fbpx

Canolfan TAVS, Caerdydd – Lle Diogel sy’n Hybu Lles

Mae Canolfan TAVS yng Nghaerdydd wedi bod yn cefnogi’r digartref a’r sawl sydd mewn sefyllfa fregus o ran llety ers 2001. Mae’r ganolfan yn cael ei disgrifio fel lle diogel i fod yn greadigol, lle mae pobl yn tyfu o ran hyder, yn gweld newid positif ac yn sylweddoli bod yna obaith, trwy eu becws, côr a gofod creadigol.

Nid oes gan y bobl rydyn ni’n eu cefnogi unrhyw rwydweithiau cefnogaeth eraill, na diogelwch teulu na ffrindiau. Rydyn ni’n gyson ac yn bresennol i bobl y ganolfan. Mae hyn yn bwysig iawn.

Nkini Pulei, cydlynydd TAVS

Ers Mawrth 2021 mae FareShare Cymru wedi bod yn darparu bwyd dros ben o ansawdd da i TAVS ar gyfer eu Co-op wythnosol. Am £2 yr wythnos, gall pobl lenwi bag gyda dewis eang o fwyd iachus, o lysiau a ffrwythau i duniau, cig a chynnyrch llaeth. Mae’r Co-op bwyd yn gwneud mwy na dim ond rhoi bwyd. Mae TAVS hefyd yn darparu offer coginio i bobl, fel plicwyr llysiau, er mwyn eu galluogi nhw i fanteisio i’r eithaf ar y bwyd sy’n cael ei ddarparu iddyn nhw.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r dewis eang o fwyd (gan FareShare Cymru) – mae’r cynnyrch llaeth, y llysiau a’r cig yn boblogaidd. Mae’n gyfle da i bobl gael llysiau a ffrwythau sydd efallai ddim yn flaenoriaeth wrth i bobl brynu bwyd. Rydw i wedi mwynhau’r cyfle i bobl drio pethau newydd hefyd. Rydyn ni wedi darparu pethau mew pobl wedi’u mwynhau, ond heb fod wedi gallu’u fforddio gynt. Rydyn ni wedi gallu rhoi deiet gwell i bobl.

Nkini Pulei, cydlynydd TAVS

Mae TAVS wedi gweld cynnydd yn yr amrediad o bobl sy’n defnyddio’r Co-op bwyd; o’r digartref, y sawl sydd mewn sefyllfa fregus o ran llety, i’r gymuned leol sy’n ei chael hi’n anodd prynu bwyd. Maen nhw’n gobeithio ail-agor eu gwasanaeth cyn hir i ddarparu sgiliau coginio a diwrnodau crefft i roi hyd yn oed mwy o gefnogaeth i’r gymuned leol.