fbpx

Perthynas amhrisiadwy gyda Grŵp Bwyd 2 Sisters

Yn FareShare Cymru, rydyn ni’n derbyn bwyd gan archfarchnadoedd cenedlaethol a chynhyrchwyr Cymreig. Mae’n partneriaid bwyd yn bwysig inni gan fod bwyd lleol yn golygu llai o filltiroedd bwyd. Maen nhw’n darparu llif cyson inni o fwydydd o ansawdd da. Weithiau dyna’r unig fath o goginio cartref mae’n haelodau elusen yn ei dderbyn mewn wythnos.

Mae Grŵp Bwyd 2 Sisters, o Rogerstone, De Cymru, wedi bod yn gweithio gyda FareShare Cymru ers dechrau 2021. Nhw yw un o lwyddiannau mawr byd busnes Prydain yr 20 mlynedd diwethaf. Mae dros 5,000 o gydweithwyr o 36 o genhedloedd yn llwyddo i greu amrediad eang o rai o fwydydd gorau Prydain – o gyw iâr i bitsa, peis a phrydau parod a chawl. Dechreuodd Grŵp Bwyd 2 Sisters ar raddfa fach iawn yn y 1990au cynnar. Maen nhw wedi tyfu i fod yn un o gwmnïoedd cynhyrchu bwyd mwyaf Ewrop, sy’n cynhyrchu bwyd o ansawdd da iawn am bris arbennig o deg.

Mae’r cyfraniad i’n darpariaeth bwyd oer wedi bod yn amhrisiadwy.


Yn ddelfrydol, ddwywaith yr wythnos, rydyn ni’n newid trywydd ein taith ddosbarthu i gasglu cynhyrchion dros ben, ac yn eu trosglwyddo i’n warws. Caiff y bwyd ei dderbyn gan ein tîm, ei drefnu gan ein gwirfoddolwyr ac yna’i ddanfon allan gyda’n harchebion bwyd, sy’n golygu bod y bwyd yn ffres pan mae’n cyrraedd yr ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol a gefnogwn.

Diolch i Grŵp Bwyd 2 Sisters, Rogerstone, rydyn ni’n gobeithio y gall ein perthynas barhau.