Elusen yw FAN Community Alliance, sy’n anelu at ddod â phobl ynghyd a chryfhau’r gymuned yng Nghastell Nedd, Port Talbot. Maen nhw’n defnyddio bwyd gan FareShare Cymru yn eu caffi cymunedol, oergell gymunedol, clwb bwyd wythnosol a banc bwyd argyfwng. Mae’r elusen wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pobl yn gymuned leol.
Roedd rhaid i un fenyw newid i dderbyn Credyd Cynhwysol, a doedd ganddi ddim byd am chwe wythnos yn ystod y cyfnod newid. Aeth hi mewn i ddyled ddifrifol oherwydd hyn. Bu hi’n berson balch iawn erioed, byth eisiau mynd i fanc bwyd. Oherwydd bod ganddi’r cysylltiad yna â ni, byddai’n anfon neges “oes gennych chi hyn a hyn? Does gen i ddim bwyd” Cymerodd amser iddi ddod i’r arfer â derbyn bocs mawr o fwyd ar ei stepen drws yn wythnosol fel ymateb i hynny. Fyddai hi ddim wedi gwybod beth i wneud hebom ni. Byddai hi wedi mynd heb fwyd fel bod gan ei phlant rywbeth i’w fwyta.
EMMA KNIGHT, YMDDIRIEDOLWR
Cafodd yr elusen ei sefydlu i gefnogi un stryd yn wreiddiol, nawr mae’n helpu cannoedd o bobl. Ymaelododd yr elusen â FareShare Cymru ym mis Mai 2020 pan oedd pobl mewn angen o ganlyniad i Bandemig Covid-19.
Mae yna fenyw yn y clwb bwyd sydd wedi bod yn aelod am gyfnod nawr. Collodd hi ei gŵr, a dywedodd hi ein bod wedi bod yn achubiaeth iddi yn ystod cyfnod Covid. Roedden ni’n mynd â thorth o fara iddi’n wythnosol, ac roedd yn gyfle iddi weld wyneb cyfeillgar. Dydy hi ddim yn meddwl y byddai hi wedi dod trwy’r cyfnod heb yr un peth bach yna.
EMMA KNIGHT, YMDDIRIEDOLWR
Mae’r bwyd dros ben sy’n cael ei ddarparu gan FareShare Cymru wedi cyflwyno amrywiaeth o wahanol fwydydd i gleientiaid FAN Community Alliance a nawr maen nhw’n fwy parod i drio prydau bwyd newydd. Mae hyn wedi cael effaith bositif ar iechyd corfforol a meddyliol pobl wrth iddyn nhw ddatblygu cyfeillgarwch tra’n derbyn ystod o faethynnau sydd angen er mwyn cadw’n iach.
Mae’r bwyd dros ben hefyd yn galluogi’r elusen i arbed arian sy’n gallu cael ei fuddsoddi mewn prosiectau eraill. Er enghraifft, maen nhw newydd roi arwyneb newydd ar y maes parcio sydd wedi’i wneud yn haws cael mynediad ato.
Mae ymwneud yr elusen â FareShare Cymru hefyd wedi codi ymwybyddiaeth am effeithiau amgylcheddol bwyd dros ben. Nawr, mae’r un faint o gleientiaid yn defnyddio FAN Community Alliance i helpu’r amgylchedd ag sydd yna o bobl sydd angen cefnogaeth fwyd.
‘Mae pobl yn dechrau deall nawr, er bod y bwyd yn fwyd dros ben, dydy e ddim yn hanfodol ar gyfer y bobl sydd ei angen yn unig. Mae am wneud yn siŵr nad yw e’n mynd yn wastraff hefyd. Roedd pobl yn arfer dweud “ O na, mae’n iawn, mae ‘na bobl sydd ei angen yn fwy na fi”. Nawr mae yna gydbwysedd rhwng y bobl sydd ei angen, a sicrhau nad yw’r bwyd yn mynd yn wastraff.’
Mae FAN Community Alliance yn gobeithio agor Caffi Hinsawdd cyn hir, gan ddefnyddio hyd yn oed mwy o fwyd dros ben. Mae hyn yn golygu y byddant yn darparu mwy o brydau bwyd i bobl, a dod â’r gymuned ynghyd.
“Mae’n bwysig gwneud y cysylltiadau lleol yna, fel bod y gefnogaeth yna pan mae ei hangen. Rydyn ni’n neidio i ymateb yn gyflym pan mae angen cefnogaeth ar bobl.” ”
EMMA KNIGHT, YMDDIRIEDOLWR