fbpx

Y Ffatri Gelf

Mae’r Ffatri Gelf yn fudiad cymunedol yng Nghlyn Rhedynog sy’n ceisio creu cyfleoedd sy’n newid bywyd i bobl sy’n teimlo eu bod ar wahân mewn cymdeithas. Caiff y prosiect ei redeg gyda gwirfoddolwyr, y mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o wasanaethau cymdeithasol ac mewn grwpiau incwm isel neu yn derbyn budd-daliadau. Mae amrywiaeth o ffyrdd iddyn nhw gymryd rhan, cyfarfod pobl newydd a datblygu sgiliau gwaith.

Un o brosiectau’r Ffatri Gelf ydy eu siop lyfrau ar-lein. Caiff y siop ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr sy’n trefnu gwerthiant y llyfrau, rheoli’r cyfrifon ac yn cyfathrebu o fewn y tîm. Mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau gwaith a chyfarfod pobl newydd.

Bu i’r Ffatri Gelf ddechrau gyda FareShare Cymru a’r ddechrau’r cyfnod clo cyntaf i ddarparu cefnogaeth i’w gwirfoddolwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bu iddyn nhw dderbyn grant gan FareShare oedd yn eu caniatáu i greu parseli bwyd i’w gwirfoddolwyr mewn ffordd oedd yn gynaliadwy yn economaidd iddyn nhw. Mae’r bartneriaeth gyda FareShare wedi cynyddu eu cyflenwad o fwyd silff yr oedd modd iddyn nhw ei gyfuno gyda’r bwyd ffres oedden nhw eisoes yn ei dderbyn i wneud parseli bwyd. Bu iddyn nhw werthu’r parseli bwyd am £7 gafodd ei groesawu yn dda gan eu gwirfoddolwyr oedd yn dweud ei fod yn ‘werth gwych am arian’ ac yn caniatáu i’r Ffatri Gelf dalu am eu costau.

“Rydym ni wedi derbyn llawer o adborth da iawn gan y bobl sydd wedi derbyn y parseli bwyd. Mae pobl yn ddiolchgar iawn o dderbyn y parseli ac yn fwy na hapus gyda beth maen nhw’n ei dderbyn. Does neb wedi cwyno o gwbl am gynnwys y parseli bwyd.” 

“Mae parseli bwyd FareShare wedi gwneud gwahaniaeth enfawr inni a’r bobl rydym ni’n eu cefnogi.”

Bu i’r parseli bwyd helpu pobl llawer, gan ganiatáu i rai gwirfoddolwyr leihau eu dyledion gan nad oedd rhaid iddyn nhw wario arian ychwanegol ar fwyd. Bu i lawer o deuluoedd gyda phlant hefyd dderbyn y parseli bwyd gan eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd heb gefnogaeth y clybiau brecwast ac ar ôl ysgol yn ystod y cyfnod clo. Bu i’r henoed hefyd elwa yn fawr o’r parseli bwyd gan fod llawer yn hunanynysu yn ystod y cyfnod clo ac yn ei gweld hi’n llawer haws cael parsel am £7 gyda phopeth oedd arnyn nhw ei angen ynddo.

Dros y misoedd nesaf mae’r Ffatri Gelf eisiau cael pawb yn ôl i mewn am gymaint o ddiwrnodau ag sydd bosibl. Yr elfen gymdeithasol o’r Ffatri Gelf ydy beth sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd meddwl pobl a’r nod ydy galluogi hyn gymaint â phosibl yn yr amgylchiadau presennol. Maen nhw yn y broses o roi cynllun at ei gilydd i gael grwpiau yn ôl a chynyddu’r nifer o lefydd. Y nod ydy ehangu’r gefnogaeth i bwy bynnag sydd eisiau dod yn hytrach nag i ddim ond y rheiny gaiff eu cyfeirio at y Ffatri Gelf gan wasanaethau cymdeithasol.

“Yn y grwpiau rydw i wedi’u cynnal yn yr ychydig wythnosau diwethaf y cwbl mae pawb wedi bod eisiau gwneud ydy siarad a chymdeithasu. O’r blaen, buasen ni’n cynnal amrywiaeth o wahanol grwpiau (canu, cyngor ar bopeth, codi hwyl (cheer-leading), Tai-Chi, grŵp chwarae i blant bach), ond ers y cyfnod clo mae’n ymddangos bod pobl eisiau cymdeithasu yn fwy na dim.”

Rydym ni’n falch iawn o fod wedi cefnogi’r Ffatri Gelf trwy’r pandemig i’w helpu nhw i ddarparu’r gefnogaeth anhygoel maen nhw’n ei rhoi i bobl yn y gymuned.