy’n ffurfio partneriaethau corfforol gyda ni, ond fe wnawn ni ymdrechu hyd eithaf ein gallu i groesawu pob un y gallen ni. 

Oes gennych chi ddiddordeb? Hoffech chi ddysgu mwy?

Cysylltwch gydag ein Swyddog Gwirfoddoli 02920362111 neu volunteer@fareshare.cymru neu cwblhewch y ffurflen isod

Gwirfoddoli aelod staff (cyflogai)

Gwirfoddoli gyda ni

Mae Gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd a chynnig rhywbeth yn ôl i’n cymunedau. Os ydych

Gweithwyr yn Gwirfoddoli

Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi