fbpx

Polisi Preifatrwydd

Dyddiad yn effeithiol: Mai 10fed  2021

Ni fuasem yn gallu gwneud dim o’n gwaith sy’n newid bywydau heb gefnogwyr fel chi.

Boed hynny yn rhoi yn hael, cefnogi ein hymgyrchoedd neu wirfoddoli drwy roi o’ch amser, mae eich cefnogaeth yn amhrisiadwy. Mae’r wybodaeth rydych yn ei darparu yn ein helpu i gyflawni ein gwaith ac yn ein galluogi i ddweud wrthych am y gwahaniaeth rydych yn ei wneud.

Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych yn cytuno inni gasglu a defnyddio gwybodaeth yn unol â’r polisi hwn.

Mae ein hymrwymiad i ddiogelu eich preifatrwydd yn hollbwysig yn FareShare Cymru. Mae’r polisi hwn yn nodi pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol, sut rydym yn ei defnyddio a sut rydym yn ei chadw’n ddiogel.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y Polisi hwn cysylltwch gyda ni:

Diffiniadau ar gyfer y polisi hwn

Gwasanaeth (Safle)

Gwasanaeth ydy’r wefan http://fareshare.cymru a’r cynnwys gaiff ei weithredu gan FareShare Cymru

Data personol 

Data Personol ydy data am unigolyn byw y mae modd ei adnabod o’r data hwnnw (neu o wybodaeth arall naill ai yn ein meddiant neu yn debygol o ddod i’n meddiant). Data di-bersonol ydy data nad oes modd ei adnabod yn bersonol o gwbl.

Data Defnydd

Data defnydd ydy data gaiff ei gasglu yn awtomatig naill ai wedi’i greu drwy ddefnydd o’r Gwasanaeth neu o isadeiledd y Gwasanaeth ei hun (er enghraifft, hyd unrhyw ymweliad ar dudalen).

Cwcis 

Darnau bach o ddata ydy cwcis gaiff eu storio ar eich dyfais (cyfrifiadur neu ddyfais symudol).

Rheolydd Data

Rheolydd Data ydy’r person naturiol neu gyfreithiol sydd (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda neu ar y cyd gydag eraill) yn penderfynu’r dibenion pam a sut caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei phrosesu heddiw neu yn y dyfodol.

At ddiben y Polisi Preifatrwydd hwn, rydym ni yn Rheolydd Data o’ch Data Personol.

Proseswyr Data (neu Ddarparwyr Gwasanaeth)

Prosesydd Data (neu Ddarparwr Gwasanaeth) ydy unrhyw berson naturiol neu gyfreithiol sy’n prosesu’r data ar ran y Rheolydd Data.

Efallai byddwn yn defnyddio gwasanaethau nifer o Ddarparwyr Gwasanaeth er mwyn prosesu eich data yn fwy effeithiol.

Deilydd Data (neu Ddefnyddiwr)

Deilydd Data ydy unrhyw unigolyn byw sy’n defnyddio ein Gwasanaeth ac yn ddeilydd Data Personol. Gall y term yma hefyd gael ei ddefnyddio yn gyfnewidiol ar y cyd er mwyn cyfeirio at ymwelydd neu aelod.

Ymwelydd

Ymwelydd ydy rhywun sy’n pori ein gwefan.

Aelod

Aelod ydy rhywun sydd wedi cofrestru gyda ni i ddefnyddio ein gwasanaethau

 
Casglu Gwybodaeth 

Byddwn yn casglu sawl gwahanol fath o wybodaeth gan gynnwys gwybodaeth bersonol gennych at amryw o ddibenion er mwyn darparu a gwella ein Gwasanaeth ichi. Rydych yn gwirfoddoli’r wybodaeth hon mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, pan fyddwch yn cofrestru gyda ni i ddod yn wirfoddolwr, holi am ddod yn Aelod Bwyd Cymunedol (ABC) neu roddwr bwyd, cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, rhoi rhodd inni neu fel arall rhoi gwybodaeth bersonol inni.

Mathau o Ddata gaiff eu Casglu

Data personol 

Wrth ichi ddefnyddio ein Gwasanaeth, efallai byddwn yn gofyn ichi roi inni wybodaeth bersonol y mae modd eich adnabod er mwyn ei defnyddio i gysylltu gyda chi neu i’ch adnabod (“Data Personol”). Gall gwybodaeth bersonol y mae modd eich adnabod gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw cyntaf ac olaf
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad, Sir, Côd Post, Dinas
  • Cwcis a Defnydd Data

Efallai byddwn yn defnyddio eich Data Personol er mwyn cysylltu gyda chi yn y modd rydych wedi’i nodi, anfon cylchlythyr, deunydd marchnata neu hyrwyddo a gwybodaeth arall fyddai efallai o ddiddordeb ichi. Fe allwch ddewis peidio â derbyn unrhyw un neu’r holl gyfathrebiadau hyn gennym drwy ddilyn y ddolen gyswllt i ddad-danysgrifio neu gyfarwyddiadau mewn unrhyw e-bost gennym neu drwy gysylltu gyda ni.

Data Defnydd

Efallai byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am sut mae pobl yn mynd at y Gwasanaeth ac yn ei ddefnyddio (“Data Defnydd”). Gall y Data Defnydd hwn gynnwys gwybodaeth fel cyfeiriad Protocol y We (IP) eich cyfrifiadur, math o borwr, fersiwn y porwr, tudalennau ein Gwasanaeth rydych yn ymweld â nhw, amser a dyddiad eich ymweliad, faint o amser rydych wedi’i dreulio ar y tudalennau hynny, adnabyddwyr dyfais unigryw a data diagnostig arall.

Data Lleoliad

Efallai byddwn yn defnyddio ac yn storio gwybodaeth am eich lleoliad os byddwch yn rhoi caniatâd inni wneud hynny (“Data Lleoliad”). Rydym yn defnyddio’r data hwn i ddarparu nodweddion o’n Gwasanaeth, i wella ac addasu ein Gwasanaeth.

Gallwch alluogi neu analluogi gwasanaethau lleoliad pan fyddwch yn defnyddio ein Gwasanaeth ar unrhyw adeg, trwy osodiadau eich dyfais.

Defnyddio cwcis

Mae ‘Cwcis’ yn ffolderi bach gaiff eu cadw ar eich dyfais sy’n olrhain, cadw a storio gwybodaeth gall gynnwys adnabyddwr unigryw dienw am eich rhyngweithiadau a defnydd o’r wefan. Mae cwcis yn ddefnyddiol gan eu bod yn caniatáu gwefan i adnabod dyfais defnyddiwr a rhoi ichi brofiad wedi’i deilwra o fewn y wefan hon. Cewch fwy o wybodaeth am gwcis ar https://ico.org.uk/for-the-public/online/cookies

Mae gwefan FareShare Cymru yn defnyddio cwcis i wella eich profiad wrth ymweld â’n gwefan ac i sicrhau eich bod yn gallu rhyngweithio gyda’n gwefan yn llwyddiannus. Tydy defnyddio cwcis ddim yn rhoi mynediad i FareShare Cymru at weddill eich cyfrifiadur nac i wybodaeth bersonol amdanoch.

Rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg i olrhain y gweithgaredd ar ein Gwasanaeth a dal rhai gwybodaeth.

Technolegau olrhain eraill gaiff eu defnyddio ydy begynau, tagiau a sgriptiau i gasglu ac olrhain gwybodaeth i wella a dadansoddi ein Gwasanaeth.

Fe allwch ddweud wrth eich porwr i wrthod pob cwci neu i ddangos pan gaiff cwci ei anfon. Fodd bynnag, os na fyddwch yn derbyn cwcis, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau o’n Gwasanaeth.

Enghreifftiau o Cwcis rydym yn eu defnyddio:

  • Cwcis Sesiwn: Rydym yn defnyddio Cwcis Sesiwn i weithredu ein Gwasanaeth i gysylltu’r hyn mae defnyddiwr yn ei wneud yn ystod sesiwn bori. Mae Cwcis Sesiwn yn dod i ben ar ôl i sesiwn bori ddod i ben. Ni chaiff Cwcis Sesiwn eu storio y tu hwnt i hyn.
  • Cwcis Ffafriaeth. Rydym yn defnyddio Cwcis Ffafriaeth i gofio eich ffafriaeth a’ch gwahanol osodiadau.
  • Cwcis Diogelwch. Rydym yn defnyddio Cwcis Diogelwch at ddibenion diogelwch.
  • Cwcis Ailfarchnata. Efallai byddwn yn defnyddio gwasanaethau ail-farchnata i ddangos hysbysebion ichi ar wefannau trydydd barti ar ôl ichi ymweld â’n Gwasanaeth. Rydym ni a’n gwerthwyr trydydd barti yn defnyddio cwcis i ddangos negeseuon sy’n seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol i’n Gwasanaeth.

