fbpx

Mae FareShare Cymru yn recriwtio!

Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd i fod yn rhan o’n stori!

Cydlynydd Codi Arian

Mae hon yn rôl newydd o fewn ein tîm datblygu. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig sydd â hanes o gynhyrchu incwm sylweddol i ymuno â ni yn ein cyfnod twf nesaf. Prif bwrpas y rôl fydd codi incwm i dalu costau rhedeg warws ychwanegol a phrosiectau/meysydd gwaith newydd. Bydd hyn yn cynnwys tyfu perthynas ag, ac ysgrifennu cynigion ar gyfer Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, wrth adeiladu rhwydwaith o bartneriaid corfforaethol.

Mae’r rôl hon yn swydd hybrid, gydag amser yn cael ei rannu rhwng ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a chartref. Efallai y bydd y rôl yn gofyn i ddeiliad y swydd deithio ledled Cymru a mynychu digwyddiadau y tu allan i oriau arferol.

Cydlynydd Datblygu Gweithredol

Mae’r swydd hon yn rôl newydd mewn ymateb i’r ddwy flynedd olaf o dwf cyflym yr elusen mewn gweithrediadau. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig, sy’n frwd dros dlodi bwyd a gwastraff bwyd yng Nghymru. Prif bwrpas y rôl fydd cynnal a gwella safonau gweithredu ar draws y sefydliad, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr a gwirfoddolwyr timau gweithrediadau a datblygu.

Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn ein warws yng Nghaerdydd, mae rhywfaint o weithio gartref yn bosibl. Mae trwydded yrru lân lawn yn hanfodol.

I wneud cais, anfonwch eich CV a datganiad ategol, gan gyfeirio at y pwyntiau yn y disgrifiad swydd a manyleb y person i swyddi@fareshare.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw 12:00 ddydd Gwener 3 Chwefror 2023.

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ymateb i bob ymgeisydd ac os nad ydych wedi clywed gennym, gofynnwn i chi ystyried eich bod wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.

Beth am ymuno gydag ein tîm anhygoel a’n cynorthwyo i drechu gwastraff bwyd a mynd ati i ddosbarthu bwyd dros ben o safon i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru..

Byddwn yn cyflwyno unrhyw gyfleoedd swyddi newydd ar y dudalen hon – darllenwch isod i weld sut gallwch chi fod hyn rhan o dîm y dyfodol!

Os hoffech chi drafod gwirfoddoli gyda ni, ewch i’n tudalen gwirfoddoli i wybod mwy.

Living Wage Employer

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig gyfradd cyflog yn y DU sy’n cael ei thalu’n wirfoddol gan dros 7,000 o fusnesau yn y DU sy’n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy’n diwallu anghenion bob dydd – fel y siop wythnosol, neu daith syndod i’r deintydd.

Partneriaethau Corfforaethol

Os ydych chi’n fusnes bach neu’n gorfforaeth sylweddol, mae sawl ffordd gallai eich cwmni chi gydweithio gyda ni, cefnogi FareShare Cymru ac effeithio’n uniongyrchol

Cyfrannu

Mae FareShare Cymru yn elusen fach ac annibynnol sy’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau i barhau gydag ein gwaith. Gallwn gyflawni llawer iawn

Swyddi Gwag

Mae FareShare Cymru yn recriwtio! Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd i fod yn rhan o’n stori! Cydlynydd Codi Arian Mae hon