fbpx

Rydyn ni wedi’n hachredu gan Hanfodion Seiber!

Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad sydd ar gynnydd i fusnesau ac elusennau, gyda 39% o fusnesau a 26% o elusennau yn adrodd bygythiad neu ymosodiad seiber-ddiogelwch yn 2020 (Arolwg tanseilio diogelwch 2021 – GOV.UK (www.gov.uk). O ganlyniad, fe ystyrion ni o ddifrif bod rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i rwystro ymosodiad ac i weithio tuag at achrediad Hanfodion Seiber.

Mae Hanfodion Seiber yn achrediad a gafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol Llywodraeth y DU. Edrycha Hanfodion Seiber ar wella seiberddiogelwch mewn meysydd fel systemau gweithredu cyfrifiaduron, cyfrineiriau ac ymwybyddiaeth staff.

Rydym yn ddigon ffodus i gael perthynas dda gyda’r ymgynghorwyr diogelwch Pen Test Partners, sydd yn ardystwyr cydnabyddedig Hanfodion Seiber. Mae Pen Test Partners yn angerddol am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, felly fe gynigon nhw ein harwain drwy’r broses.

Gyda chefnogaeth gan Tom yn Pen Test Partners, fe weithion ni drwy’r anghenion a gwella’r meysydd oedd angen eu newid neu eu gwella yn ein hisadeiledd Technoleg Gwybodaeth. Diolch i gymorth Tom, fe basion ni Hanfodion Seiber y tro cyntaf! Wrth i dechnoleg esblygu, mae angen ail-wneud yr achrediad yn flynyddol er mwyn sicrhau bod FareShare Cymru mor seiberddiogel ag y gallwn fod.