fbpx

Haf y Picnics – Tîm Flourish o Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd

Yn ystod yr haf eleni, mae pobl ifanc Caerdydd wedi bod yn cyfrannu at yr ymgyrch i leddfu ansicrwydd bwyd wrth ddatblygu sgiliau gydol-oes.

Pantri Tremorfa sy’n rhedeg prosiect Haf y Picnics, a thîm Flourish o Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA ) sy’n ei ariannu.

Mae’r prosiect yn derbyn bwyd dros ben gan FareShare Cymru, sy’n cael ei drefnu wedyn gan grŵp o bobl ifanc, yna’i ddosbarthu i deuluoedd a grwpiau cymunedol ar gyfer picnics.

Cafodd y prosiect ei sefydlu dair blynedd yn ôl yn wreiddiol, gan grŵp o bobl ifanc gydag anghenion dysgu, i’w helpu i gymdeithasu. Erbyn hyn mae’r prosiect wedi tyfu i gynnwys pobl ifainc ar draws y gymuned.

Daeth y syniad i ddarparu bwyd picnic i bobl o ganlyniad i’r newyddion am dlodi bwyd yr haf.

Roedd y bobl ifanc wir yn poeni ac yn ei chael hi’n anodd deall bod pobl yn mynd i fod yn ei chael yn anodd rhoi bwyd ar y bwrdd dros yr haf.

HEATHER MCDOWELL, SWYDDOG DATBLYGU Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, CCHA

Y bobl ifanc oedd yn arwain y prosiect, nhw oedd yn gwneud popeth, o gofnodi’r bwyd roedden ni’n ei dderbyn, cyfrifo symiau, iechyd a diogelwch a phobi.

Maen nhw’n datblygu sgiliau heb yn wybod iddyn nhw, ond mae modd gweld gwelliant. Mae Maths yn un o’r sgiliau mwyaf. Er enghraifft, gallwn ni fod yn cael bocsys o greision Skips â chwech mewn pecyn, gydag 80 bocs ar gyfer 50 o deuluoedd. Mae angen mathemateg a datrys problemau ar gyfer hyn. ‘Dw i wedi gweld eu hyder yn datblygu, a’u gweld yn gweithio’n well fel tîm.  

Roedd rhaid inni ddweud wrth ambell i riant o eistedd mewn cwpwrdd a pheidio â thorri ar draws.

HEATHER MCDOWELL, SWYDDOG DATBLYGU Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, CCHA

Eleni, cefnogodd Haf y Picnics 50 picnic yng Nghaerdydd gan gynnwys cynlluniau chwarae, grwpiau ffydd a theuluoedd unigol.

Roedd un o’r bechgyn ifanc yn dod mewn a pharatoi’r picnics. Roedd e hefyd yn rhan o’r picnic ei hun fel person ifanc. Roedd y balchder yn ei wyneb yn ychwanegiad bach werth ei weld.

Ry’n ni wedi derbyn llawer o adborth gan deuluoedd, ac mae’n arbennig. Mae wedi dod â’r gymuned ynghyd gyda chynnyrch da iawn. Parodd beth o’r cynnyrch ar ôl y picnics. Mae Fareshare wedi bod yn ardderchog yn darparu’r bwyd picnic bendigedig hyn. Roedd pob wythnos mor hyfryd ac addas.

HEATHER MCDOWELL, SWYDDOG DATBLYGU Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, CCHA

Mae’r prosiect hefyd wedi helpu creu ymdeimlad o gymuned ymysg y bobl ifanc. Trefnon nhw farchnad a chodi £300 i ffoaduriaid Affganistan. Fel ffordd o ddiolch iddyn nhw, aeth Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd â nhw i’r ffair yn Ynys y Barri.

Doedd un o’r bechgyn heb fod ar y reidiau o’r blaen, ac yn dweud “dydyn ni byth yn gallu fforddio nhw, fel teulu â phump o blant”. Roedd yn wobr arbennig iddyn nhw, un wnaethon nhw ei gwerthfawrogi’n fawr.

HEATHER MCDOWELL, SWYDDOG DATBLYGU Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, CCHA

Mae syniadau eraill gan y bobl ifanc am weddill y flwyddyn, gan gynnwys taith Calan Gaeaf, ac ymgais i guro Record Byd am y tombola mwyaf erioed!