fbpx

Mae FareShare Cymru wedi troi’n 10!

‘Rydyn ni mor falch ein bod wedi brwydro gwastraff bwyd a newyn ers 10 mlynedd!

Wythnos ddiwethaf fe ddathlon ni ein pen-blwydd yn 10 oed gan groesawu gwesteion i’n warws am adloniant, bwyd a chyfle i ddarganfod mwy am yr hyn ‘ry’n ni’n ei wneud. Cawsom hefyd brofi eirlaw, glaw a rhybudd tywydd melyn am wynt, ond nid oedd hyn yn rhwystr i ni!

Roedd teithiau o amgylch y warws wedi’u trefnu drwy gydol y dydd, gyda chyfle i’r gwesteion weld ein storfeydd ac oergelloedd, a gofyn cwestiynau i’n staff. Er ein bod wedi amcangyfrif tua 10 munud y daith, roedd y grŵp cyntaf wedi cael modd i fyw gyda Dan, un o’n Rheolwyr Gweithrediadau Cynorthwyol, ac yn dal i fod yn siarad awr yn ddiweddarach!

Ar ôl y teithiau roedd yna berfformiad cerddorol wedi’i drefnu gan un o’n gwirfoddolwyr, Nick Whiting. Pan nad yw e’n gwirfoddoli gyda ni, Nick yw arweinydd cysylltiol a ffidil gyntaf Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC. Trefnodd Nick berfformiad ar y cyd gyda’i gyd-wirfoddolwyr David Simpson and Glyn Price. Rhaid diolch hefyd i Beverley Wescott, Angharad Jones, Heather Thomas and Phil Pinder am eu rhan.

Cafodd ein cinio ei ddarparu’n garedig iawn gan Beca Lyne Pirkis y cogydd Cymreig a’r cyflwynydd a gyrhaeddodd rownd gynderfynol GBBO 2013. Daeth Beca i ymweld â’r depo ychydig ddiwrnodau cyn y dathliad i gael ei hysbrydoliaeth ar gyfer y pryd, gan ddewis eitemau dros ben i wneud Cawl Fegan Libaneaidd. Roedd yr adborth yn arbennig o dda gyda nifer o westeion yn rhyfeddu at yr hyn y gallwch chi ei wneud â thun o ffacbys! Allwn ni ddim diolch digon i Beca am ei help, ac am y gacen fendigedig y gwnaeth hi hefyd.

Pan ddechreuon ni FareShare Cymru 10 mlynedd yn ôl, roedden ni’n gwybod ei fod yn syniad da oedd yn gwneud synnwyr ac oedd ei angen yng Nghymru. Roedd yna fwyd da yn mynd yn wastraff ac roedd mudiadau a phobl a oedd angen bwyd. Roedden ni am newid hynny. 10 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r gwahaniaeth mae FareShare Cymru wedi’i wneud yn anghredadwy. Diolch enfawr i bawb sydd wedi’n helpu i gyflawni gymaint.

Sarah Germain, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol FareShare Cymru

Ein Hanes:

Lansio Fareshare Cymru 23.01.12 ©Steve Pope

Fe ddechreuon ni gyda grant o £1000 gan Amgylchedd Cymru (sydd ddim yn bodoli bellach, yn anffodus) Fe alluogodd hyn inni wneud galwadau ffôn, talu am gostau postio a phamffledi i ledu’r gair am yr hyn roedden ni’n ceisio’i wneud.

I ddechrau, dim ond 2 aelod o staff oedd yna. Dechreuon ni gan ail-ddosbarthu 2 dunnell o fwyd yn unig yn ein mis cyntaf (Gorffennaf 2011). Roedd gennym ni 4 aelod bwyd cymunedol a llai na 6 gwirfoddolwr ac roedden ni’n gweithio yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn unig.

Yn y blynyddoedd cynnar roedden ni’n ei chael hi’n anodd cael ffrwythau a llysiau ffres, a phenderfynodd grŵp o gyn-aelodau, oedd wedi bod ar leoliad â ni, sefydlu rhandir yn 2012-13 i’n helpu ni i gwrdd â’r angen…fe barodd ychydig o flynyddoedd.

