fbpx

Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd.

Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol.

Amcan y gronfa yw goresgyn y rhwystrau mae busnesau bwyd a diod Cymreig (ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr, gwneuthurwyr, cyfanwerthwyr a.y.b.) yn eu hwynebu wrth ystyried ail-ddosbarthu bwyd dros ben i elusen.

Gallai’r gronfa helpu gyda chostau tasgau fel:

  • Llafur
  • Pecynnu
  • Rhewi
  • Cynaeafu
  • Trafnidiaeth
  • Pethau eraill…

Ni ddylai fod yn rhatach taflu bwyd da i’r sbwriel nag yw i fwydo teuluoedd sydd angen bwyd.

Awdurdod manwerthwyr

Mae gan FareShare awdurdod gan bob prif fanwerthwr i ailddosbarthu eu cynhyrchion label sydd yn cael eu gwneud gan wneuthurwyr.

Mae busnesau ledled y DU eisoes yn elwa o’r gefnogaeth hon:

Eisiau darganfod mwy?

Cwblhewch y ffurflen ac fe fyddwn yn cysylltu gyda mwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd.

Bwyd Dros Ben ag Amcan

Manylion bwyd dros ben, rheswm dros eich ymholiad ac ati.
Where did you hear about us?