fbpx

Rhoddion gan Gyllid MotoNovo a Fruitful Office

Hoffwn ddweud diolch enwawr i Gyllid MotoNovo a Fruitful Office sydd wedi bod yn rhoi ffrwythau i FareShare Cymru ers Medi 2021.

Mae cwmni Fruitful Office yn dosbarthu ffrwythau i swyddfeydd ledled y DU. Pan gaeodd llefydd gwaith achos y pandemig, gofynnodd rhai o’r cleientiaid fel Cyllid MotoVoto, sydd yng Nghaerdydd, bod eu dosbarthiadau yn cael eu cyfeirio at bobl mewn angen.

Mae FareShare Cymru wedi derbyn 1,440 darn  ffrwyth yr wythnos wedi’u rhoi gan Gyllid MotoNovo ac wedi’u hail-ddosbarthu i 150 o elusennau a phrosiectau cymunedol yn Ne Cymru. Mae’r ffrwythau wedi’u mwynhau mewn llefydd fel clybiau plant, hosteli digartref a llochesau.

“Does gan nifer o’n defnyddwyr gwasanaeth ddim mynediad hawdd at fwyd, yn enwedig ffrwythau a llysiau. Weithiau, nid yw ffrwythau’n flaenoriaeth wrth fwydo teulu, ond maen nhw dal yn bwysig. Ein targed yw bod ein haelodau elusen yn derbyn ffrwythau a llysiau bob wythnos, ac mae’r rhoddion hyn yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn.”

Katie Padfield, Pennaeth Datblygu, FareShare Cymru