fbpx

FareShare Cymru a Thîm grŵp OV Group yn uno am Basg Hapus

Hoffai FareShare ddiolch yn fawr i’n cyfeillion yng Ngrŵp OV am eu rhodd anhygoel o 10,000 o wyau Pasg. Rydyn ni’n gwybod eu bod wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein grwpiau cymunedol ac aelodau’r elusen yn y cyfnod yn arwain at benwythnos y Pasg.

Yn eitem foethus i nifer, roedd rhodd Grŵp OV o wyau siocled yn golygu bod ein haelodau yn gallu mwynhau rhywbeth neis dros benwythnos Gŵyl y Banc, rhywbeth fydden nhw efallai heb ei gael heb y rhodd hwn.

Yn sôn am eu penderfyniad i gyfrannu, meddai Cherry Blumberg – Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp OV:

Caiff yr wyau siocled eu cynhyrchu yn ein safle yn St. Ives, lle mae’n tîm gwych wedi cynhyrchu dros 1.1 miliwn o wyau!! Yma yn OV, rydym yn credu yn ein gwerthoedd, ac un o’n pedwar o brif werthoedd yw “rydym yn gofalu” sy’n ein harwain ni yn y busnes. Pan welon ni gyfle i gefnogi’n cymunedau dros y Pasg gyda’r rhodd hwn i FareShare, roedden ni’n gwybod mai dyma oedd y peth iawn i wneud, heb os. Os gall 10,000 o wyau Pasg gynnig 10,000 o bethau bach neis, ac ychydig o hapusrwydd (10,000 o wenau) i’r rheiny syn ei chael hin anodd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn, yna mae hyn yn gwneud OV yn falch iawn.

Cherry Blumberg – Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp OV

Gan ddiolch i Grŵp OV am y rhodd, dywedodd Simon Stranks – Cydlynydd Cyrchu Bwyd FareShare Cymru:

Mae FareShare Cymru yn hynod ddiolchgar pryd bynnag mae partner yn y diwydiant bwyd yn camu ymlaen ac yn sicrhau bod bwyd dros ben yn mynd i bobl pryd bynnag fo’n bosib. Rydyn ni’n gwybod bod eitemau fel wyau Pasg yn foethusrwydd gall rhai o’n haelodau ddim ei fforddio, felly rydyn ni’n gwybod bod y rhodd hwn wedi gallu rhoi gwên ar wynebu cymaint o bobl. Cafodd yr wyau hyn eu dosbarthu ymysg ein grwpiau cymunedol ac aelodau’r elusen, felly rydym yn diolch i Grŵp OV am fynd y filltir ychwanegol drwy gyfrannu swm enfawr o wyau siocled o ansawdd uchel.

Simon Stranks – Cydlynydd Cyrchu Bwyd FareShare Cymru

Os ydy’ch busnes chi’n cytuno bod bwyd dros ben yn well yn mynd i bobl yn hytrach na mynd yn wastraff, a’ch bod chi eisiau rhoi bwyd dros ben i FareShare Cymru, cysylltwch â Simon@fareshare.cymru