Os hoffech wybod mwy am ein defnydd o Gwcis, yna cysylltwch gyda ni. Defnyddiwch y manylion hyn: 029 20362111  datacontroller@fareshare.cymru 

Eich Data 

Defnydd o ddata 

Mae FareShare Cymru yn defnyddio’r data gaiff ei gasglu at sawl diben:

  • Darparu a chynnal ein Gwasanaeth
  • Rhoi gwybod ichi am newidiadau i’n Gwasanaeth
  • Caniatáu ichi gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein Gwasanaeth pan fyddwch yn dewis gwneud hynny
  • Rhoi cefnogaeth i gwsmeriaid
  • Casglu dadansoddiad neu wybodaeth werthfawr fel bod modd gwella ein Gwasanaeth
  • Monitro defnydd o’n Gwasanaeth
  • Canfod, atal a mynd i’r afael â phroblemau technegol
  • Rhoi ichi newyddion, cynigion arbennig a gwybodaeth gyffredinol am nwyddau, gwasanaethau a digwyddiadau eraill rydym yn eu cynnig sy’n debyg i’r rheiny rydych eisoes wedi’u prynu neu holi amdanynt oni bai eich bod wedi dewis peidio â derbyn gwybodaeth o’r fath 
     

Sail Gyfreithiol dros Brosesu Data Personol dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Os ydych yn dod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), mae sail gyfreithiol FareShare Cymru dros gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol sydd wedi’i disgrifio yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn dibynnu ar y Data Personol rydym yn ei gasglu a’r cyd-destun penodol rydym yn ei gasglu ar ei gyfer.

Efallai bydd FareShare Cymru yn prosesu eich Data Personol oherwydd:

  • Mae arnom angen cyflawni cytundeb gyda chi
  • Rydych wedi rhoi caniatâd inni wneud hynny
  • Mae’r prosesu o ddiddordeb cyfreithiol inni ac nid yw’n diystyru eich hawliau
  • Er mwyn cydymffurfio gyda’r gyfraith

Cadw Data

Bydd FareShare Cymru yn cadw eich Data Personol dim ond am ba mor hir ag sydd ei angen at y diben sydd wedi’i nodi yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich Data Personol am ba mor hir ag sydd ei angen i gydymffurfio gyda’n rhwymedigaethau cyfreithiol (er enghraifft, os oes gofyn inni gadw eich data i gydymffurfio gyda deddfau perthnasol), datrys dadleuon a gorfodi ein polisïau a’n cytundebau cyfreithiol.

Bydd FareShare Cymru hefyd yn cadw Data Defnydd at ddibenion dadansoddi mewnol. Caiff Data Defnydd gan amlaf ei gadw am gyfnod byrrach o amser, tua 50 mis, ac eithrio, pan gaiff y data hwn ei ddefnyddio i gryfhau’r diogelwch neu i wella natur ymarferol ein Gwasanaeth neu fod gofyn cyfreithiol arnom i gadw’r data hwn am gyfnodau hirach.

Trosglwyddo Data 

Efallai caiff eich gwybodaeth, gan gynnwys Data Personol, ei drosglwyddo i a’i gynnal ar gyfrifiaduron y tu allan i’ch sir, talaith neu wlad neu awdurdod llywodraethol arall lle gall y cyfreithiau diogelu data fod yn wahanol i’r rheiny yn eich awdurdod chi.

Efallai bydd FareShare Cymru hefyd yn rhannu eich data o fewn rhwydwaith rhanbarthol FareShare a chyda FareShare y DU.

Os ydych yn dod o du allan i’r DU ac yn dewis rhoi gwybodaeth inni, dylech wybod ein bod yn trosglwyddo’r data, gan gynnwys Data Personol i’r DU ac yn ei brosesu yno.

