fbpx

Microlysiau llawn maeth yn cael eu rhoi i elusen diolch i Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru

Mae fferm fach wedi helpu pobl fregus i gadw’n iach gan roi eu microlysiau dros ben i FareShare Cymru.

Fferm drefol fach yw Micro Acres Wales, wedi’i sefydlu’r tu allan i Bontypridd; a ddechreuodd dyfu microlysiau yn 2021. Mae microlysiau yn llawn maeth, yn ffynhonnell llawn fitaminau, mineralau a gwrthocsidyddion sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer nifer o bethau, fel salad, brechdanau ac i addurno prydau bwyd.

Dechreuodd Micro Acres Wales pan dderbyniodd un o’r sylfaenwyr, Chris, ddiagnosis o’r cyflwr niwrolegol prin ‘Ataxia’. Ynghyd â’i bryderon iechyd, fe ysbrydolodd ei deulu o fwytawyr ffyslyd e i ddefnyddio’i ‘fysedd gwyrdd’ a dechreuodd dyfu microlysiau i wneud yn siŵr bod y teulu’n bwyta bwyd llawn maeth.

Mae Micro Acres Wales nawr yn darparu microlysiau i gwsmeriaid preifat, cogyddion, cwmnïau arlwyo, delis a chaffis. Maen nhw hefyd wedi dechrau mynychu marchnadoedd ffermwyr, sy’n golygu bod ganddynt fwyd dros ben ar adegau.

Fel busnes sy’n tyfu gydag ethos cadarn o gynaliadwyedd yn graidd iddo, roedd Micro Acres Wales eisiau lleihau eu lefelau gwastraff, a sicrhau bod y microlysiau yn cael eu defnyddio.

Ar ôl cysylltu â FareShare Cymru, fe archwilion ni’r syniad o ddefnyddio Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru i’w gwneud hi’n gost-niwtral iddyn nhw gyfrannu eu microlysiau, gan ddarparu cynnyrch llawn maeth ar gyfer eu rhannu yn ein rhwydwaith. Roedd FareShare Cymru yn gallu ad-dalu’r costau ynghlwm â chynaeafu’r microlysiau, a chostau pacio’r microlysiau mewn cyflwr ‘parod i’w dosbarthu’.

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi gallu rhoi’n cynnyrch dros ben i ddefnydd da, ac mae cael mynediad i Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Fel cwmni sy’n tyfu, mae angen i ni gael cydbwysedd rhwng gwneud yr hyn sy’n gyfrifol yn gymdeithasol gyda rheoli’n costau ac alldaliadau ein hun. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru yn ein galluogi ni i sicrhau pan dydy’n microlysiau ni ddim yn fasnachol hyfyw bellach, neu’n dod tuag at ddiwedd eu hoes, ond yn berffaith ddiogel i fwyta, eu bod nhw’n gallu gwneud llawer o ddaioni i bobl fregus.”

DONNA GRAVES, CYD SYLFAENYDD MICRO ACRES WALES

“Rydyn ni yn FareShare Cymru yn cydnabod pa mor hanfodol yw e bod gan bobl fynediad at lysiau a chynnyrch ffres fel rhan o’u deiet. Yn anffodus, mae cymunedau bregus yn aml yn gweld y rhain fel y pethau caletaf i gael mynediad atynt. Rydym wrth ein bodd i allu gweithio gyda Micro Acres Wales i sicrhau bod eu microlysiau yn ychwanegu maethynnau hanfodol i ddeiet ein rhwydwaith o aelodau ledled Cymru.”

SARAH GERMAIN, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL FARESHARE CYMRU

I ddarganfod sut y gallwch chi ei wneud yn gost-niwtral i roi bwyd dros ben eich busnes gan ddefnyddio Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru, cliciwch yma.