fbpx

Mae FareShare Cymru yn elusen fach ac annibynnol sy’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau i barhau gydag ein gwaith. Gallwn gyflawni llawer iawn heb lawer iawn yn FareShare Cymru. Bydd pob punt y byddwch chi’n ei gyfrannu yn ein helpu i baratoi 4 pryd i bobl mewn angen ledled Cymru.

Mae angen eich help chi arnom ni i gynnig mwy o fwyd iach a maethlon i elusennau, grwpiau cymunedol, cynlluniau gweithgareddau a’r ysgolion rydym ni’n eu cefnogi.

£1

4 pryd i bobl mewn angen

£10

40 pryd i unigolyn digartref

£20

80 cinio mewn clwb gwyliau ysgol

£50

200 pryd mewn canolfan dydd sy’n cefnogi pobl hŷn a mynd i’r afael gydag unigedd ac unigrwydd

Rhoddion mewn nwyddau

Ydych chi’n meddu ar sgil defnyddiol, yn gallu manteisio ar adnoddau neu gallwch chi gyfrannu unrhyw beth arall? Mae rhoddion mewn nwyddau yn fuddiol iawn inni, gan ein helpu i leihau ein costau gweithredu. Dyma ychydig o syniadau ichi:

  • Rhoddi cyfarpar swyddfa fel argraffydd, nwyddau ysgrifennu neu gyfarpar warws fel blwch oeri neu festiau llachar. Gofynnwch inni beth sydd ei angen arnom ni
  • Cynnig gwasanaeth fel ffotograffiaeth – mae’n debyg y byddwn yn arddangos eich lluniau ar ein gwefan ac ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol
  • Cynnig arbenigedd neu gyngor fel sgiliau digidol
  • Ewch gam ymhellach ac ewch i fwrw golwg ar ein tudalen codi arian am ysbrydoliaeth – cliciwch yma i weld y dudalen codi arian
  • Ewch ati i annog eich cwmni i gymryd rhan a hybu eich delwedd gyhoeddus. Cliciwch yma i ganfod mwy am:
  • Partneriaethau Corfforaethol
  • Gweithwyr yn Gwirfoddoli

Anfonwch siec

Gallwch lunio siec yn daladwy i: Food Redistribution Wales Ltd a’i hanfon atom ar:

FareShare Cymru, Uned S5, Parc Busnes Capital, Caerdydd CF3 2PU

Rhannwch ein manylion cyswllt gyda ni ac fe wnawn ni gysylltu i’ch hysbysu bod y siec wedi cyrraedd yn ddiogel.

Trefnu archeb sefydlog

Partneriaethau Corfforaethol

Os ydych chi’n fusnes bach neu’n gorfforaeth sylweddol, mae sawl ffordd gallai eich cwmni chi gydweithio gyda ni, cefnogi FareShare Cymru ac effeithio’n uniongyrchol

Cyfrannu

Mae FareShare Cymru yn elusen fach ac annibynnol sy’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau i barhau gydag ein gwaith. Gallwn gyflawni llawer iawn

Swyddi Gwag

Mae FareShare Cymru yn recriwtio! Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd i fod yn rhan o’n stori! Cydlynydd Codi Arian Mae hon