fbpx

Os ydych chi’n fusnes bach neu’n gorfforaeth sylweddol, mae sawl ffordd gallai eich cwmni chi gydweithio gyda ni, cefnogi FareShare Cymru ac effeithio’n uniongyrchol ar y frwydr yn erbyn newyn a thlodi ledled Cymru.

Rydym yn elusen fach sy’n creu effaith sylweddol. Gallai pob partneriaeth rydym ni’n ei ffurfio wneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr ar y rheiny sydd mewn angen, ynghyd â sicrhau buddion i’ch cwmni sy’n bodloni eich amcanion strategol. Gallai cydweithio gyda FareShare Cymru arwain at gyfleoedd ymgysylltu rhwng gweithwyr a chwsmeriaid, Cysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol ledled ein rhwydweithiau a chyfraniadau ystyrlon tuag at eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.

Dyma ychydig o syniadau:

Cyfraniadau Corfforaethol

Beth am gyflwyno cyfraniad i gefnogi ein gwaith yng Nghymru. (LINK to make a donation) Yn ogystal ag arian, fe allai rhoddion mewn nwyddau, fel cyfarpar swyddfa neu wasanaethau, wneud gwahaniaeth sylweddol hefyd.

Nawdd Corfforaethol
Beth am noddi un o’n cerbydau cludo a hysbysebu’ch logo wrth iddyn nhw deithio i ymweld â’n haelodau cymunedol.

Elusen y flwyddyn
Dewiswch FareShare Cymru fel eich Elusen y Flwyddyn a gallwch annog staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i gydweithio i gefnogi ein gwaith gan helpu i fwydo miloedd o bobl fregus pob diwrnod.

Gweithwyr yn Codi Arian

Bydd pob £1 byddwch yn ei godi yn ddigon i dalu am fwyd ar gyfer 4 pryd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i godi arian yn eich gweithle, fel rafflau, lotrïau, heriau chwaraeon, gêm dyfalu pwy, diwrnodau dillad eich hunain neu gynnal digwyddiad gwerthu cacennau. Os ydy gweithwyr yn codi arian tuag at FareShare Cymru, gallai eich cwmni chi ystyried cynnig cyfraniadau cyfatebol.

Digwyddiadau Codi Arian
Gallwch gynnal pob math o ddigwyddiadau fel cwis neu loddest. Gallwch hefyd gynnal digwyddiadau heriau fel gwifren gwibio i deithiau cerdded tramor. Mae pob math o syniadau posib ac mae’n gyfle gwych i ddenu eich staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i gymryd rhan.

Gweithwyr yn Gwirfoddoli
Yn ogystal â chynnig cyfle ichi fynd ati i godi arian ar eich liwt eich hun, rydym hefyd yn awyddus i recriwtio timau o wirfoddolwyr corfforaethol. Cliciwch yma i wybod mwy – dolen at gweithwyr yn gwirfoddoli

Rhoi drwy’r Gyflogres

Rhoi drwy’r Gyflogres neu Roi wrth Ennill ydy’r ffordd fwyaf treth effeithlon i staff gynnig rhodd sylweddol yn ôl. Gallai cyn lleied â £5.00 y mis sicrhau digon o fwyd i baratoi 240 o brydau dros flwyddyn. Os nad ydy eich cwmni yn cynnal cynllun ar hyn o bryd, gallwch danysgrifio i asiantaeth rhoi drwy’r gyflogres.

Ein cefnogi ni gyda’ch cynnyrch!
Mae dewis cynnig canran o elw cynnyrch neu wasanaeth i drechu newyn a gwastraff bwyd yn anfon neges gadarnhaol ac mae’n ffordd rwydd o godi arian ar ran cwmnïau bach a mawr.

Y buddion i’ch cwmni chi

Mae pob partneriaeth gorfforaethol yn unigryw. Isod mae ychydig o’r buddion posib i’ch mudiad chi:

  • Cysylltiadau Cyhoeddus – Straeon Cysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol
  • Adborth – gweld pwy maen nhw’n eu cefnogi ac effaith eu cefnogaeth
  • Gweld drwy lygaid y ffynnon – dewch i Ganolfan Rhanbarthol FareShare Cymru i fwrw golwg ar brosiect sy’n derbyn bwyd gan FareShare i weld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud yn uniongyrchol.
  • Ymwneud gyda’ch Gweithwyr – gallwch ymwneud gyda’ch gweithwyr mewn ffordd effeithlon sy’n fodd iddyn nhw weld effaith eich cyllid gan fwrw ati i gyflawni ein cenhadaeth.
  • Gostyngiad Treth – gallai cwmnïau partner hefyd elwa o ostyngiad treth sylweddol drwy gyflawni gwaith elusennol

Fodd bynnag, wrth gefnogi FareShare Cymru byddwch yn effeithio’n uniongyrchol ar ein twf a llwyddiant , ac yn helpu i gyflwyno bwyd i filoedd o bobl sy’n byw mewn tlodi.

Cysylltwch gyda ni heddiw i drafod partneriaethau – byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych chi. 0292036211 neu ar info@fareshare.cymru

Partneriaethau Corfforaethol

Os ydych chi’n fusnes bach neu’n gorfforaeth sylweddol, mae sawl ffordd gallai eich cwmni chi gydweithio gyda ni, cefnogi FareShare Cymru ac effeithio’n uniongyrchol

Cyfrannu

Mae FareShare Cymru yn elusen fach ac annibynnol sy’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau i barhau gydag ein gwaith. Gallwn gyflawni llawer iawn

Swyddi Gwag

Mae FareShare Cymru yn recriwtio! Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd i fod yn rhan o’n stori! Cydlynydd Codi Arian Mae hon