fbpx

GGCA a’u nawdd gan Morganstone

Mae Cymdeithas Gymunedol Gilfach Goch (Gilfach Goch Community Association / GGCA) yn elusen sydd wedi bod ar fynd ers 1996, yn Rhondda Cynon Taf, ar ffin Pen-y-bont ar Ogwr. Mae GGCA yn gweithio i gefnogi’r gymuned mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys addysg, iechyd, lliniaru tlodi a gwaith. Fel arfer maen nhw’n rhedeg nifer o raglenni gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol, clybiau ieuenctid, grwpiau rhieni a phlant bach a grwpiau i’r anabl. Mae ganddyn nhw hefyd raglen waith i bawb, caffi cymunedol, salon trin gwallt ac ystafelloedd cynadledda ar gael. Mae GGCA yn cefnogi pobl o bob oed a hefyd yn cefnogi pobl y tu allan i Gilfach, yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a’r cymoedd.

O ganlyniad i COVID mae llawer o’u gweithgareddau wedi gorfod symud ar-lein. Er enghraifft, maen nhw’n cynnig cefnogaeth o bell ar gyfer ysgrifennu CV a chefnogaeth un-i-un gyda gweithwyr ieuenctid, yn ogystal â chyrsiau coginio a ioga ar-lein. Mae’r feithrinfa ar agor o hyd gan fod gofal plant yn cael ei ganiatáu ac mae’r caffi ar agor ar gyfer danfoniadau. Mae GGCA hefyd yn rhedeg prosiect lliniaru COVID trwy gynllun Llywodraeth Cymru ac yn danfon prydau a bwyd i’r gymuned.

Bu i GGCA ddechrau eu partneriaeth gyda FareShare Cymru ychydig fisoedd yn ôl, tua mis Hydref 2020. Y nod wrth ymuno â chynllun FareShare oedd darparu cefnogaeth ychwanegol i aelodau’r gymuned ar ben beth mae GGCA yn ei gael drwy’r Llywodraeth. Caiff GGCA eu cefnogi’n ariannol gan Morganstone, cwmni adeiladu lleol, oedd eisiau helpu GGCA mewn rhyw ffordd fel rhan o’u prosiect gwaith allanol cymunedol. I ddechrau, bu awgrym eu bod yn codi ffens neu yn gwneud ychydig o waith tarmacio iddyn nhw, ond yna bu iddyn nhw benderfynu ar FareShare gan ei fod yn cael effaith uniongyrchol ar bobl yn y gymuned. Bu i nawdd Morganstone dalu am gostau cofrestru GGCA gyda FareShare Cymru, gan alluogi GGCA i dderbyn danfoniadau bwyd wythnosol.

Mae GGCA yn derbyn danfoniad gan FareShare bob dydd Mawrth ac yn ei gasglu o Ben-y-bont ar Ogwr. Maen nhw’n defnyddio’r bwyd gan FareShare ar ben y ddarpariaeth COVID maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mantais y cyflenwad gan FareShare ydy eu bod yn gallu ei roi i unrhyw un sydd ei angen a does dim angen iddyn nhw gwrdd ag unrhyw ofynion. Mae’r hyblygrwydd hefyd yn golygu bod pobl yn gallu cael rhai eitemau maen nhw wirioneddol ei angen. Mewn amgylchiadau arferol, gallai GGCA ddefnyddio’r parseli bwyd gan FareShare i gefnogi eu grwpiau i’r anabl a’r clybiau ar ôl ysgol mewn gweithgareddau fel gwersi coginio. Fodd bynnag, ar y funud caiff y bwyd gan FareShare ei ddosbarthu i’r gymuned fel ac y mae.

“Mae’r amrywiaeth o’r hyn rydym ni’n ei gael gan FareShare yn dda iawn. O’r blaen, roeddem ni’n arfer derbyn bwydydd oedd yn para’n hirach fel ffa pob neu basta ond gyda FareShare rydym ni’n derbyn bwydydd mwy ffres – sudd oren, bara, ffrwythau a llysiau. Mae hyn yn golygu nid yn unig ydyn ni’n gallu rhoi rhywbeth i bobl ei fwyta i swper ond hefyd i frecwast a chinio.” 

Mae’r bwyd yn cael effaith ar les bobl hefyd, sy’n rhoi cyfle iddyn nhw fod yn agored am bethau eraill sydd efallai yn anodd arnyn nhw, fel eu hiechyd meddwl, gwaith neu fudd-daliadau tai, y mae staff GGCA yn gallu eu cefnogi nhw gyda hyn.

“Mae FareShare wedi ein caniatáu i gyrraedd pobl na fydden ni o bosibl wedi siarad gyda nhw o’r blaen ac mae wedi galluogi mwy o bobl i ddysgu am yr hyn rydym ni’n ei wneud. Y mwyaf o brosiectau gallwn ni eu rhedeg, y mwyaf o bobl fydd yn dod i’r ganolfan ac felly’r mwyaf o bobl all dderbyn ein gwasanaethau.” 

Gyda chynllun FareShare mae GGCA yn gallu cyrraedd pobl sydd ei angen ond sydd efallai heb ddod ymlaen a gofyn am gymorth. “Mae’n rhoi i bobl y diogelwch a’r cysur ychwanegol hwnnw, yn gwybod os ydy bwyd yn brin iddyn nhw am ambell i ddiwrnod mae modd iddyn nhw alw draw a derbyn cyflenwad i’w cadw nhw i fynd. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu defnyddio’r arian buasen nhw’n ei wario ar fwyd ar bethau eraill, fel nwy a thrydan.” 

Mae GGCA yn gwneud gwaith arbennig iawn ac rydym ni’n falch iawn ein bod ni’n gallu eu helpu nhw i gefnogi aelodau’r gymuned, yn arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn.