fbpx

Barn Sue am wirfoddoli yn ystod COVID

Bu Sue yn gwirfoddoli ar ran FareShare ers Ionawr 2019. Bu iddi ymuno â’r tîm yn dilyn sgwrs gyda’i merch dros gyfnod y Nadolig am wastraff bwyd a phwysigrwydd helpu’r gymuned. Mae Sue yn gwirfoddoli unwaith yr wythnos ac mae hi’n gyfrifol am waith gweinyddol FareShare Cymru gan gyflawni tasgau fel diweddaru anfonebau gyda chyfeiriadau danfon y bwyd a faint gaiff ei anfon, gwirio dyddiadau bwyd dros ben a threfnu eitemau yn y warws.

‘Pan wnes i ymddeol, roeddwn i’n dymuno treulio fy amser rhydd yn ddoeth. Roedd gen i ddiddordeb yn y rôl weinyddol ac roeddwn i’n meddwl y buasai’n swydd foddhaus imi hefyd.’ 

Drwy gydol y pandemig, bu i Sue barhau i wirfoddoli a bu hi’n aelod amhrisiadwy o’r tîm.

‘Roeddwn i wrth fy modd yn gwirfoddoli drwy gydol y cloi mawr oherwydd roedd yn sicrhau strwythur i fy wythnos ac yn fy nenu o’r tŷ am reswm gwerth chweil’ 

O ganlyniad i Covid, cafodd timau’r swyddfa a’r warws eu gwahanu i sicrhau ei bod hi’n haws i gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu nad oedd Sue yn cydweithio gyda chymaint o bobl ag arfer a chwrdd â llawer o wynebau newydd. Llwyddodd FareShare i ddenu nifer helaeth o wirfoddolwyr newydd yn ystod y cloi mawr oherwydd roedd pobl yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd ac roedd gan bobl fwy o amser i wirfoddoli o ganlyniad i’r cynllun cadw swyddi neu weithio o adref.

‘Fe ges i gyfle i gydweithio gyda nifer o bobl ddifyr dros ben o athrawon i guraduron amgueddfeydd na fyddai wedi meddu ar yr amser i wirfoddoli neu wedi meddwl am wirfoddoli fel arall.’ 

Diolch yn fawr Sue am dy holl waith caled ac am ein cynorthwyo ni, yn enwedig yn ystod y pandemig. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r holl waith yn y gorffennol a’r presennol ar ran FareShare Cymru!