
Golyga’n hymrwymiad Cyflog Byw y bydd pawb sy’n gweithio i FareShare Cymru yn derbyn cyflog fesul awr o £9.50 fel lleiafswm yn y DU. Mae hyn yn sylweddol uwch na lleiafswm y llywodraeth i weithwyr dros 21, sy’n £8.91 yr awr ar hyn o bryd.
Lleolir FareShare Cymru yng Nghymru, gwlad sydd ag un o’r cyfraneddau uchaf o swyddi nad ydynt yn swyddi Cyflog Byw yn y DU (21%), gyda thua 241,000 o swyddi yn talu’n llai na’r cyflog byw gwirioneddol. Serch hyn, mae FareShare Cymru wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw gwirioneddol a darparu cyflog teg bob diwrnod am ddiwrnod caled o waith.
Y cyflog byw gwirioneddol yw’r unig gyfradd sydd wedi’i gyfrifo yn ôl costau byw. Mae’n darparu meincnod gwirfoddol i gyflogwyr sydd am sicrhau bod eu staff yn ennill cyflog mae modd iddynt fyw arno, nid lleiafswm y llywodraeth yn unig. Ers 2011 mae’r mudiad Cyflog Byw wedi sicrhau codiad cyflog i dros 250,000 o bobl, gan roi dros £1.3 biliwn ychwanegol mewn i bocedi gweithwyr cyflog isel.

I weld ein swyddi gwag diweddaraf, cliciwch yma