fbpx

Puffin Produce: Gwneud daioni gyda Chronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan

Hoffai FareShare Cymru ddiolch yn fawr iawn i’n partneriaid anhygoel yn Puffin Produce. Gan ddefnyddio’n cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan, llwyddon ni i’w wneud yn garbon-niwtral iddyn nhw gyfrannu dros 30,000kg o flodfresych dros ben fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff.

Pan mae staff wedi tyfu a meithrin cnwd, does yna ddim byd yn waeth iddyn nhw na gweld bwyd yn mynd yn wastraff. Yn hytrach na’u gadael nhw mewn cae, penderfynon ni y byddai’n syniad da eu cyfrannu i’r fenter wych hon gan FareShare. Mae menter Bwyd Dros ben ag Amcan yn cynnig datrysiad i broblem gwastraff bwyd, gan ein galluogi ni i dalu’n costau medi a llafur am wneud y cyfraniad, fel arall ni fyddai’n ariannol hyfyw i ni wneud.

Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Mae FareShare Cymru yn credu bod bwyd sydd yn fwytadwy bob tro yn well yn cael ei ddefnyddio i fwydo pobl, ac mae Puffin yn cytuno â’r ethos hwn. Bydd y blodfresych nawr yn cael ei ddosbarthu i bobl fregus yma yng Nghymru a hefyd i’n rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau cymunedol ac elusennau.

Yn ystod cyfnod mor ansicr i’r byd, dydy’r cyfle i roi bwyd dros ben i elusen erioed wedi bod yn fwy pwysig. Mae’r fenter Bwyd Dros Ben ag Amcan yn hawdd i’w gweinyddu ac mae tîm FareShare yn bleser cydweithio â nhw. 

Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Pan mae tua 2m o’r 3.6m tunnell o fwyd sy’n cael ei wastraffu bob blwyddyn yn dal i fod yn fwytadwy, mae FareShare eisiau sicrhau nad yw hi byth yn rhatach taflu bwyd da, maethlon i ffwrdd nag yr ydyw i’w roi i bobl mewn angen.

Mae’r Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan wedi galluogi cynhyrchwyr, tyfwyr a gwneuthurwyr o bob maint i gyfrannu eu bwyd dros ben bwytadwy. Gall y gronfa gael ei defnyddio i dalu costau medi, llafur, storio, pecynnu neu gludo bwyd dros ben.

Mae’r rhoddion hyn nid yn unig yn helpu pobl mewn gwir angen, maen nhw hefyd yn helpu ni i gyrraedd targed y cwmni o leihau gwastraff bwyd yn unol â Chytundeb Courtauld 2025.

Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Yn ogystal â bod yn dda i bobl, mae lleihau lefelau gwastraff bwyd eich cwmni yn dda i’r blaned. Gyda’r rhodd o dros 32 tunnell o flodfresych dros ben, mae Puffin Produce wedi defnyddio’r gronfa i rwystro bron i 52 tunnell o CO2 rhag cael ei allyru’n ddi-angen, a dros 49 miliwn litr o ddŵr rhag mynd yn wastraff o’r broses dyfu.  

I drafod bwyd dros ben eich busnes, neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch drwy gyfrwng food@fareshare.cymru