fbpx

Gwneud gwahaniaeth gyda gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot

Mae gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot wedi bod yn taclo newyn a theimlo’n ynysig ers chwe blynedd. Mae’u Clwb Brecwast bob dydd Iau yn Hen Lyfrgell y Sblot yn darparu pryd poeth, bwyd am wythnos a chyfle i gymdeithasu i unrhywun sydd ei angen.

“Roedden ni’n ffeindio pan oedd pobl yn cwrdd ac yn sgwrsio, bod pawb yn deall bod gan bobl eraill broblemau hefyd. Efallai’ch bod chi yn gallu helpu rhywun arall â phroblem, wedyn efallai bod rhywun yn gallu eich helpu chi gyda’ch problem chi. Rydych yn datblygu’r ymdeimlad o gymuned.”

ANGELA BULLARD, SYLFAENYDD gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot

Ers y pandemig, mae’r clwb brecwast wedi addasu’n wasanaeth cludfwyd ond mae’r angen am gymorth yn fwy nag erioed. Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot yn helpu 50-80 o bobl bob wythnos, a gallant weld eu bod yn cael effaith.

Mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o bobl. Mae’n golygu bod egni ganddynt. Mamau sengl sydd â phlant ifanc, sy’n dod mewn â dim egni achos eu bod wedi bod yn bwydo’r plant yn hytrach na nhw eu hunain, a nawr maen nhw’n gallu bwydo’u hun. Ry’n ni’n gweld tipyn o’r fath yna o beth.

Derbynia Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot fwyd gan FareShare Cymru yn wythnosol, yn ogystal â chasglu bwyd gan archfarchnadoedd lleol. Pan ddaw pobl i gael rôl brecwast twym, maen nhw hefyd yn gallu llenwi bag gyda ffrwythau a llysiau, eitemau becws, prydau parod a.y.b.

Allwn ni ddim goroesi heb y bwyd [gan FareShare Cymru]. Wir, allwn ni ddim goroesi. Dydy’r archfarchnadoedd ddim yn ddibynadwy bob tro, felly heb y bwyd gan FareShare i ddosbarthu’r wythnos ddiwethaf mi fyddai wedi bod yn druenus yma. Byddai pobl wedi bod yn ymddangos heb fod yna fwyd i roi iddyn nhw.

ANGELA BULLARD, SYLFAENYDD gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot

Mae’r bwyd gan FareShare Cymru yn fwyd dros ben a fyddai, fel arall, wedi cael ei wastraffu. Daw gan ffermwyr, gwneuthurwyr, cyflenwyr ac archfarchnadoedd. Oherwydd natur y gadwyn gyflenwi, mae yna wastad amrywiaeth yn y bwyd sy’n cael ei gynnig gan Wirfoddolwyr Cymunedol y Sblot.

Rydym llawn cyffro bob wythnos i weld beth gawn ni. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn cael prydau Marks & Spencer. Maen nhw wedi bod yn hynod boblogaidd, achos i rai pobl, maen nhw wir yn achub y dydd. Ddoe, paella oedd genyn ni ac roedd y prydau yn enfawr. Dywedodd un fenyw ei bod hi am fynd ag un i fwydo’i thri o blant. Wnaeth hynny ei harbed rhag gorfod mynd allan a phrynu’r holl gynhwysion, a phryd o fwyd iach oedd e hefyd.

ANGELA BULLARD, SYLFAENYDD gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot

Bwriad y sefydliad yw darparu bwyd iachus i bobl, yn ogystal ag addysgu pobl am sgiliau bwyd ar yr un pryd. Cyn y pandemig roedden nhw’n gweithio gyda myfyriwr maeth er mwyn cynllunio ryseitiau. Mae hyn yn rhywbeth mae’r tîm yn gobeithio ail ddechrau unwaith y daw bywyd ‘nôl i normal unwaith eto.

Mae Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot yn gwneud gwaith gwych yn y gymuned, sy’n cael ei brofi gan y cynnydd yn y rhifau a’r defnyddwyr sy’n dychwelyd dro ar ôl tro.

“Pan ddaeth un o’n menywod gyntaf, roedd hi’n rhiant maeth i fachgen bach. Fe wnaeth hi ymddiried ei bod hi’n dod ag e yna achos ei bod hi am iddo gydnabod nad oedd pob person yn gas, achos ei fod wedi cael tipyn o amser caled. Yn raddol fe enillon ni ei ymddiriedaeth ac fe ddaeth i i garu’r Clwb Brecwast. Dechreuodd e ymddiried mewn pobl, byddai e’n mynd gyda rhai o’r aelodau eraill i chwarae. Erbyn y diwedd fe ddanfonodd hi lythyr aton ni yn dweud ei bod hi methu mynegi mewn geiriau’r gwahaniaeth wnaethon ni i’w fywyd e. Ac oherwydd y gwahaniaeth yna, fe olygodd ei bod hi’n gallu ei fabwysiadu e. Mae e dal yn dod i ymweld nawr.”

ANGELA BULLARD, SYLFAENYDD gwirfoddolwyr cymunedol y Sblot