fbpx

Straeon cadarnhaol yng nghanol y pandemig

Mae llawer o’n haelodau wedi gorfod newid sut maen nhw’n cyflawni eu gwaith, oherwydd llefydd yn cau a diffyg staff, yn ogystal â mwy a mwy o ofyn am eu gwasanaethau. Ac mae llawer wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i roi help llaw i fudiadau eraill yn eu cymuned, ac wedi dangos caredigrwydd tuag atom ni hefyd. Isod mae ychydig o’r straeon rydym wedi’u derbyn hyd heddiw, cofiwch anfon eich rhai chi atom!

Mae cymdeithas dai rydym ni’n gweithio gyda wedi dechrau danfon bwyd o ddrws-i-ddrws i’r henoed sy’n byw yn eu cartrefi a ddim yn gallu gadael y tŷ i fynd i siopa gan eu bod mewn grŵp bregus. Ac mae un o’r ysgolion cynradd rydym ni’n gweithio gyda wedi dechrau darparu gwasanaeth tebyg, yn danfon parseli bwyd i bobl sy’n byw yn agos i’r ysgol.

Yn Ysgol ACT yng Nghaerdydd, eu dysgwyr a’u teuluoedd ydy rhai o’r aelodau mwyaf bregus mewn cymdeithas, felly mae’n hanfodol eu bod yn parhau i roi cefnogaeth iddyn nhw. Maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud pethau eraill ychwanegol. Dywedodd Rachael o ACT:

“Mae llawer o aelodau o staff ACT wedi bod yn gweithio’n galed yn rhoi pecynnau bwyd at ei gilydd a choginio prydau poeth i’w danfon allan yn y gymuned. Ar y funud, mae gennym 12 atgyfeiriad cymunedol i deuluoedd neu unigolion fyddai fel arfer yn cael eu cefnogi gan ACT, ac maen nhw i gyd wedi derbyn pecynnau bwyd gennym. 

Yn ogystal â danfon bwyd i rai o deuluoedd ein dysgwyr, rydym hefyd wedi bod yn danfon pecynnau bwyd i’n partner elusen ddigartrefedd, Llamau. Mewn ymgais arall i gefnogi elusen leol, bu i ACT ddanfon 10 iPad wedi’u hadnewyddu i Ganolfan Ganser Felindre yn gynharach yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn yn galluogi cleifion i gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwylon gan fod oriau ymweld wedi’u cyfyngu, a hynny drwy alwadau fideo neu wasanaethau negesu.

Rydym ni’n deall bod hwn yn gyfnod ansicr a heriol iawn i bawb, a dyna pam fod ACT, heddiw yn fwy nac erioed, yn ymrwymo’n llawn i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ogystal â’n cymuned ehangach. Mae’n hollbwysig ein bod ni gyd yn cadw’n ddiogel ac yn gwneud ein gorau i edrych ar ôl ein gilydd.”