fbpx

Bydd y bwyd byddwch chi’n ei gasglu’n fwyd dros ben sydd heb ei werthu erbyn diwedd y dydd. Mae ein holl fwyd yn fwyd o safon sydd dros ben i’r galw a does dim modd ei werthu yn y siop mwyach.

Rydym yn cydweithio gyda 3 manwerthwr sylweddol, Tesco, Waitrose ac Asda. Mae hyn yn golygu bod dros 3,500 o siopau ledled y wlad yn cyfrannu eu bwyd dros ben i fudiadau lleol.

Mae’r bwyd yn amrywio o un siop i’r llall ac o un archfarchnad leol i’r llall. Mae hyn yn gymorth i elusennau a grwpiau cymunedol leihau eu cyllidebau bwyd wythnosol.

Y broses?

Byddai FareShare yn eich paru gyda siop leol a fyddai’n anfon hysbysiad ar eich diwrnod cyfrannu dewisol ichi gasglu’r bwyd. Yna dewch draw i’r siop a chasglu’r bwyd gan aelod cyfeillgar o staff.

Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng aelodaeth lawn gyda FareShare?

Mae FareShare Go yn manteisio ar fwyd gan lefel archfarchnad (manwerthu) y diwydiant bwyd. Ar y llaw arall, gydag aelodaeth lawn FareShare Cymru byddwch yn manteisio ar lefelau cyfanwerthu a chynhyrchu’r diwydiant bwyd. Mae’n gyfansymiau llai o fwyd dros ben a gan amlaf maen nhw’n nwyddau becws amgylchynol a ffrwythau a llysiau. Gallwch eu hystyried fel bwyd ‘sticeri melyn’. Mae’r holl fwyd yn fwyd dros ben sy’n dal yn fwytadwy lle nad oes modd i’r manwerthwr ei werthu. Gan fod yr amrywiaeth a’r niferoedd o fwyd dros ben ar y lefel hwn yn llai fel arfer, mae’n bosib na fyddai FareShare Go yn llwyddo i fodloni’ch holl anghenion o ran bwyd. Mae’n debyg felly mai’r aelodaeth lawn fuasai’r dewis gorau ichi. Bydd FareShare Go yn cynnig bwyd ychwanegol i’ch cyflenwad bwyd presennol sydd am ddim, yn fwyd o safon ac yn flasus hefyd!
Gallwch fanteisio ar y ddau gynllun yr un pryd ac mae’r ddau yn ategu ei gilydd i’ch cynorthwyo chi i gaffael cymaint o fwyd ag sydd ei angen i helpu trigolion eich cymuned.

Gallwch gael mynediad i’r ddau gynllun ar yr un adeg, ac mae’r ddau yn gweithio’n dda â’i gilydd i’ch cynorthwyo chi i gael cymaint o fwyd ag sy’n bosib i helpu pobl yn eich cymuned.

Pa fath o fwyd fydda i’n ei dderbyn?

Gallwch dderbyn cynnyrch becws, ffrwythau a llysiau, wyau, blodau, pecynnau bwyd wedi’u gwahanu, bwyd gyda phecynnau wedi’u difrodi ond lle nad ydy’r bwyd yn agored i’w halogiad a bwyd oer os oes gennych chi’r rhagofalon diogelwch bwyd ar waith. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r bwyd gaiff ei gyfrannu trwy’r cynllun FareShare Go yn eitemau becws amgylchynol a frwythau a llysiau.

FareShare Go

FareShare Go

Bydd y bwyd byddwch chi’n ei gasglu’n fwyd dros ben sydd heb ei werthu erbyn diwedd y dydd. Mae ein holl fwyd yn fwyd

Manteisio ar fwyd

Mae FareShare Cymru yn cyflenwi dros 210 o fudiadau rheng flaen hanfodol ledled Cymru gyda bwyd dros ben ffres, blasus ac sydd o fewn

Ymaelodi gyda FareShare Cymru

Rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o fudiadau gan gynnig cefnogaeth frys iddyn nhw drwy fynd ati i fodloni eu hanghenion bwyd, o bantrïau