fbpx

Llaethdy hynaf Cymru’n cyfrannu drwy roi caws i FareShare Cymru

Mae Hufenfa De Arfon (SCC) wedi bod yn cefnogi FareShare Cymru ers Hydref 2021 gan ddarparu ffynhonnell ardderchog o brotein i’n grwpiau cymunedol ac aelodau elusen.

Hufenfa De Arfon yw cwmni Llaeth Cydweithredol hynaf Cymru, sydd wedi’i berchen gan ffermwyr ers 1938. Maent yn defnyddio llaeth lleol yn unig i gynhyrchu ystod o fenyn a chaws Cymreig o’r ansawdd uchaf sydd wedi ennill sawl gwobr.

Yn Hufenfa De Arfon rydyn ni’n mynychu nifer o sioeau masnach a defnyddwyr yn ystod y flwyddyn. Fel rhan o’r gweithgareddau hyn, yn aml mae gennym arddangosfeydd o gynhyrchion sydd methu ail ymuno â’r gadwyn gyflenwi. Mae FareShare Cymru yn darparu cyfle ardderchog i ni beidio â gwastraffu’r cynhyrchion hyn, a hefyd rydyn ni’n cefnogi elusennau lleol a’r gymuned ar yr un pryd. 

Kirstie Jones, RHEOLWR MARCHNATA, Hufenfa De Arfon

Mae FareShare Cymru yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i derbyn gan Hufenfa De Arfon. Mae yna wastad groeso cynnes i ffynonellau o brotein o ansawdd da gan ein grwpiau cymunedol ac aelodau elusen, ac yn aml mae caws yn eitem foethus. Mae SCC yn chwarae rhan allweddol drwy ein helpu ni i ddatrys gwastraff bwyd a newyn ar y cyd.

Mae’r hinsawdd economaidd ar hyn o bryd yn rhoi teuluoedd mewn tlodi bwyd ac ynni ledled Cymru. Fydd hyn yn broblem fwy pan ddaw’r cynnydd o ran pris y cap ynni ym mis Ebrill. Trwy gyfrannu bwyd dros ben i FareShare Cymru, nid yn unig ydyn ni’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, ond hefyd rydyn ni’n cefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf yn y gymuned.

Kirstie Jones, RHEOLWR MARCHNATA, Hufenfa De Arfon