fbpx

Ein gwaith yn Sir Benfro – PATCH

Mae PATCH yn elusen sy’n ceisio lliniaru effaith anffafriol tlodi ar unigolion a theuluoedd yn Sir Benfro. Mae PATCH yn canolbwyntio ar helpu pobl sy’n cael eu hunain mewn caledi ariannol am nifer o wahanol resymau fel oedi mewn budd-daliadau, tân, lladrad neu chwalfa briodas. Mae’r elusen yn gweithio gydag asiantaeth atgyfeirio sy’n atgyfeirio person mewn caledi ariannol i PATCH ac yn rhoi taleb iddyn nhw y mae modd iddyn nhw ei gyfnewid am barsel bwyd, dillad, nwyddau i’r cartref, pethau ymolchi, nwyddau glanhau ac eitemau angenrheidiol eraill. Mae’r elusen hefyd yn cynnal ymgyrch teganau’r Nadolig a banc anifeiliaid anwes sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol gefnogi eu hanifeiliaid. Cyn COVID-19 roedd yr elusen hefyd yn cynnig gwasanaeth trin gwallt i’r rheiny nad oedd yn gallu fforddio mynd i gael torri eu gwallt.

Oherwydd COVID-19 bu i’r elusen gau 4 allan o 5 o’i chanolfannau ac mae bellach yn gwneud y parseli ac yn eu danfon nhw i helpu i gadw wrth reolau ymbellhau cymdeithasol. Bu i FareShare Cymru gefnogi PATCH am 3 mis yn ystod cyfnod clo COVID-19. Ar y dechrau bu inni gydweithio gyda Chastell Howell wnaeth helpu i gael y bwyd o’r storfa i PATCH. Bu i’r Groes Goch Brydeinig yna gymryd y rôl drosodd a pharhau i helpu gyda’r danfoniadau i PATCH.

Bu i FareShare Cymru roi bwyd ffres a bwyd silff i PATCH. Roedd cynnyrch wedi’i bobi fel bara yn arbennig o boblogaidd gan fod modd eu defnyddio ar gyfer gwneud llu o bethau, gan gynnwys gwneud brechdanau ar gyfer cinio ysgol plant nad oedd yn bodloni’r meini prawf er mwyn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae bwydydd tun hefyd yn boblogaidd iawn, yn enwedig cigoedd mewn tun, prydau cig a sbageti.

“Roedd y bwyd gan FareShare yn anhygoel ac wedi gwneud gymaint o wahaniaeth. Roedd yr amrywiaeth yn hyfryd ac o ansawdd dda iawn. Roedd yn anhygoel ac o fudd mawr iawn inni”

Mae llawer o gleientiaid PATCH yn dioddef o iechyd meddwl gwael ac mae’r bwyd mae PATCH yn ei ddarparu yn gwneud byd o wahaniaeth i hyn. Mae llawer yn poeni nad ydyn nhw’n gallu bwydo eu plant sy’n bwysau ychwanegol ar iechyd meddwl rhieni. Problem arall sy’n aml yn wynebu cleientiaid PATCH ydy gordewdra oherwydd mae’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar fwydydd llai maethlon a rhatach fel prydau wedi’u coginio o flaen llaw, siocled a bisgedi.

“Mae’r ffrwythau a llysiau ffres rydym ni’n eu derbyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl a lles ein cleientiaid, felly rydym ni’n ddiolchgar iawn am hynny”

Er bod PATCH wedi bod yn derbyn mwy o fwyd ers COVID-19 o ganlyniad i grantiau ychwanegol a’u partneriaeth gyda FareShare maen nhw hefyd wedi gweld cynnydd o 100% mewn atgyfeiriadau felly mae’r galw am y gwasanaeth yn fwy nag erioed.

Mae Tracy o PATCH yn dweud “er na ddylai bod angen ar gyfer y bwyd dros ben ac mae’n siomedig bod rhai bwydydd yn llythrennol yn gallu achub bywydau pobl, mae hi’n hapus bod PATCH yn gallu derbyn bwyd a’i roi i’r rheiny sydd ei angen gan ei fod o gymaint o gymorth iddyn nhw”

Rydym ni mor falch o allu helpu pobl fregus mor bell â Sir Benfro, yn arbennig yn ystod y pandemig. Ni fuasai dim ohono wedi bod yn bosibl heb waith anhygoel ein gwirfoddolwyr a chymorth Castell Howell a’r Groes Brydeinig, felly diolch yn fawr!