fbpx

Rhannu bwyd yn cyflawni pwrpas pwysig yn Llanilltud Fawr

Mae Foodshare Llanilltud yn darparu cymorth bwyd i unigolion sy’n byw yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, a allai fod yn cael trafferthion ariannol. Darperir y rhan fwyaf o’r bwyd gan FareShare Cymru a FareShare Go, sy’n dosbarthu bwyd dros ben o ansawdd da i grwpiau cymunedol sydd ei angen.

“Mae Foodshare yn cyflawni pwrpas pwysig iawn yn ein cymuned leol

Angela Baker-Earle, Cydlynydd Foodshare

Dim ond un yn unig o’r prosiectau a gynhelir yng Nghanolfan CF61 yw Foodshare Llanilltud. Yn ogystal â chael mynediad at fwyd ffres ac oer am ddim unwaith yr wythnos, gall trigolion elwa o gaffi cymunedol rheolaidd, cyfnewid hadau, llyfrgell fenthyca a siop ddiwastraff. Mae hyn yn gwneud CF61 hyd yn oed yn fwy hanfodol i’r ardal.

Rwy’n meddwl mai’r mwyaf o bethau y gallwn ni wneud tra bod Foodshare yn digwydd, y gorau. Mae’n creu mwy o ymdeimlad o gymuned.

Angela Baker-Earle, Cydlynydd Foodshare

Mae llawer o bobl yn ymweld â Foodshare Llanilltud oherwydd eu bod yn cael trafferth gyda’r cynnydd mewn costau byw a, thrwy ddefnyddio’r gwasanaeth, mae ganddynt fynediad at fwyd na fyddent efallai wedi gallu ei fforddio fel arall.

Dw i ddim yn tueddu prynu cymaint o bethau ffres achos ei fod e mor ddrud gwneud. Rydw i wedi cael mafon yma heddiw. Yn y siop arferol maen nhw mor ddrud, mae’n gwneud i mi beidio â’u dewis.”

MICHELLE, DEFNYDDIWR GWASANAETH FOODSHARE

Mae trigolion Llanilltud Fawr yn gyfyngedig o ran y lleoedd y gallant siopa’n lleol, ac felly efallai y cânt eu gorfodi i dalu prisiau na allant eu fforddio. Nod Foodshare Llanilltud yw darparu gwasaneth dros dro i unigolion sy’n cael trafferthion ariannol gyda’u siopa wythnosol, tra hefyd yn cefnogi’r rhai na fyddai’n cael unrhyw fwyd heb y gwasanaeth.

“O gael y rhaglen hon, ry’n ni’n gobeithio y gallwn atal pobl rhag mynd i’r angen dirfawr yna o beidio â chael digon o fwyd.”

Angela Baker-Earle, Cydlynydd Foodshare

Nod FareShare Cymru yw darparu amrywiaeth eang o fwydydd a chynnyrch ffres i bob aelod, yn dibynnu ar ba fwyd dros ben sydd ar gael. Mae hyn yn golygu nad yw defnyddwyr Foodshare Llanilltud yn gyfyngedig o ran dewis.

“Nid yw’r ffaith na allwch chi fforddio bwyd yn golygu nad oes gennych yr hawl i wneud dewisiadau am yr hyn yr hoffech chi ei fwyta, yr hyn yr hoffech chi ei fwydo i’ch teulu. Mae FareShare yn ein galluogi i ddarparu mwy o ddewis, bwyd mwy ffres a mwy o opsiynau protein”

Angela Baker-Earle, Cydlynydd Foodshare

Daeth Foodshare Llanilltud allan o brosiect o’r enw Rebuild a ddechreuodd dros 2 flynedd yn ôl, i gefnogi pobl sy’n byw yn Llanilltud Fawr. Bellach mae gan Foodshare tua 45 o ddefnyddwyr wythnosol ac mae’n trin pawb â pharch a charedigrwydd.

“Yr wythnos ddiwethaf fe gawson ni lawer o flodau oherwydd ei fod ar ôl Sul y Mamau… ac roedd cymaint o bobl mor hapus i gerdded i ffwrdd gyda thusw o flodau. Mae’n ymwneud â’r pethau bychain. Ac i bobl sy’n defnyddio Foodshare yn aml iawn mae’r pethau hynny cyn bwysiced â chael y bwyd.”

Angela Baker-Earle, Cydlynydd Foodshare