Os ydych chi’n fusnes bach neu’n gorfforaeth sylweddol, mae sawl ffordd gallai eich cwmni chi gydweithio gyda ni, cefnogi FareShare Cymru ac effeithio’n uniongyrchol ar y frwydr yn erbyn newyn a thlodi ledled Cymru.
Rydym yn elusen fach sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol. Gallai meithrin partneriaeth gyda FareShare Cymru arwain at gyfleoedd ymgysylltu gyda gweithwyr a chwsmeriaid, Cysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol ledled ein rhwydweithiau, a chyfraniadau ystyrlon i’ch amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Clwb 1K
Rydyn ni wedi dechrau’r Clwb 1K i’n helpu ni i dyfu a chefnogi mwy o gymunedau ar draws De Cymru. Rydym yn gwahodd busnesau lleol i ymrwymo i addewid blynyddol o £1,000. Drwy ymuno â’r Clwb 1K, bydd eich busnes yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gael gafael ar fwy o fwyd dros ben a darparu cymorth hanfodol i bobl.
Cyfraniadau Corfforaethol
Beth am gyflwyno cyfraniad i gefnogi ein gwaith yng Nghymru. (LINK to make a donation) Yn ogystal ag arian, fe allai rhoddion mewn nwyddau, fel cyfarpar swyddfa neu wasanaethau, wneud gwahaniaeth sylweddol hefyd.
Nawdd Corfforaethol
Beth am noddi un o’n cerbydau cludo a hysbysebu’ch logo wrth iddyn nhw deithio i ymweld â’n haelodau cymunedol.
Elusen y flwyddyn
Dewiswch FareShare Cymru fel eich Elusen y Flwyddyn a gallwch annog staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i gydweithio i gefnogi ein gwaith gan helpu i fwydo miloedd o bobl fregus pob diwrnod.
Gweithwyr yn Codi Arian
Bydd pob £1 byddwch yn ei godi yn ddigon i dalu am fwyd ar gyfer 4 pryd. Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i godi arian yn eich gweithle, fel rafflau, lotrïau, heriau chwaraeon, gêm dyfalu pwy, diwrnodau dillad eich hunain neu gynnal digwyddiad gwerthu cacennau. Os ydy gweithwyr yn codi arian tuag at FareShare Cymru, gallai eich cwmni chi ystyried cynnig cyfraniadau cyfatebol.
Digwyddiadau Codi Arian
Gallwch gynnal pob math o ddigwyddiadau fel cwis neu loddest. Gallwch hefyd gynnal digwyddiadau heriau fel gwifren gwibio i deithiau cerdded tramor. Mae pob math o syniadau posib ac mae’n gyfle gwych i ddenu eich staff, cwsmeriaid a chyflenwyr i gymryd rhan.
Gweithwyr yn Gwirfoddoli
Yn ogystal â chynnig cyfle ichi fynd ati i godi arian ar eich liwt eich hun, rydym hefyd yn awyddus i recriwtio timau o wirfoddolwyr corfforaethol. Cliciwch yma i wybod mwy – dolen at gweithwyr yn gwirfoddoli
Rhoi drwy’r Gyflogres
Rhoi drwy’r Gyflogres neu Roi wrth Ennill ydy’r ffordd fwyaf treth effeithlon i staff gynnig rhodd sylweddol yn ôl. Gallai cyn lleied â £5.00 y mis sicrhau digon o fwyd i baratoi 240 o brydau dros flwyddyn. Os nad ydy eich cwmni yn cynnal cynllun ar hyn o bryd, gallwch danysgrifio i asiantaeth rhoi drwy’r gyflogres.
Ein cefnogi ni gyda’ch cynnyrch!
Mae dewis cynnig canran o elw cynnyrch neu wasanaeth i drechu newyn a gwastraff bwyd yn anfon neges gadarnhaol ac mae’n ffordd rwydd o godi arian ar ran cwmnïau bach a mawr.
Pam ddylech chi gydweithio gyda ni?
Mae pob partneriaeth gorfforaethol yn unigryw. Isod mae ychydig o’r buddion posib i’ch mudiad chi:
- Bydd ein tîm yn sicrhau
- Adrodd – gweld pwy sy’n manteisio ar eu cymorth ac effaith eu cymorth.
- Gweld o lygad y ffynnon – dewch i ymweld â Chanolfan Ranbarthol FareShare Cymru a bwrw golwg ar brosiect sy’n derbyn bwyd FareShare er mwyn gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud yn uniongyrchol.
- Cydweithio gyda gweithwyr – gallwch ennyn diddordeb eich gweithwyr mewn ffordd ddiriaethol sy’n fodd iddyn nhw weld effaith eich cyllid, gan fwrw iddi i helpu gyda chyflawni ein nod.
Fodd bynnag, wrth gefnogi FareShare Cymru byddwch yn effeithio’n uniongyrchol ar ein twf a llwyddiant , ac yn helpu i gyflwyno bwyd i filoedd o bobl sy’n byw mewn tlodi.
Cysylltwch gyda ni heddiw i drafod partneriaethau – byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych chi. 0292036211 neu ar info@fareshare.cymru
Cyfrannu
Mae FareShare Cymru yn elusen fach ac annibynnol sy’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau i barhau gydag ein gwaith. Gallwn gyflawni llawer iawn
Find out moreGweithwyr yn Gwirfoddoli
Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi
Find out moreThe 1K Club
We’ve launched the 1K Club to help us expand our reach and support more communities across South Wales. We’re inviting local businesses to commit
Find out more