fbpx

Mae pob £1 rydych chi’n codi yn cyfrannu at 4 pryd bwyd i bobl fregus

Mae codi arian ar gyfer FareShare Cymru yn ein helpu ni i barhau i ail ddosbarthu bwyd o safon i bobl mewn angen ledled Cymru. Beth bynnag yw eich sgiliau neu ddiddordebau mae yna opsiwn codi arian ichi!

Syniadau codi arian cyffredinol

Mae gennym nifer o syniadau codi arian ar gyfer FareShare Cymru; o awgrymiadau syml i gynnwys eich ffrindiau a’ch cydweithwyr, i weithgareddau mwy anturus a heriau fel rhedeg, nofio neu seiclo. Dyma ychydig o’n syniadau:

Cymerwch yr her!

P’un ai os mai nofio neu seiclo yw’ch diléit chi, mae ymgymryd â her yn gallu hybu’ch ffitrwydd, gwella iechyd meddwl a rhoi gôl ichi weithio tuag ato. Gallai codi arian ar gyfer FareShare Cymru gael effaith anhygoel gan fod pob £1 = 4 pryd! Dewiswch eich her, p’un ai os mai marathon ydyw, redeg drwy faw neu antur ar raddfa fwy!

Trefnwch ddigwyddiad

Trefnwch ddigwyddiad codi arian. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd chi, mae yna ddigonedd o ffyrdd i gael ffrindiau ynghyd a chodi arian i gefnogi’n gwaith. Byddwch yn greadigol – cynhaliwch swper â’r thema “gwastraff bwyd”, noson goctels neu bicnic haf. Gallwch chi hefyd gynnal cwis i’r sawl sy’n gystadleuol, neu werthiant cacennau neu dwrnamaint chwaraeon!

Rho’r gorau iddo!

P’un ai os taw alcohol, siocled, coffi neu greision rydych chi’n rhoi’r gorau iddo – mae’r arian rydych chi’n gallu cynilo drwy roi’r gorau i’r ‘trîts’ hyn am fis neu ddau yn gallu troi’n arian mawr! Mae pris latte maint canolig yn gallu darparu hyd at 10 pryd i bobl mewn angen yn y DU. Beth am drio rhoi’r gorau iddo ar gyfer FareShare Cymru a rhoi’r arian rydych yn ei arben i frwydro yn erbyn newyn a gwatraff bwyd.

Cliriwch eich anrhefn!

Oes gennych chi bethau sydd angen eu clirio? Mae ffordd ichi wneud hyn tra’n cefnogi ni’r un pryd! Rhowch eich hen lyfrau/cryno ddisgiau/ DVDs drwy app Ziffit, chwiliwch am ‘FareShare Cymru’ wrth y ddesg dalu a chaiff gwerth eich arian ei roi i ni. Gallwch bostio’r eitemau neu drefnu i’w casglu am DDIM.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cliciwch yma i gyfrannu

Ewch i siopa

Os ydych chi’n newid i siopa drwy smile.amazon yn lle amazon.com, fe wnân nhw gyfrannu 0.5% o bris eich prynu cymwys yn syth i ni, sy’n golygu y gallwn ni helpu hyd yn oed mwy o bobl newynog yng Nghymru. Ewch i smile.amazon.co.uk ac arwyddo mewn gyda’ch manylion cyfrif Amazon arferol, neu dewiswch ‘Create your Amazon account’.
Dewiswch ‘Food Redistribution Wales Ltd’ yn y bocs ‘pick your own charitable organisation’ ar ochr dde’r sgrin.

Syniadau codi arian ar gyfer ysgolion

Os ydych chi’n athro ysgol, cymhorthydd dysgu, yn rhiant neu’n ddisgybl, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gael yr ysgol gyfan i gymryd rhan, i fwynhau a helpu codi arian i FareShare Cymru.

Diwrnod di-wisg ysgol
Diwrnod poblogaidd iawn i ddisgyblion ym mhob man – beth am gynnal diwrnod di-wisg ysgol gyda’r disgyblion yn talu £1 am y fraint o gael gwisgo’u dillad hamdden am y dydd. Pam na wnewch chi annog yr athrawon i wisgo’r wisg ysgol i newid pethau go iawn!

Gŵyl Gynhaeaf
Yn lle casglu tuniau, beth am gynnal gwasanaeth am faint o fwyd da o bob cynhaeaf sy’n mynd yn wastraff tra bo miliynau o bobl yn y DU yn newynu. Pe bai pob disgybl yn dod â £1 i gyfrannu i FareShare Cymru, fe fydden nhw’n talu am 4 pryd i bobl mewn angen.

Disgo ysgol
D-I-S-G-O! Dewiswch thema, trefnwch wirfoddolwyr a gwerthwch docynnau i ddisgo ysgol. Gwerthwch ddanteithion i hybu’r ymgyrch codi arian!

Digwyddiadau codi arian ar y gweill

Does dim digwyddiadau codi arian ar hyn o bryd, ond dewch nôl i wirio’n fuan!

Oes gennych chi syniad am ddigwyddiad codi arian gwych? Cysylltwch am fwy o fanylion neu gefnogaeth

Ebost: info@fareshare.cymru

Ffôn: 029 20362111