fbpx

Clwb Cinio Corneli

Mae Clwb Cinio Corneli yn lle sy’n codi calon; lle mae ffrindiau’n cwrdd i sgwrsio dros fwyd blasus wedi’i baratoi gan wirfoddolwyr sydd â gwên enfawr ar eu hwynebau. Mae’r clwb cinio yn digwydd ddwywaith yr wythnos gyda chroeso i’r gymuned gyfan ddod i fwynhau pryd tri-chwrs am £5.

Rydyn ni’n mwynhau’r cwmni. Mae’r cawl yn flasus iawn, a’r bwyd hefyd. Alla i ddim gweld bai arno o gwbl!

June Ball, CWSMER CLWB CINIO CORNELI

Mae FareShare Cymru yn darparu bwyd dros ben o safon yn wythnosol sy’n cael ei droi’n bryd bwyd gan y cogyddion gwirfoddol.

Ar gyfartaledd mae tua 30 o bobl yn mynychu pob clwb cinio, a daw’r mwyafrif o’r genhedlaeth hŷn. Yn ogystal â darparu pryd bwyd twym, mae’r clwb yn helpu pobl sy’n teimlo’n ynysig ac yn unig.

Rydych chi wir yn cael gwerth da am eich arian. Rydych chi’n cael pryd da, ac yn cael cwrdd â phobl hefyd.

John Gillard, cwsmer Clwb Cinio Corneli

Mae Liam Turner yn gwirfoddoli bob dydd Mawrth, ar un o’i ddiwrnodau i ffwrdd o’i waith fel cogydd proffesiynol. Yn ôl Liam, mae’n gwybod bod y bartneriaeth rhwng Clwb Cinio Corneli a FareShare Cymru yn hanfodol i’r gymuned, ac yn un fydden nhw ddim am ei cholli.

Mae nifer o bobl yn dod mewn, mae’n gyfle i gwrdd â phobl yn gymdeithasol iddyn nhw, ac mae nifer yn weddwon hefyd. Mae’n hanfodol i nifer o’r bobl hŷn fyddai ddim yn dod allan oni bai am y clwb. Heb FareShare, efallai byddai methu digwydd.

Liam Turner, cogydd gwirfoddol Clwb Cinio Corneli

Un o’r prif resymau mae’r clwb cinio’n defnyddio FareShare Cymru yw’r gost. Ar gyfartaledd mae’r bwyd sy’n cael ei dderbyn gan aelodau FareShare Cymru werth 5-10 gwaith gwerth y ffi misol. Yn ôl Liam, heb FareShare byddai’n rhaid codi’r pris, ac mae’n ansicr y byddai pobl yn mynychu’r clwb wedyn.

Fydden ni methu mynd allan a phrynu’r holl gynnyrch sy’n cael ei ddarparu i ni. Fydden ni methu fforddio gwneud hynny. Cawson ni samwn wythnos ddiwethaf sydd mor ddrud, fydden ni methu mynd allan a’i brynu.

Liam Turner, cogydd gwirfoddol Clwb Cinio Corneli

Mae Liam yn gwirfoddoli achos ei fod yn mwynhau rhoi rhywbeth ‘nôl i’r gymuned. Mae e hefyd yn mwynhau’r dasg o wneud pryd allan o fwyd dros ben.

Rwy’n cynllunio fy mwydlen yn seiliedig ar beth sy’n dod gan FareShare. Rwy wastad yn meddwl “pa ddanteithion ydyn nhw wedi danfon aton ni’r wythnos hon?” Weithiau mae’n gallu bod yn her ond fel cogydd dw i’n eitha’ mwynhau hyn, achos rydych chi’n gallu gweld beth sy’n dod mewn a chynllunio bwydlen yn seiliedig ar hynny.

Liam Turner, cogydd gwirfoddol Clwb Cinio Corneli

Mae FareShare Cymru yn falch i helpu Clwb Cinio Corneli i gefnogi’r gymuned. Os ydych chi eisiau chwarae rhan, naill ai drwy ddod yn aelod, trwy gyfrannu bwyd neu wirfoddoli i ddosbarthu bwyd, yna cysylltwch â ni.