fbpx

Dewch i ddarganfod beth mae ‘Women Connect First’ yn ei wneud

Mae Women Connect First (WCF) yn elusen sy’n gweithio i rymuso Merched Croenddu ac o gefndir Ethnig Lleiafrifol yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru sy’n profi amddifadedd, gwahaniaethu a gwaharddiad. Maen nhw’n cynnig nifer o wahanol wasanaethau, cefnogaeth a gweithgareddau i wella eu bywoliaeth a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Ymysg prosiectau eraill mae WCF yn cynnal gwahanol ddosbarthiadau gan gynnwys TG, coginio a gwersi Saesneg. Maen nhw’n rhedeg llinell gymorth, gofal plant, gweithdai celf a llawer mwy!

O dan amgylchiadau arferol, roedd WCF yn rhedeg eu prosiect ‘World Café on Wheels’, sef cegin gymunedol sydd ar agor ar ddydd Gwener. Byddai gwirfoddolwyr yn dod i mewn am ambell awr, coginio llawer o fwyd ac yna’n ei rannu gyda’r cyhoedd. Roedd hyn yn rhoi cyfle i bawb gysylltu a chymdeithasu dros fwyd maethlon, fforddiadwy oedd wedi’i goginio’n ffres. Roedd hefyd yn rhoi cyfle i’r gwirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau coginio, derbyn hyfforddiant arlwyo a rhoi hwb i’w cyflogadwyedd.

Yn ystod COVID bu iddyn nhw ddechrau’r prosiect ‘Wales Community Café on Wheels’ gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae a wnelo â choginio prydau iach a maethlon yn ddyddiol a’u danfon i’r bobl fwyaf bregus yn y gymuned. Mae’r ‘Wales Community Café on Wheels’ yn bennaf yn cefnogi’r henoed a phobl anabl, y maen nhw wedi bod yn eu cefnogi ers mis Tachwedd ac am barhau i wneud hynny nes diwedd y prosiect. Maen nhw hefyd yn cefnogi nifer o bobl iau, fel arfer ar sail tymor byrrach, yn bennaf y rheiny oedd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu oherwydd Covid neu’r rhai sy’n gwella o’r feirws.

Yn rhan o’r tîm mae 6 aelod o staff: cydlynydd prosiect, cynorthwyydd prosiect, gyrrwr danfoniadau a 3 chogydd (gwirfoddolwyr yn flaenorol ond bellach yn aelodau o staff), yn ogystal â 4 gwirfoddolwr sy’n helpu gyda’r danfoniadau. Maen nhw’n coginio pryd 3 chwrs i’w buddiolwyr. Mae’r cwrs cyntaf yn cynnwys cwpanaid o gawl sy’n amrywio bob dydd, er enghraifft, cawl llysiau cymysg, cawl madarch neu gawl ffacbys. Gall y prif gwrs fod yn unrhyw beth o wahanol fathau o gyrri (Indiaidd, Bangladeshaidd, Thai) reis a phrydau gyda cwscws, llysiau wedi’u rhostio a chig i brydau pasta. Pwdin fel arfer ydy ffrwythau ffres, cacen gartref, iogwrt neu salad ffrwythau. Caiff popeth ei goginio o’r dechrau a’u gwneud gyda chynhwysion ffres.

Bu i WCF ddechrau gyda FareShare tua 6 wythnos yn ôl i gefnogi eu prosiect Wales Community Café on Wheels ac maen nhw’n derbyn danfoniad wythnosol ar hyn o bryd.

Rydym yn derbyn danfoniad gan FareShare ar ddydd Iau ac rydw i’n neilltuo ychydig amser i feddwl am ryseitiau newydd i gynnwys yr holl gynnyrch ffres rydym ni’n ei dderbyn. Mae hyn yn wych oherwydd mae’n rhoi amrywiaeth i bobl ac maen nhw’n gallu blasu pethau fuasen nhw ddim fel arfer yn eu bwyta. Rydym ni bob tro yn defnyddio 100% o beth rydym ni’n ei gael gennych chi a does dim yn cael ei wastraffu’

‘Mae’r bwyd gan FareShare yn ein caniatáu inni weithiau roi ychydig yn fwy i bobl na beth fuasen ni fel arfer yn ei gynnwys, er enghraifft, pryd bach ochr ychwanegol neu fwy o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau yn eu prydau.’

Maen nhw’n amrywiol iawn ac yn addasu ar gyfer gofynion dietegol a diwylliannol eu buddiolwyr, ac mae’r consensws cyffredinol ar y prydau bwyd yn gadarnhaol iawn.

‘Mae ein buddiolwyr yn gwerthfawrogi popeth ac anaml iawn ydyn ni’n derbyn unrhyw gŵyn. Mae pobl wrth eu boddau gydag unrhyw beth ffres, maethlon ac wedi’i wneud gartref.’

Mae’r gwelliant yn iechyd y buddiolwyr hefyd i’w weld ac mae’n amlwg bod y prydau wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.

‘Heb hyn ni fuasai llawer ohonyn nhw’n gallu cael pryd poeth, wedi’i wneud yn ffres bob dydd. Roedd nifer o’r bobl rydym ni’n eu cefnogi yn dioddef o ddiffyg maeth cyn inni ddechrau eu cefnogi nhw. Ers inni weithio gyda nhw mae eu hiechyd wedi gwella ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n llawer gwell, yn edrych yn well a chyda llai o broblemau iechyd. Mae’n wirioneddol wych!’

Mae aelodaeth WCF gyda FareShare wedi caniatáu iddyn nhw stopio gorwario eu cyllideb bwyd gan eu bod yn derbyn cynnyrch ychwanegol er mwyn ei gwneud hi’n bosibl gwneud y pryd 3 chwrs sylweddol.

‘Mae bod gyda FareShare yn bendant yn arbed arian inni. Mae’r bwyd o ansawdd dda iawn ac yn aml yn organig. Mae gwerth yr eitemau rydym ni’n eu derbyn fel arfer yn uwch na danfoniadau eraill rydym ni’n eu cael ac rydym ni fel arfer yn derbyn danfoniad wythnosol gwerth 4 gwaith beth rydym ni’n ei dalu’n fisol sy’n wych.’

Pan gaiff y prydau eu danfon mae WCF hefyd yn ceisio cysylltu a chymdeithasu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Maen nhw’n edrych ar ôl eu buddiolwyr, gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn, rhoi sicrwydd iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac yn eu cefnogi nhw mewn sawl gwahanol ffordd.

‘Nid yn unig coginio a danfon ydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n cysylltu gyda nhw ac yn eu cefnogi nhw hefyd’

Buasai WCF wrth eu boddau yn parhau gyda FareShare ar ôl y pandemig ond bydd yn dibynnu ar eu harian nawdd. Maen nhw’n gobeithio estyn y prosiect, gwneud y gegin yn fwy ar ryw bwynt a dechrau rhedeg shifft yn y bore a’r prynhawn er mwyn cynyddu faint o brydau maen nhw’n ei wneud mewn diwrnod o 40 i 80.

Rydym ni’n falch iawn o fod yn cefnogi WCF a Wales Community Café on Wheels. Maen nhw’n gwneud pethau arbennig i’r gymuned ac yn gwneud prydau ffres, iach a maethlon i’w buddiolwyr sydd mor wych i’w weld!