Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi ddysgu am y byd bwyd dros ben a thlodi bwyd yn Ne Cymru. Mae Gwirfoddoli fel Tîm yn ffordd wych o ddangos eich ymroddiad tuag at Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, calonogi eich tîm a chreu’r teimlad o berthyn.
Beth ydy’r drefn?
Yn dilyn cyflwyniad a chyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch byr bydd eich tîm yn mynd ati gan helpu gyda’r gwaith o ail-ddosbarthu bwyd sy’n gyfle ichi wella bywydau dydd i ddydd y rheiny sy’n wynebu tlodi bwyd. Rydym yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr arbennig i gyflawni ein gwaith dyddiol a byddwch yn cydweithio gyda staff a gwirfoddolwyr eraill i gyflawni ystod o weithgareddau. Gallai’r gweithgareddau gynnwys, ond nid ydyn nhw wedi’u cyfyngu i:
- Cynorthwyo ein gyrwyr i gludo bwyd i ein Haelodau Cymunedol yn Ne Cymru
- Dewis bwyd ar gyfer archebion ein haelodau
- Dosbarthu bwyd a threfnu ein warws
- Glanhau a thacluso
Mae sawl un o’r tasgau hyn yn gorfforol ac mae’n bosib y bydd gofyn ichi godi a chario nwyddau a phlygu lawr i’w nôl nhw. Hoffem sicrhau nad oes yna unrhyw rwystrau i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan felly rhowch wybod inni os oes gan unrhyw un o’ch tîm drafferthion a allai effeithio ar eu hamser gyda ni. Byddwn yn ymdrechu i ganfod gweithgareddau a fyddai’n gweddu iddyn nhw.
Sut ydym ni’n mynd ati i gymryd rhan?
Dyma ychydig o fanylion ichi eu dwyn i ystyriaeth:
- Gallwn groesawu timau o hyd at chwe unigolyn oherwydd cyfyngiadau o ran lle.
- Ein nod ydy cynnal un diwrnod tîm corfforaethol y mis, ond fe allwn ni fod yn hyblyg.
- Gofynnwn am gyfraniad i dalu am ein costau cynnal; mae hyn yn fodd inni ddosbarthu mwy fyth o fwyd i’r rheiny sydd ei angen.
- Rydym yn blaenoriaethu’r cwmnïau hynny sy’n ffurfio partneriaethau corfforol gyda ni, ond fe wnawn ni ymdrechu hyd eithaf ein gallu i groesawu pob un y gallen ni.
Oes gennych chi ddiddordeb? Hoffech chi ddysgu mwy?
Cysylltwch gydag ein Swyddog Gwirfoddoli 02920362111 neu volunteer@fareshare.cymru neu cwblhewch y ffurflen isod
Gwirfoddoli aelod staff (cyflogai)
Gwirfoddoli gyda ni
Mae Gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, ennill sgiliau newydd a chynnig rhywbeth yn ôl i’n cymunedau. Os ydych
Find out moreGweithwyr yn Gwirfoddoli
Rydym yn cynnig profiad unigryw i wirfoddoli fel tîm. Mae’r diwrnodau hyn yn hwyl, yn gyfle ichi gyflawni gwaith corfforol ac yn fodd ichi
Find out more