fbpx

Mae FareShare Cymru yn hapus i gyhoeddi partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant a caffi Cegin Hedyn o Sir Gaerfyrddin

Bydd y bartneriaeth hon yn caniatáu i FareShare Cymru (FSC) gyflenwi i Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Gan helpu mwy o elusennau a grwpiau cymunedol i roi llaw i’r rhai mwyaf anghenus yn eu cymunedau lleol.

Bydd y bartneriaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn galluogi FSC i ddefnyddio eu cyfleuster parcio ceir i storio eu faniau cludo, gan ei gwneud yn haws i ddosbarthu bwyd i ardaloedd yng Ngorllewin Cymru a galluogi FSC i gefnogi mwy o elusennau a grwpiau cymunedol ar draws y wlad.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru ac mae danfoniadau i Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dechrau. Bydd FSC wedyn yn dechrau gweithrediadau i symud i Sir Benfro a Cheredigion yn gynnar yn 2023, gan sicrhau na fydd unrhyw gymuned yn cael ei gadael i ddioddef.

Ers i ddanfoniadau i Sir Gaerfyrddin ddechrau ym mis Mawrth, mae 42.45 tunnell o fwyd wedi’i ailddosbarthu i 10 grŵp cymunedol ac elusen yn y rhanbarth, gyda ffigurau a nifer yr aelodau yn parhau i godi wrth i’r ehangu gynyddu.

O’r sgwrs gychwynnol gyda pherchennog Cegin Hedyn, Deri Reed, roedd ei angerdd am gynaliadwyedd a helpu’r rhai mwyaf anghenus yn glir. Gyda’i gilydd, mae FSC a Cegin Hedyn wedi datblygu system lle gallant weithio gyda gwirfoddolwyr lleol i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol ledled gorllewin Cymru i sicrhau bod bwyd dros ben yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, gan helpu i gyflawni’r genhadaeth o frwydro yn erbyn newyn a mynd i’r afael â gwastraff bwyd.

Ar y bartneriaeth dywedodd Deri:

“Ar ôl bod yn ddilynwr brwd o waith FareShare Cymru ers dros ddegawd rwy’n sylweddoli’r her sydd o’n blaenau. Bydd dod yn llysgennad i’r elusen yn ein helpu i wthio ymhellach i fwy o Gymru, gan greu effaith fwy. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr i gryfhau ein gweithrediadau gallwn ddarparu bwyd dros ben i brosiectau cymunedol a fydd yn ei roi i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.”

Deri Reed – Cegin Hedyn

Mae’r galw presennol am wasanaethau fel FSC ar lefel na phrofwyd erioed o’r blaen, gyda mwy a mwy o bobl yn profi tlodi bwyd. Dim ond trwy feithrin perthynas â sefydliadau lleol y gall FSC wynebu’r her y mae cymdeithas yn ei hwynebu o ran costau byw ar hyn o bryd.

Eglurodd Prif Weithredwr FareShare Cymru, Sarah Germain:

“Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda The Warren a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ehangu ein gwasanaethau ymhellach i Orllewin Cymru. Rydym yn cydnabod bod gennym bellach yn fwy nag erioed ddyletswydd i roi cymorth drwy roi llaw i bobl mewn angen. Bydd FareShare Cymru yn parhau i ehangu ymhellach i Gymru – gan greu gofod a chyfle i gymunedau ffynnu.”

Sarah Germain – Prif Weithredwr FareShare Cymru

Gwybodaeth Bellach.

Os ydych yn grŵp cymunedol neu’n sefydliad elusennol wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, Sir Benfro, neu Geredigion a bod gennych ddiddordeb mewn defnyddio ein gwasanaethau, cysylltwch â members@fareshare.cymru

Cynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/landfill-disposals-tax-communities-scheme
Cegin Hedynhttps://ceginhedyn.org.uk/
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: https://www.uwtsd.ac.uk/
Ymuno â FareShare Cymru: https://fareshare.cymru/joining-fareshare-cymru/