Mae eich caniatâd i’r Polisi Preifatrwydd hwn ynghyd â’ch bod yn cyflwyno gwybodaeth o’r fath yn mynegi eich bod yn cytuno i’r trosglwyddo data hyn.

Bydd FareShare Cymru yn dilyn pob cam rhesymol sydd ei angen i sicrhau bod eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn ac na fydd eich Data Personol yn cael ei drosglwyddo i sefydliad neu wlad oni bai bod rheolaeth ddigonol mewn lle gan gynnwys diogelwch eich data a gwybodaeth bersonol arall. 
 

Datgelu Data 

Dydyn ni ddim yn gwerthu, masnachu na fel arall yn trosglwyddo eich data personol i drydydd barti allanol.

Rydym yn cadw’r hawl i ryddhau data personol o’r fath i’ch darparu gyda’r cynnyrch neu wasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt o fewn rhwydwaith FareShare.

Efallai caiff gwybodaeth di-bersonol ei ddarparu i bartïon eraill at ddefnydd marchnata, hysbysebu neu ddefnydd FareShare arall.

Datgelu ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith 

O dan rhai amgylchiadau, efallai bydd gofyn i FareShare Cymru ddatgelu eich Data Personol i orfodi ein polisïau gwefan, diogelu eich hawliau neu hawliau diogelwch neu eiddo eraill os oes gofyn i wneud hynny yn ôl y gyfraith neu mewn ymateb i geisiadau dilys gan awdurdodau cyhoeddus (e.e. cwrt neu asiantaeth lywodraethol).

Gofynion Cyfreithiol 

Efallai bydd FareShare Cymru yn datgelu eich Data Personol os bydd yn credu bod gwneud hynny yn angenrheidiol er mwyn:

  • Cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Diogelu ac amddiffyn hawliau neu eiddo FareShare Cymru
  • Atal neu ymchwilio i ddrygioni posibl mewn cysylltiad gyda’r Gwasanaeth
  • Diogelu diogelwch personol defnyddwyr y Gwasanaeth neu’r cyhoedd
  • Diogelu yn erbyn atebolrwydd cyfreithiol

Diogelwch Data 

Mae diogelwch eich data yn bwysig inni, ond cofiwch nad oes unrhyw ddull o drosglwyddo dros y We, neu ddull o storio electronig yn 100% diogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau masnachol derbyniol i ddiogelu eich Data Personol, ni allwn sicrhau ei ddiogelwch llwyr.

Eich Hawliau Diogelu Data dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 

Os ydych yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), mae gennych hawliau diogelu data penodol. Mae FareShare Cymru yn ceisio cymryd camau rhesymol i’ch caniatáu i gywiro, newid, dileu neu gyfyngu defnydd o’ch Data Personol.

Os hoffech wybod pa Ddata Personol sydd gennym ar eich cyfer ac os ydych am iddo gael ei ddileu o’n systemau, cysylltwch gyda ni datacontroller@fareshare.cymru

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawliau diogelu data canlynol:

Hawl i fynd at, diweddaru neu ddileu’r wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer. Pryd bynnag fo’n bosibl, fe allwch fynd at, diweddaru neu ofyn i ddileu eich Data Personol yn uniongyrchol yn adran gosodiadau eich cyfrif. Os na allwch wneud hyn eich hun, cysylltwch gyda ni i’ch helpu.

Hawl i gywiro. Mae gennych hawl i gywiro eich gwybodaeth os ydy’r wybodaeth honno yn anghywir neu anghyflawn. Byddwn yn gwneud hyn o fewn 30 diwrnod o’ch cais.

Hawl i wrthwynebu. Mae gennych hawl i wrthwynebu ein bod yn prosesu eich Data Personol.

Hawl i gyfyngu. Mae gennych hawl gofyn inni gyfyngu prosesu eich gwybodaeth bersonol.

Hawl i gludo data. Mae gennych hawl derbyn copi o’r wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer ar ffurf strwythuredig, hawdd i’w darllen gan beiriant a gaiff ei defnyddio’n gyffredinol.

Hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl. Mae gennych hefyd hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle’r oedd FareShare Cymru yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Efallai byddwn yn gofyn ichi gadarnhau pwy ydych cyn ymateb i gais o’r fath.

Mae gennych hawl i gwyno i Awdurdod Diogelu Data am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich Data Personol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’ch awdurdod diogelu data lleol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).

Caniatâd a Chyfathrebu 

Drwy roi eich gwybodaeth bersonol inni, rydych yn caniatáu inni gasglu a defnyddio’r wybodaeth honno at y dibenion sydd wedi’u disgrifio yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Mae’n hawdd ichi newid neu dynnu eich ffafriaeth cyfathrebu gyda ni yn ôl ar unrhyw adeg. Fe allwch gysylltu gyda ni ar unrhyw adeg i ofyn i wneud newidiadau i sut rydym yn cysylltu gyda chi – neu i ddweud wrthym am beidio â chysylltu gyda chi o gwbl. Byddwn bob tro yn parchu eich dymuniadau.

Ni fyddwn yn cysylltu gyda chi at ddibenion marchnata drwy e-bost neu dros y ffôn oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd blaenorol inni wneud hynny. Ni fyddwn yn cysylltu gyda chi at ddibenion marchnata drwy’r post os ydych wedi nodi nad ydych yn dymuno inni gysylltu gyda chi. I newid eich ffafriaeth farchnata ar unrhyw adeg cysylltwch gyda ni: Uned S5, Parc Busnes Capital, Caerdydd CF3 2PU, e-bost datacontroller@fareshare.cymru. Caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw’n breifat a’i storio yn ddiogel. Mae gennych hawl gofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer (byddwn yn codi tâl bach am hyn) a bod unrhyw anghywirdeb yn eich gwybodaeth yn cael ei gywiro. Ni chaiff eich gwybodaeth fyth ei rhannu gyda thrydydd barti.

Cyfryngau Cymdeithasol 

Bydd y data rydym yn gallu mynd ato drwy wasanaethau cyfryngau cymdeithasol yn amrywio ond bydd bob tro yn unol ag amodau a thelerau’r gwasanaeth penodol hwnnw. Ni fydd modd inni fynd at eich negeseuon preifat neu luniau a bydd yn cynnwys dim ond beth rydych yn ei anfon yn benodol atom.

Efallai bydd gwefan FareShare Cymru yn defnyddio botymau rhannu cymdeithasol sy’n helpu i rannu cynnwys gwefan yn uniongyrchol o dudalennau gwefannau i’r cyfrwng cymdeithasol dan sylw. Caiff defnyddwyr eu cynghori cyn defnyddio botymau rhannu cymdeithasol o’r fath mai eu dewis nhw ydy gwneud hynny ac y bydd y cyfrwng cymdeithasol efallai yn olrhain ac yn cadw eich cais i rannu tudalen gwe yn ei dro drwy eich cyfrif cyfrwng cymdeithasol.

Ailfarchnata Ymddygiadol 

Efallai bydd FareShare Cymru yn defnyddio gwasanaethau ail-farchnata i ddangos hysbysebion ichi ar wefannau trydydd barti ar ôl ichi ymweld â’n Gwasanaeth. Rydym ni a’n gwerthwyr trydydd barti yn defnyddio cwcis i hysbysu, gwneud y defnydd gorau o a chynnig hysbysebion yn seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol i’n Gwasanaeth.

Twitter 

Caiff gwasanaeth ailfarchnata Twitter ei ddarparu gan Twitter Inc.

Gallwch ddewis optio allan o’r hysbysebion sy’n seiliedig ar ddiddordeb ar Twitter drwy ddilyn eu cyfarwyddiadau: https://support.twitter.com/articles/20170405

Fe allwch ddysgu mwy am bolisïau ac arferion preifatrwydd Twitter drwy ymweld â’u tudalen Polisi Preifatrwydd: https://twitter.com/privacy

Facebook 

Caiff gwasanaeth ail-farchnata Facebook ei ddarparu gan Facebook Inc.