Yn 2013/14, fe groesawon ni ein 3ydd aelod i’r tîm a dechrau lledaenu’n gafael – gan gychywn dosbarthu yn Nhorfaen yn ogystal â dechrau dod yn rhan o’r hyn a elwir yn Bwyd Caerdydd erbyn heddiw.

Yn 2016, fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig, sef ail-ddosbarthu digon i fwyd i gyfrannu at filiwn o brydau bwyd.

Mae’r nawdd a sicrhaodd y rhwydwaith gyda chymorth FareShare’r DU yn 2018 wedi’n helpu i dyfu’n gyflym. Galluogodd y nawdd gan ASDA a’r Loteri Genedlaethol ni i gyflogi mwy o aelodau staff – gan dyfu’r tîm i 6. Golygodd hyn ein bod ni’n gallu cynyddu’n cyrraedd i ardaloedd Rh.C.T, Caerffili, Pen-y-bont a Bro Morgannwg.

Erbyn 2019-20, roedden ni’n 7 aelod o staff ac wedi lledaenu i Ferthyr Tudful, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Blaenau Gwent. Golygodd hyn ein bod ni’n gallu cymryd mwy o fwyd a dechreuon ni agor ar ddyddiau Sadwrn a Gwyliau Banc.

Cafodd 2020 ei dominyddu gan y pandemig. Rydyn ni’n hynod falch o’n staff a gwirfoddolwyr am eu holl waith caled er mwyn sicrhau ein bod ni’n dosbarthu bwyd i’r llefydd oedd ei angen. Rydyn ni’n gwybod bod hyn wedi bod yn anodd. Fe ddyblon ni mewn maint, gan dyfu ar raddfa llawer cyflymach nag oedden ni wedi cynllunio gwneud, o ganlyniad i dwf yn y galw. Fe dyfodd nifer y mudiadau roedden ni’n eu cefnogi o 53 yn ystod 3 mis cyntaf y pandemig. Cawson ni’n gwirioni gan haelioni pobl wrth wirfoddoli o’u hamser hefyd, ac fe dyfodd niferoedd yn uwch nag erioed. Fe weithion ni hefyd gyda Llywodraeth Cymru, FareShare’r DU a FareShare Glannau’r Mersi i weithredu ymateb i argyfwng yng Ngogledd Cymru, a gyda’r Groes Goch yng Ngorllewin Cymru.

Gyda hyn i gyd, fe lwyddon ni i ail-ddosbarthu digon o fwyd i gyfrannu at 2.8 miliwn o brydau bwyd y llynedd.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi

  • arbed dros 4947 tunnell o fwyd rhag mynd yn wastraff
  • cyfrannu at dros 13.5 miliwn o brydau bwyd
  • mae 1000 o wirfoddolwyr wedi rhoi dros 95 mil o oriau
  • arbed dros £5 miliwn i’r trydydd sector
  • cefnogi dros 318 o aelodau bwyd cymunedol
  • helpu arbed tua 15,283 tunnell o allyriadau CO2

2021 a thu hwnt..

Rydyn ni’n ymwybodol bod ein gwasanaeth, ers amser hir, wedi canolbwyntio ar y De-Ddwyrain a Chanol De Cymru. Rydyn ni’n gwybod bod yna alw mewn ardaloedd eraill hefyd. Felly, ar gyfer cyfnod nesaf ein datblygiad, rydyn ni’n cymryd y camau cyntaf tuag at ddatblygu FareShare ledled Cymru.

Rydyn ni’n parhau â’n partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn FareShare Glannau’r Mersi i barhau i ddosbarthu a datblygu yng Ngogledd Cymru.

Eleni, rydyn ni hefyd wedi bod yn ymgymryd â gwaith datblygu yng Ngorllewin Cymru i’n galluogi ni i ddechrau dosbarthu yn yr ardal o fis Mawrth 2022. Fe fyddwn yn dechrau yn Sir Gaerfyrddin ac yn gobeithio gweithio mewn ardaloedd eraill yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi’n helpu ni i gyrraedd lle’r ydyn ni heddiw. Ni fyddai wedi bod yn bosib heblaw am ein gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, noddwyr, rhoddwyr bwyd, cefnogwyr, cynghorwyr, partneriaid ac aelodau bwyd cymunedol.