fbpx

Banc Organics yn cyfrannu bwyd Organig dros ben i FareShare Cymru

Mae Banc Organics yn gynllun bwyd sydd wedi’i gefnogi yn gymunedol. Dechreuodd y cynllun, sy’n tyfu cynnyrch organig yn Sir Gâr, yn ystod gaeaf 2009. Caiff y cynnyrch ei ddosbarthu’n lleol, ac mae wedi tyfu o grŵp bach o amaturiaid brwdfrydig, i sefydliad proffesiynol sy’n tyfu. Yn ystod 2020, ail-lansiodd Banc Organics fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, gan alluogi’u cwsmeriaid i chwarae mwy o ran yn sut mae’r cwmni’n cael ei redeg.

Sefydliad sydd â chynaliadwyedd wrth ei wraidd yw Banc Organics, ac mae am sicrhau bod y bwyd y maent yn ei dyfu yn cael ei atal rhag mynd i wastraff lle bynnag y bo modd. Fe gwrddon ni yn FareShare Cymru â Banc Organics gyntaf mewn digwyddiad cymunedol, gan ddechrau sgwrs am ddefnyddio’n Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan er mwyn ei wneud yn gost-niwtral i gyfrannu eu cynnyrch dros ben.

Gan ddefnyddio’r gronfa, roedd Banc Organics yn medru bodloni costau cynaeafu a phecynnu dros 165kg o ffyn ysgewyll Brwsel. Cafodd y rhain wedyn eu hail-ddosbarthu ymysg ein rhwydwaith o grwpiau cymunedol ac elusennau gan ddarparu mynediad at ffynhonnell llawn maeth o fitaminau a mineralau.

Wrth drafod y penderfyniad i gyfrannu eu cynnyrch dros ben i FareShare Cymru, dywedodd Alex Nicholas, tyfwr a Chyfarwyddwr Banc Organics:

Mae Banc Organics yn tyfu ffrwythau a llysiau iachus a maethlon, ac mae gennym ddiddordeb arbennig yn sicrhau bod ein holl dyfu’n digwydd o fewn safonau moesegol i gynhyrchu bwyd da a ffres. Rydyn ni am sicrhau bod unrhyw fwyd na fyddai’n fasnachol hyfyw, ond sydd yn dal i fod yn hollol ddiogel i’w fwyta, yn ffeindio cartref da. Gyda faint o ysgewyll Brwsel oedd ar gael gennym ni, a’r ffaith ein bod yn gwmni prysur, fe fodlonodd Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan ein costau llafur am gasglu a phacio’r bwyd dros ben. Hefyd, doedd gennym ni ddim trafnidiaeth i’w cludo i FareShare, felly fe drefnon nhw gasglu’r cynnyrch o’n fferm.

ALEX NICHOLAS, , tyfwr a Chyfarwyddwr Banc Organics

Os hoffech chi drafod cyfrannu bwyd dros ben i FareShare Cymru, cysylltwch â Food@Fareshare.cymru