fbpx

Diolch TC Consult!

Hoffai FareShare Cymru ddweud diolch enfawr wrth TC Consult am rodd hael iawn i’r elusen yn ddiweddar.

Penderfynodd weithwyr y cwmni, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, gyfrannu eu gwyliau blynyddol oedd heb eu defnyddio, i elusen. Roedd gan y gweithwyr wyliau dros ben gan eu bod nhw heb allu cymryd yr amser o ganlyniad i’r pandemig.

“Rydym wrth ein bodd i allu cyfrannu i FareShare Cymru. Rydw i wedi bod yn dilyn hanes yr elusen ers sawl blwyddyn, a dw i’n meddwl bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn bwysig iawn. Daliwch ati! “

David Champs, CYFARWYDDWR A PHERCHENNOG AR Y CYD TC CONSULT

Bydd y rhodd hwn yn helpu FareShare Cymru i achub bwyd dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi a’i ail-ddosbarthu i brosiectau bwyd cymunedol. Mae pob £1 o gyfraniad yn darparu 4 pryd bwyd i bobl mewn angen. Yn ystod 2020/21 fe arbedion ni 735 tunnell o fwyd dros ben gan ddarparu bron i 3 miliwn o brydau bwyd i bobl fregus.

I ddarganfod mwy am sut allai rhodd gennych chi helpu ymladd gwastraff bwyd a thlodi, ewch i www.fareshare.cymru/make-a-donation.