fbpx

Mae Gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd a chynnig rhywbeth yn ôl i’n cymunedau.

Os ydych chi’n codi fel y gog neu megis tylluan y nos, mae gennym ni sifftiau bore neu brynhawn drwy’r wythnos neu ar ddydd Sadwrn.

Felly, os ydych chi dros 16 ac yn gallu cynnig ychydig oriau’r wythnos, cysylltwch gyda ni ar volunteer@fareshare.cymru neu ffoniwch 029 2036211

Rolau

Cynorthwyydd Warws

Byddwch yn ein cynorthwyo i gadw trefn yn ein warws a chadw’r bwyd sy’n cyrraedd ac yn gadael ein warws yn ddiogel. Byddwch hefyd yn ein helpu i drefnu archebion ar gyfer ein haelodau cymunedol ac yn ennill profiad sylweddol fel rhan o dîm y warws. Mae’n bosib y bydd modd ichi fanteisio ar hyfforddiant wagen fforch godi hefyd

Gyrrwr Cludo Bwyd

Buasai’n amhosib inni gludo bwyd i’n haelodau bwyd cymunedol, i baratoi prydau i’r rheiny mewn angen, heb y gyrwyr. Os ydych chi dros 25 ac yn meddu ar drwydded yrru lawn a heb bwyntiau, cysylltwch gyda ni. Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth gyda gyrru ein faniau 3.5 tunnell. Os ydych chi’n yrrwr faniau profiadol, neu’n dymuno ennill profiad, fe allwn ni eich helpu chi i’n helpu ni.

Cynorthwyydd Cludo

Ymunwch gydag ein gyrwyr ar eu teithiau’n cludo bwyd i’r mannau priodol, Os ydych chi’n fodlon codi a chario’r bwyd – mae’n fwy effeithiol nag ymweld â’r gym, ac yn gallu helpu gyda chyfeirio’r gyrrwr, gallai hon fod y rôl ddelfrydol ichi.

Gweithrediadau a Gwaith Gweinyddol

Rôl gymysg gan ein helpu i sicrhau y caiff ein holl fwyd ei gofnodi’n gywir a bod ein nodiadau danfon yn barod i’w cludo gyda’r archebion. Os oes gennych chi lygaid craff am fanylion ac yn dymuno ennill sgiliau swyddfa a TchG, dyma’r rôl fyddai’n gweddu ichi.

Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu

O bryd i’w gilydd, mae angen cymorth arnom i ddiweddaru ein rhaglenni cyfryngau cymdeithasol a marchnata. Os ydych chi’n dymuno dilyn gyrfa yn y byd marchnata, gallai hon fod yr union rôl ichi.

Cynorthwyydd Tîm Datblygu

Mae FareShare Cymru yn ehangu. Helpwch ni i ledaenu’r gair i recriwtio mwy o gyflenwyr bwyd a sicrhau bod ein Haelodau Bwyd Cymunedol mor hapus ac yn ymgysylltu gymaint â phosibl. Gallwch chi helpu i gefnogi dau ben yr hyn rydyn ni’n ei wneud, o’r bwyd sy’n dod mewn, i ben ei daith yn cael ei wneud yn brydau bwyd gan ein Haelodau Bwyd Cymunedol

Cynorthwyydd Ymgysylltu Gwirfoddolwyr

Heb wirfoddolwyr, ni allai FareShare Cymru wneud yr hyn ‘rydym ni’n ei wneud. Helpwch ni i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr presennol mor hapus ag y gallant fod, ac yn ymgysylltu gymaint ag sy’n bosib, a helpwch ni i ledu’r gair er mwyn recriwtio mwy o wirfoddolwyr. Gorau po fwyaf!

Y buddion ynghlwm â gwirfoddoli gyda ni:

  • Helpu dosbarthu bwyd i’r rheiny sydd mewn angen
  • Arbed cannoedd o dunelli o fwyd rhag mynd i wastraff yn ddiangen.
  • Ennill sgiliau gwaith a phrofiad mewn gweithle.
  • Hybu eich hyder a gwneud ffrindiau mewn grŵp amrywiol a chefnogol.

Mae ein gwirfoddolwyr yn dweud bod gwirfoddoli gyda ni yn werth chweil, yn eu cadw’n heini ac yn eu helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned. 

Ceisio i wirfoddoli

Gwirfoddoli

    Dydyn ni ddim yn recriwtio gwirfoddolwyr achlysurol ar hyn o bryd
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Gwirfoddoli gyda ni

Mae Gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd a chynnig rhywbeth yn ôl i’n cymunedau. Os ydych

Gweithwyr yn Gwirfoddoli

Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi