Yn 2017 fe greodd sylfaenwyr Tŷ Matthew (menter gan elusen The Hill Church) sefydliad yng nghanol Abertawe i ddarparu lletygarwch a gobaith i bobl mewn angen. Dechreuodd eu cenhadaeth gyda Chaffi Matt, caffi talu-wrth-fynd sy’n paratoi prydau bwyd allan o fwyd fyddai fel arall yn mynd yn wastraff.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda FareShare ers y dechrau. Fe ddanfonon ni gannoedd o lythyron pan agoron ni gyntaf i fusnesau lleol yn gofyn a oedden nhw’n barod i roi eu bwyd dros ben i ni, a chawson ni ddim un ymateb. O ganlyniad fe ddechreuon ni edrych ar fodelau eraill, a dyna pryd y darganfyddom ni FareShare.”
Ellie Phillips, ARWEINYDD TÎM, Tŷ MATTHEW
Oherwydd y bartneriaeth gyda FareShare, gall Tŷ Matthew gadw’r sefydliad i fynd. “Rydym ni wedi’n lleoli mewn eglwys fawr, felly mae’n biliau ni’n ddrud iawn. Pe baem ni’n gorfod talu am fwyd, fyddai’n stori wahanol iawn.”
Creu cuisine blasus
Rydyn ni’n derbyn cynnyrch becws a gwreiddlysiau gan yr archfarchnadoedd. Gyda FareShare Cymru rydyn ni’n derbyn llawer mwy o gig, pysgod a chynnyrch llaeth.
Ellie Phillips
Gyda chymorth cynhwysion FareShare, mae Caffi Matt wedi mynd o weini 30 pryd y dydd i 300. Mae gan y sefydliad 110 o wirfoddolwyr a phedwar aelod o staff sy’n trawsnewid cynhwysion FareShare yn brydau bwyd blasus a maethlon.
Gyda’r cyflenwadau bwyd hyn, mae’r tîm yn ceisio bod yn greadigol a defnyddio cymaint o gynhwysion ag sy’n bosib.
[Fe ddefnyddiwn] salad ffres a ffrwythau fel cyfwyd i’r brif fwydlen. Dydyn ni ddim yn gwneud brecwast ragor, ond cyn Covid roedden ni’n arfer darparu brecwast, a gobeithiwn wneud eto yn y dyfodol. “Rydyn ni hefyd wedi gwneud pwdin bara menyn, peis pysgod, tsili, cyri, a phob math o bethau. Rydyn ni’n defnyddio pob dim y derbyniwn ni. Ychydig wythnosau yn ôl fe gawson ni melon ddŵr enfawr a nythod meringue. Rydyn ni hefyd wedi cael byrgyrs cig carw, roedd hynny’n rhywbeth unigryw ar y fwydlen.
Ellie Phillips
Cefnogi’r gymuned leol yn ystod cyfnod digynsail
Pan aeth y byd i mewn i gyfnod clo yn ystod Mawrth 2020, parhaodd Tŷ Matthew i ddarparu bwyd i’r gymuned. Fel y dechreuodd y cyfyngiadau godi, agorodd yr elusen ei hardal tu allan fel gwasanaeth têcawê, sydd nawr yn darparu bwyd i tua 120 o bobl y dydd.
Gyda’r pandemig yn dal i effeithio ar bobl, a’r cynnydd yng nghostau byw ar draws y D.U., creodd Tŷ Matthew restr o fwydydd nad oedd angen arnyn nhw ar gyfer eu bwydlenni ar gyfer cynllun rhannu bwyd.
Ni ddylai pobl orfod dewis rhwng bwyd a chysur sylfaenol. Mae pobl bendant yn cael trafferth fforddio pethau. Rydyn ni’n clywed llawer o bobl yn sôn am gostau gwasanaethau sy’n rhy uchel, felly maen nhw’n troi aton ni am gymorth gyda bwyd. Rydyn ni wedi gweld llawer mwy o bobl yn dibynnu ar ein cynllun rhannu bwyd nag oedden ni gynt.
Ellie Phillips
Bondio dros fwyd
Yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi bwyd, mae Caffi Matt yn lle diogel i bobl fwynhau pryd o fwyd twym a chwmni eraill.
Dw i’n meddwl bod pobl wir yn bondio dros fwyd. Mae’n ffordd hawdd o wneud i rywun wenu ac i wneud i bobl agor lan ychydig. Pan mae gennych chi fol llawn mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i’ch lles cyffredinol. Rydyn ni wir wedi dod â’r gymuned yn agosach, a fuasem ni ddim yn gallu gwneud dim o hyn heb FareShare.
Ellie Phillips