Fe allwch ddysgu mwy am hysbysebion sy’n seiliedig ar ddiddordeb gan Facebook drwy ymweld â’r wefan hon: https://www.facebook.com/help/516147308587266/how-ads-work-on-facebook/?helpref=hc_fnav  

I optio allan o’r hysbysebion sy’n seiliedig ar ddiddordeb ar Facebook dilynwch y cyfarwyddiadau hyn gan Facebook: https://www.facebook.com/help/568137493302217 

Mae Facebook yn glynu wrth yr Egwyddorion Hunan-Reoli ar gyfer Hysbysebu Ymddygiadol ar-lein gan y Gynghrair Hysbysebu Digidol. Fe allwch hefyd optio allan o Facebook a chwmnïau eraill sy’n cymryd rhan drwy’r Gynghrair Hysbysebu Digidol yn yr UDA   http://www.aboutads.info/choices/, Cynghrair Hysbysebu Digidol Canada http://youradchoices.ca/ neu Gynghrair Hysbysebu Digidol Rhyngweithiol Ewrop http://www.youronlinechoices.eu/, neu optio allan drwy ddefnyddio gosodiadau eich dyfais symudol.

Am fwy o wybodaeth am arferion preifatrwydd Facebook, ewch i weld Polisi Data Facebook: https://www.facebook.com/privacy/explanation

Google AdWords 

Caiff gwasanaeth ail-farchnata Google AdWords ei ddarparu gan Google Inc.

Fe allwch optio allan o Google Analytics ar gyfer Dangos Hysbysebion ac addasu Rhwydwaith Dangos Google drwy fynd ar dudalen Gosodiadau Google Ads: http://www.google.com/settings/ads

Mae Google hefyd yn awgrymu gosod Ychwanegiad Porwr Optio Allan Google Analytics – https://tools.google.com/dlpage/gaoptout – ar gyfer eich porwr gwe. Mae Ychwanegiad Porwr Optio Allan Google Analytics yn rhoi’r gallu i ymwelwyr atal eu data rhag cael ei gasglu a’i ddefnyddio gan Google Analytics.

Am fwy o wybodaeth am arferion preifatrwydd Google, ewch i dudalen gwe Telerau Preifatrwydd Google:  http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/ 

Analytics 

Efallai byddwn yn defnyddio Darparwyr Gwasanaeth trydydd barti i fonitro a dadansoddi defnydd ein Gwasanaeth.

Google Analytics 

Mae Google Analytics yn wasanaeth dadansoddol ar-lein gan Google sy’n olrhain ac yn adrodd am drafnidiaeth gwefan. Mae Google yn defnyddio’r data gaiff ei gasglu i olrhain a monitro defnydd ein Gwasanaeth. Caiff y data hwn ei rannu gyda gwasanaethau Google eraill. Efallai bydd Google yn defnyddio’r data gaiff ei gasglu i edrych ar yr hysbysebion mewn cyd-destun a’u personoli ar ei rwydwaith hysbysebu ei hun.

Fe allwch optio allan o ddewis bod eich gweithgaredd ar y Gwasanaeth ar gael i Google Analytics drwy osod yr ychwanegiad porwr optio allan Google Analytics drwy ddilyn y ddolen gyswllt hon https://tools.google.com/dlpage/gaoptout. Mae’r ychwanegiad yn atal JavaScript Google Analytics (ga.js, analytics.js, a dc.js) rhag rhannu gwybodaeth gyda Google Analytics am weithgaredd ymweliadau.

Am fwy o wybodaeth am arferion preifatrwydd Google, ewch i dudalen gwe Telerau Preifatrwydd Google:  http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/ 

Darparwyr Gwasanaeth 

Efallai byddwn yn cyflogi cwmnïau ac unigolion trydydd barti i hwyluso ein Gwasanaeth (“Darparwyr Gwasanaeth”), i ddarparu’r Gwasanaeth ar ein rhan, i berfformio gwasanaethau tebyg i’r Gwasanaeth neu i’n cynorthwyo i ddadansoddi sut caiff ein Gwasanaeth ei ddefnyddio. Rydym ni a’n gwerthwyr trydydd barti yn defnyddio cwcis i hysbysu, gwneud y defnydd gorau o a chynnig hysbysebion sy’n seiliedig ar eich ymweliadau blaenorol i’n Gwasanaeth.

