Bu i Meurig ymuno gydag ein tîm gwirfoddoli yn FareShare Cymru oddeutu mis yn ôl ac mae o’n gwirfoddoli 1 dydd yr wythnos ar hyn o bryd ond mae’n fwy na bodlon cynnig mwy o’i amser os oes angen! Fe ymunodd ar ddiwedd yr haf pan roedd angen mwy o wirfoddolwyr ar FareShare Cymru gan fod sawl un o’r rheiny oedd wedi ymuno gyda ni dros yr haf wedi dychwelyd i’r gwaith. Fe glywodd am y cyfle drwy hysbysebion y Co-op a meddyliodd y buasai’n mwynhau’r profiad.
Mae Meurig wedi ‘ymddeol yn rhannol’ ac mae’n gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ac yn gwneud gwaith DIY ymysg pethau eraill yn ei amser rhydd. Aeth Meurig ati i wirfoddoli oherwydd roedd yn dymuno cymdeithasu a chyflawni gwaith a fyddai o fudd i’r gymuned.
“Rydw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn ymwneud â gwahanol grwpiau o bobl er lles eich lles meddyliol. Roeddwn i hefyd yn dymuno cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu codi ysbryd y gymuned. O ganlyniad, roeddwn i’n meddwl y buasai gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn ddelfrydol imi.’
Mae Meurig yn gweithio fel un o’n gyrwyr cludo bwyd lle mae gofyn iddo gludo paledi bwyd i aelodau bwyd cymunedol unigol. Yn ogystal, mae gofyn i’r gyrwyr gludo bwyd i’r mannau casglu lleol, fel yr un yn Abertawe lle mae sawl mudiad yn cwrdd i gasglu cyflenwadau bwyd a’i ddosbarthu.
Dywedodd “Rydw i wir yn mwynhau’r rôl gan fy mod yn hoff o yrru ac mae’n gyfle imi ddysgu mwy am FareShare fel mudiad” Mae’n crybwyll ei fod hefyd yn awyddus i roi cynnig ar y wagen fforch godi felly fe gawn ni weld beth a ddaw!
O ran COVID-19, mae Meurig yn dweud ei fod yn teimlo’n ddiogel iawn yn storfa a phan mae’n mentro allan yn y fan gan fod masgiau’n orfodol ac mae digonedd o hylif diheintio a mesurau diogelu eraill ar waith yn y pencadlys.
Mae’n awyddus i barhau i wirfoddoli ac yn enwedig yn ystod COVID-19 gan fod angen cefnogaeth ar fwyfwy o bobl yn sgil diweithdra, incymau isel a mesurau hunan ynysu.
Diolch yn fawr iawn Meurig am ymuno gyda ni a chyflawni gwaith penigamp!