fbpx

Wythnos y Gwirfoddolwyr 2020 (Mehefin y 1af – 7fed)

Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, fe hoffem estyn diolch i ein gwirfoddolwyr am weithio’n ddiwyd yn ein warws gan rannu ychydig o straeon ein gwirfoddolwyr. Heb ein gwirfoddolwyr, fe fyddai’n amhosib inni gyflawni ein gwaith. Y gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am dderbyn y bwyd, trefnu’r bwyd, pacio archebion a chludo bwyd i elusennau a grwpiau cymunedol yn Ne Cymru. Bu inni recriwtio toreth o wirfoddolwyr newydd yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd yn rhaid i sawl un o’n gwirfoddolwyr roi gorau i’w gwaith am gyfnod felly roedd digonedd o amser ganddyn nhw i ymuno a gwirfoddoli gyda ni.

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle inni estyn diolch mwy fyth i ein holl wirfoddolwyr. Heb y gwirfoddolwyr, byddai’n amhosib inni barhau gydag ein gwaith. Mae ein gwirfoddolwyr yn mynd tu hwnt i’r galw pob dydd fel bod modd inni helpu bwydo’r rheiny sydd fwyaf mewn angen yn Ne Cymru gyda’n gilydd.

EIN SWYDDOG GWIRFODDOLI

Mae Jude yn dylunio ac yn creu gemwaith cynaliadwy sydd wedi’u gwerthu mewn siopau amgueddfeydd fel y Tate Modern yn ogystal â nifer o orielau a siopau annibynnol ledled Prydain. Yn sgil y feirws, roedd yn rhaid iddi ganslo ei chwrs gemwaith cyfredol a gohirio unrhyw gyrsiau newydd am gyfnod amhenodol. Mae’r orielau a’r siopau mae hi’n gwerthu ei gemwaith ynddyn nhw wedi cau felly mae hi’n eithaf distaw o ran creu gemwaith hefyd.

Mae pethau wedi distewi iddi o ran gwaith yn sydyn, ond fel mae hi’n dweud, mae hi’n iach ac yn gallu helpu eraill sydd mewn gwaeth sefyllfa na hi. Fe welodd hi hysbyseb ar ei grŵp Facebook lleol ar gyd-gymorth yn dweud bod angen gwirfoddolwyr arnom ni. Fe feddyliodd y byddai’n gyfle perffaith gan fod modd iddi helpu eraill a lleihau gwastraff – “dau achos arbennig”.

Fe benderfynodd Sam gychwyn gwirfoddoli gan ei fod yn chwilio am rywbeth fyddai’n ei ysgogi i adael y tŷ. Mae Sam wrthi yn chwilio am waith ar hyn o bryd ond fe fu’n anodd iawn oherwydd y pandemig. Ar wahân i wirfoddoli gyda FareShare, fe benderfynodd dreulio’i amser yn gwirfoddoli gyda’r Fenter Tiwtora Coronafeirws gan ddysgu cemeg a mathemateg ar-lein yn ogystal â thiwtora safonol ar Tutorful.

“Wnaeth FareShare ddal fy sylw gyda’u buddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Fe wnes i ymuno cyn y cloi mawr ac rydw i’n falch iawn o gyfrannu mewn cyfnod lle mae gwaith FareShare yn fwy hanfodol fyth. Bu’n brofiad hwyl a gwerthfawr. Rydw i wir wedi mwynhau bwrw iddi ar ddiwrnod prysur ac mae’n help i dynnu’ch meddwl oddi ar ddigwyddiadau ehangach.”

Bu Nicole yn chwilio am rywle i wirfoddoli ynddo ers tro, yna pan gyrhaeddodd y pandemig, roedd yn rhaid iddi roi’r gorau i weithio ac roedd ganddi ddigonedd o amser rhydd i allu mynd ati i wirfoddoli. Mae hi’n wneuthurwr propiau a gwisgoedd i’r theatr a digwyddiadau eraill, gan gynnwys perfformiadau byw Katy Perry. Mae’r holl ddigwyddiadau hynny wedi’u gohirio am y tro.

Mae hi’n dweud ei bod hi wrth ei bodd yn gwirfoddoli ac mae pawb yn gyfeillgar dros ben. “Mae’n gyfle imi gadw’n brysur ac mae heb os wedi fy helpu i sicrhau cydbwysedd yn fy mywyd ar hyn o bryd. Mae hefyd yn braf gwybod fy mod i’n helpu mymryn i sicrhau bod bywydau trigolion yr ardal yn haws drwy’r pandemig hefyd. Mae’n ffordd foddhaus o dreulio fy amser”

Mae Jane yn artist ac mae ganddi stiwdio fach i greu cerfluniau a chynnal gwaith ymchwil ynddi fel arfer. Mae’r gofod hwnnw wedi cau yn ystod y pandemig felly fe fu hi’n canolbwyntio ar weithgareddau creadigol eraill fel ysgrifennu, barddoniaeth a thynnu llun yn ogystal â thyfu bwyd.

Dywedodd bu’r profiad o wirfoddoli gyda FareShare yn werthfawr iawn a’i bod yn mwynhau gyrru’r fan cludo bwyd i elusennau a grwpiau cymunedol ledled De Cymru, natur gorfforol y gwaith a chwmni unigolion tebyg iddi sydd hefyd yn credu’n gryf yn ein gwaith.

Diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr am eu gwaith diwyd pob wythnos. Os ydych chi’n gwirfoddoli gyda ni ac yn dymuno rhannu eich stori, e-bostiwch jon@fareshare.cymru!