fbpx

Danteithion Zorba yn gwneud lles

Mae rhodd cwmni Zorba Delicacies o dros ddwy dunnell a hanner o gawl oer a dipiau eleni wedi bod yn gymaint o gymorth i’r gwaith rydym yn ymgymryd ag e yma yn FareShare Cymru.

Cwmni sydd werth miliynau o bunnoedd yw Zorba Delicacies, sydd wedi’i sefydlu yng Nglyn Ebwy, De Cymru. Mae’n gwmni sy’n gwneud amrywiaeth o hwmws, dipiau, cawl, prydau pot a brechdanau. O ganlyniad i newidiadau munud olaf, o bryd i’w gilydd mae ganddynt fwyd dros ben, a gan ei fod yn fwyd ffres o’r oergell mae yna berygl y gallai mynd yn wastraff gan mai byr yw’r oes silff.

Mae Zorba wedi bod yn rhoi i FareShare Cymru ers Awst 2021 gan eu bod yn credu mai cynnig eu stoc dros ben i elusen yw’r peth cywir i wneud. Mae FareShare Cymru wedyn yn dosbarthu’r bwyd i dros 170 o grwpiau bwyd cymunedol ledled De Cymru.

Mae’n ein helpu i leihau’n gwastraff ar leoliad, ond hefyd mewn oes lle mae yna gymaint o bryderon byd-eang, mae gwneud daioni yn dod yn bwysicach fyth. Roedd e’n teimlo fel synnwyr cyffredin! Mae FareShare yn gwneud swydd arbennig yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad.

Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies  

Mae’n gas gan FareShare Cymru weld bwyd yn cael ei wastraffu, felly rydym yn croesawu pob trafodaeth am sut y gallwn ei wneud mor hawdd â phosib i gyfrannu bwyd. Ar hyn o bryd mae’n Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar gael i gynorthwyo ag unrhyw gostau ychwanegol.

Yr hyn sy’n gwneud FareShare mor dda i weithio gyda nhw yw eu bod yn gwneud y broses gyfrannu stoc dros ben mor hawdd. Pan mae gennym stoc ar gael ar gyfer ei roi, ynghyd â’u staff cyfeillgar, rydym yn trefnu amser casgliad i un o’u faniau oergell ddod i’w gasglu yn rhad ac am ddim.

Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies  

Yn ogystal â helpu rhwystro stoc dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi, mae perthynas Zorba gyda FareShare Cymru yn boblogaidd gyda’u staff a chwsmeriaid. Mae codi moral staff yn rheswm pam mae busnesau bwyd yn cael budd o gefnogi achosion da. (Sefydliad Cymorth i Elusennau)

Mae FareShare Cymru yn ddiolchgar am y bwyd sy’n cael ei gyfrannu gan Zorba, sy’n ein helpu i fwydo miloedd o bobl fregus bob mis. Rydym yn gobeithio y bydd ein perthynas yn parhau er mwyn ein galluogi i daclo gwastraff bwyd a newyn gyda’n gilydd.

Allwn ni ddim argymell FareShare ddigon. Maen nhw’n ei gwneud hi mor hawdd i fusnesau fel ni wneud daioni, heb i ni fod ar ein colled o gwbl. 

Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies