fbpx

Cronfa Cymunedau y Dreth Tirlenwi

Mae’n bleser gan FareShare Cymru gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant gan Gronfa y Dreth Gwarediadau Tirlenwi fydd yn cael ei ddefnyddio gennym i ymestyn ein gwaith i ardal Gorllewin Cymru.

Mae Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau o fewn pum milltir o orsafoedd trosglwyddo gwastraff arbennig, neu safleoedd tirlenwi er mwyn hybu arallgyfeirio gwastraff o’r safleoedd tirlenwi hyn.

Gan gychwyn yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn y broses o sefydlu partneriaeth gyda sefydliad sy’n bodoli eisoes i gynnal un o’n faniau ni. Byddwn yna yn gobeithio sefydlu “Mannau Casglu lleol” ledled Gorllewin Cymru i alluogi’n haelodau elusen i gasglu bwyd gennym ni.

I gychwyn, byddwn yn anelu at weithio gyda phum aelod elusen, gyda’r bwriad o gefnogi 10 erbyn diwedd 2022. Gobeithiwn y bydd hyn yn golygu ein bod yn cefnogi o leiaf 300 o unigolion sydd wedi’u sefydlu yng Ngorllewin Cymru.

Mae ehangu i Orllewin Cymru wedi bod yn rhan o’n cynlluniau ers tipyn o amser bellach, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi am ein cefnogi, a’n galluogi i allu gwneud hyn. Mae effaith pandemig Covid-19 wedi golygu ei bod hi’n bwysicach i ni nawr nag erioed i gael bwyd da, maethlon i’r sawl sydd ei angen, ac i gefnogi gwytnwch cymunedol.

KATIE PADFIELD, RHEOLWR PROSIECT CYNORTHWYOL FARESHARE CYMRU

Bydd y grant yn talu am gostau staffio, costau sydd ynghlwm â’r faniau sy’n casglu a dosbarthu’r bwyd, a hyfforddi gwirfoddolwyr. Hefyd bydd yn cyfrannu at gostau cyffredinol y sefydliad.

Er mwyn ymateb i’r llwyth gwaith ychwanegol, rydym wedi ehangu ein tîm ac wedi apwyntio Swyddog Prosiect fydd yn cefnogi aelodau elusen newydd, ac yn gweithio gyda’r partner fydd yn cynnal ein fan.

Yn 2020-21 ail-ddosbarthodd FareShare Cymru dros 730 tunnell o fwyd dros ben i 188 o fudiadau sy’n cefnogi pobl mewn angen yn eu cymunedau. Gobeithiwn y bydd y gwaith yng Ngorllewin Cymru yn ychwanegu at hyn.

Unwaith i ni drefnu ein mannau casglu, byddwn yn chwilio am wirfoddolwyr lleol i gynorthwyo gyda gyrru a dosbarthu bwyd i’n haelodau elusen. Byddwn hefyd yn chwilio am fudiadau fyddai â diddordeb dod yn aelodau FareShare Cymru. Os hoffech chi ddarganfod mwy, cysylltwch â members@fareshare.cymru