Rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o fudiadau gan gynnig cefnogaeth frys iddyn nhw drwy fynd ati i fodloni eu hanghenion bwyd, o bantrïau cymunedol, clybiau cinio, canolfannau cymunedol a chlybiau ar ôl ysgol i fanciau bwyd. Ein nod ydy rhoi diwedd ar newyn yn Ne Cymru drwy drechu gwastraff bwyd a sicrhau caiff bwyd da ei ddefnyddio’n effeithiol i gefnogi’r rheiny sydd mewn angen.
Sut ydym ni’n ymaelodi?
I fynd rhagddi gyda’r broses ymaelodi, cwblhewch ein ffurflen gais FareShare Cymru drwy glicio ar y botwm Ymaelodi gyda ni uchod. Byddwn yn cysylltu’n ôl gyda chi cyn gynted â phosib er mwyn trafod sut gallwn ni gynnig bwyd i’ch mudiad chi. Unwaith inni sgwrsio gyda chi, byddwn yn ymweld â’ch mudiad i’ch cyfarwyddo ynghylch y broses ymaelodi ac yn cyflawni gwiriad o’ch cegin.
Unwaith ichi ymaelodi gyda FareShare Cymru, gallwch edrych ymlaen at dderbyn archeb bwyd. Byddwch yn derbyn eich pecyn bwyd pob wythnos yn seiliedig ar eich anghenion chi ac fe fyddai wedi’i baratoi gan ein gwirfoddolwyr anhygoel.
O le daw bwyd FareShare Cymru?
Mae’r bwyd rydym ni’n ei gyflenwi yn ffres, yn amrywiol ac o safon uchel. Caiff ei bennu fel bwyd dros ben am sawl rheswm sydd ddim yn effeithio ar y bwyd ei hun, o wallau gyda’r pecynnau i gynigion arbennig yn dod i ben. Caiff y bwyd ei gyfrannu gan rai o’r archfarchnadoedd cadwyn sylweddol, yn ogystal â chwmnïau bwyd lleol a rhanbarthol. Mae FareShare Cymru yn cydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau llym o ran storio a chludo bwyd er mwyn bodloni’r holl ddeddfwriaethau diogelwch bwyd.
Allwch chi gynnig syniad pendant o’r bwyd y byddwn ni’n ei dderbyn?
Gan mai bwyd dros ben rydym ni’n ei dderbyn, ni allwn sicrhau pa fwydydd fyddwch chi’n ei dderbyn. Yn lle hynny, byddwn yn llunio proffil bwyd ar gyfer pob un o’n haelodau sy’n bodloni anghenion eich mudiad. Pob wythnos, byddwn yn paratoi archeb ichi ar sail eich dewisiadau bwyd a’r cyflenwad sydd gennym ni. Yna bydd ein gwirfoddolwyr yn mynd ati i bacio’r archeb ichi. Rydym yn derbyn pob math o fwydydd o bysgod i ffrwyth ffres a chawsiau i ffa pob. Os oes gennym ni gyflenwad dros ben y diwrnod hwnnw, mae’n bosib y cewch chi ychydig o eitemau ychwanegol hefyd!
Oes gofyn i fy mudiad dalu unrhyw beth?
Rydym yn elusen felly rydym yn dibynnu ar gyfraniadau a grantiau i’n cynnal ni. Gofynnwn i’n holl aelodau llawn am ffi fach tuag at ein costau gweithredu. Mae’r costau’n cychwyn o £65 y mis (oddeutu £15 yr wythnos) i dderbyn cyflenwad rheolaidd o fwyd o ein warws., Mae ein gwasanaeth casglu o’r archfarchnad, FareShare Go yn rhad ac am ddim, i ategu’ch prif gyflenwad bwyd. Gallai aelodau elusen FareShare arbed cymaint â £7,900 y flwyddyn ar gyfartaledd oddi ar eu bil bwyd. Mae hyn yn golygu bod modd iddyn nhw fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill.
FareShare Go
Bydd y bwyd byddwch chi’n ei gasglu’n fwyd dros ben sydd heb ei werthu erbyn diwedd y dydd. Mae ein holl fwyd yn fwyd
Find out moreManteisio ar fwyd
Mae FareShare Cymru yn cyflenwi dros 210 o fudiadau rheng flaen hanfodol ledled Cymru gyda bwyd dros ben ffres, blasus ac sydd o fewn
Find out moreYmaelodi gyda FareShare Cymru
Rydym yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o fudiadau gan gynnig cefnogaeth frys iddyn nhw drwy fynd ati i fodloni eu hanghenion bwyd, o bantrïau
Find out more