fbpx

“Fel teulu, mae’n rhaid ichi fwyta gyda’ch gilydd. A dyma rydyn ni’n ei wneud fan hyn”

Hwb cymunedol yng nghanol Llanelli yw Myrtle House. Symudodd yr Eglwys i’r adeilad 25 mlynedd yn ôl, ac yna agor Meithrinfa Gofal Dydd Myrtle House. Yn fuan ar ôl hyn daeth Gallery | Art & Coffee, siop goffi yng nghanol dref Llanelli sy’n arddangos gwaith artistiaid lleol. Y ddau brosiect yma sy’n ariannu’r gwaith cymunedol sy’n cael ei redeg agn Myrtle House, sy’n cynnwys caffi cymunedol, Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, a grwpiau teuluol. Mae’r hwb cymunedol ar fin cychwyn gwasanaeth gynghori, fel bod y rheiny sy’n dod i’r caffi cymunedol yn gallu cael eu cyfeirio at y gwasanaeth gefnogi mwyaf addas.

“Mae pobl yn ddiolchgar bod ganddyn nhw le diogel i ddod iddo, maen nhw’n gwybod os ydyn nhw’n dod aton ni, wnawn ni eu helpu nhw.”  

Kate McShane, Rheolwr Prosiect

Mae’r caffi cymunedol wedi ail agor yn ddiweddar yn dilyn cyfyngiadau COVID. Nawr, mae yna 50-60 o bobl yn ymweld yn wythnosol, ac mae’r rhif yna’n tyfu bob wythnos. Mae’r caffi cymunedol yn darparu prydau bwyd ar gyfer unrhyw un sydd angen un, am rodd awgrymedig, neu am ddim. Ar foreau Gwener mae’r caffi cymunedol yn rhedeg eu Canolfan Gyfeillgarwch, gyda hyd at 40 o bobl yn ymweld. Darpara’r Ganolfan Gyfeillgarwch le i bobl sydd wedi’u hynysu yn gymdeithasol i ddod ynghyd i wneud ffrindiau dros bryd o fwyd twym.

“Rwy’ wedi gweld pobl yn mynd i’r  caffi cymunedol a chymryd mantais o’r prydau bwyd.  Roedden nhw, o bosib, yn unig,  wedi’u hynysu yn gymdeithasol, ac yn dod i’r caffi cymunedol achos ei fod yn cynnig cyfle iddyn nhw wneud ffrindiau newydd.”

Kate McShane, Rheolwr Prosiect

Yn rhan o’r Ganolfan Gyfeillgarwch, mae sesiynau crefft sy’n cael eu cynnal gan artist preswyl Myrtle House. Yn y sesiynau mae ymwelwyr yn creu eitemau sydd o werth iddynt. Hefyd, mae yna ddosbarthiadau dawns a symud yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Gyfeillgarwch, i annog defnyddwyr gwasanaeth hŷn i symud ac i wella’u cydbwysedd a sefydlogrwydd craidd. Mae’r Ganolfan Gyfeillgarwch wedi dod yn lle hanfodol i bobl leol ymweld â hi.

“Mae’n rhoi seibiant i mi oddi wrth fy ngŵr.  Mae angen seibiant arna i achos mae ganddo fe broblemau iechyd a dw i’n meddwl ei fod e’n dioddef ychydig o ddementia.  Rwy’n ei ffeindio’n anodd, ac rwy’n teimlo fy mod yn ymdopi’n well os ydw in cael seibiant.” –

Beverly, defnyddiwr gwasanaeth

Daw llawer o’r bwyd sy’n cael ei ddefnyddio yn y prydau yn y caffi cymunedol ac yn ystod y Ganolfan Gyfeillgarwch gan FareShare Cymru a FareShare Go. Mae’r amrywiaeth eang o fwyd wedi golygu bod y rhai sy’n ymweld â Myrtle House yn gallu cael pryd twym, iachus, gyda rhai pobl na fyddai wedi bwyta’r diwrnod hwnnw oni bai am hyn. Gan fod y bwyd gan FareShare Cymru yn amrywio o wythnos i wythnos, dydy’r caffi ddim yn gweithredu bwydlen osod bellach, nawr mae’n cynnig amrywiaeth i ymwelwyr, gyda phrydau gwahanol bob dydd.

“O’r blaen, bwydlen osod oedd hi.  Nawr rydym yn gallu dweud “O, beth sydd wedi dod heddiw?  Beth sydd i ginio heddiw? ”

Susan, Gwirfoddolwr

Gan fod rhaid i Myrtle House godi’r holl arian sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu prosiectau cymunedol, mae arwyddo fel aelod FareShare wedi arbed arian iddyn nhw, arian maen nhw wedi gallu buddsoddi mewn mannau eraill. Mae’r bwyd hefyd wedi eu galluogi i ddarparu mynediad at fwyd ffres i bobl, a bwydo mwy o bobl yn gyffredinol.

“Mae wedi bod o fudd i ni yn ariannol achos bod rhaid i ni godi’r holl arian i wneud ein holl waith cymunedol, ac mae bwydo pobl yn costio arian, felly mae bwyd FareShare Cymru wir wedi helpu.” 

Kate McShane, Rheolwr Prosiect

Trwy gyfrwng eu caffi cymunedol a’r Ganolfan Gyfeillgarwch, mae Myrtle House yn darparu wyneb cyfeillgar, a lle diogel gyda phryd cynnes i’r sawl sydd angen yn eu cymuned

“Dw i’n meddwl bod Myrtle House yn rhedeg ar fwyd da, sgwrs dda a chwmni da

Carol Roberts, Cydlynydd Banc Bwyd.