Mae gan y trydydd barti hyn fynediad at eich Data Personol dim ond er mwyn perfformio’r tasgau hyn ar ein rhan ac mae gorfodaeth arnynt i beidio â’i ddatgelu na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Cylchlythyr drwy Ebost 

Mae FareShare Cymru yn cynhyrchu cylchlythyr drwy ebost, drwy ddefnyddio cyfrwng MailChimp Inc, y mae modd i ddefnyddwyr danysgrifio iddo trwy broses awtomatig ar-lein. Efallai caiff rhai tanysgrifiadau eu prosesu â llaw trwy ganiatâd ysgrifenedig blaenorol gan y defnyddiwr. Ni fyddwn byth yn rhannu eich manylion gyda thrydydd barti neu gwmnïau neu bobl y tu allan i FareShare Cymru, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd inni wneud hynny. Os hoffech ddad-danysgrifio i’n cylchlythyr, cliciwch ar y ddolen gyswllt dad-danysgrifio ar waelod unrhyw un o’n he-byst cylchlythyr. Fe allwch hefyd weld gwybodaeth ar sut i ddad-danysgrifio neu newid eich caniatâd yn y Polisi Preifatrwydd hwn o dan ‘Caniatâd a Chyfathrebu’.

Efallai bydd e-byst am ymgyrchoedd marchnata FareShare Cymru yn cynnwys cyfleusterau olrhain o fewn yr ebost ei hun. Caiff gweithgaredd tanysgrifwyr ei olrhain a’i storio mewn cronfa ddata i’w ddadansoddi a’i werthuso yn y dyfodol. Gall gweithgaredd o’r fath sydd wedi’i olrhain gynnwys; agor e-byst, anfon e-byst ymlaen, clicio ar ddolenni cyswllt o fewn cynnwys yr ebost, amseroedd, dyddiadau ac amlder y gweithgaredd a gweithgaredd arall. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio i fireinio ymgyrchoedd drwy ebyst yn y dyfodol a rhoi i’r defnyddiwr gynnwys mwy perthnasol yn seiliedig ar ei weithgaredd.

Dolenni Cyswllt Allanol – Trydydd Barti 

Gall ein Gwasanaeth gynnwys dolenni cyswllt i safleoedd eraill sydd ddim yn cael eu gweithredu gennym.

Er bod y wefan hon yn ceisio cynnwys dim ond dolenni cyswllt diogel, perthnasol ac o safon, caiff defnyddwyr eu cynghori i fod yn ofalus wrth glicio ar unrhyw ddolenni cyswllt gwe allanol gaiff eu crybwyll trwy gydol y wefan hon neu ar gyfryngau cymdeithasol FareShare Cymru.

Ni all FareShare Cymru sicrhau neu wirio cynnwys unrhyw un o’r gwefannau allanol er gwaethaf ein hymdrechion gorau. Dylai defnyddwyr felly fod yn ymwybodol mai eu penderfyniad nhw ydy clicio ar ddolenni cyswllt allanol ac ni all FareShare Cymru fod yn gyfrifol am unrhyw ddifrod neu gymhlethdodau gaiff eu hachosi o ymweld ag unrhyw un o’r dolenni cyswllt allanol sydd wedi’u crybwyll.

Preifatrwydd Plant 

Tydy ein Gwasanaeth ddim yn cyfeirio at unrhyw un o dan 18 oed (“Plant”).

Dydyn ni ddim yn bwrpasol yn casglu gwybodaeth bersonol y mae modd ei adnabod gan unrhyw un o dan 18 oed. Os ydych yn rhiant neu warchodwr ac yn ymwybodol bod eich Plant wedi rhannu Data Personol gyda ni, cysylltwch gyda ni. Os byddwn yn darganfod ein bod wedi casglu Data Personol gan blant heb wirio fod gennym ganiatâd rhiant, byddwn yn dilyn camau i ddileu’r wybodaeth o’n gweinyddwyr. 
 

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn 

Efallai byddwn yn diweddaru ein Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau drwy rannu’r Polisi Preifatrwydd newydd, gyda’r “dyddiad effeithiol” ar y top, ar y dudalen hon.

Rydym yn eich cynghori i adolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro am unrhyw newidiadau.

Mae FareShare Cymru yn cadw’r hawl i newid y Polisi Preifatrwydd hwn.