fbpx

Pantri Llanharan

Mae Pantri Llanharan yn bantri cymunedol yn Llanharan yn Rhondda Cynon Taf gaiff ei redeg o Ganolfan Gymunedol Bryncae. Bu i Janine ddechrau’r pantri ar ddiwedd Ionawr 2021 felly dim ond ers ychydig mae wedi bod ar fynd. Mae’r pantri ar agor bob dydd Sadwrn ac yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ddod draw i ddewis nifer o eitemau o amrywiaeth o fwydydd ffres a sych, pethau ymolchi a nwyddau glanhau. Yn gyfnewid, os ydyn nhw’n gallu maen nhw’n cael rhoi cyfraniad bach, ond does dim rhaid iddyn nhw.

“Drwy ofyn am gyfraniad tuag at y bwyd, dw i’n meddwl ei fod yn tynnu ychydig oddi ar y gwarthnod sy’n gysylltiedig â defnyddio banc bwyd sydd gan rhai pobl”

Mae’r pantri ar agor i unrhyw un yn y gymuned sydd ei angen a does dim prawf na gofynion ar gyfer ei defnyddio.

“Gall pawb ddod draw a chymryd beth sydd arnyn nhw ei angen ac mae’r system hon yn gweithio’n dda iawn inni”

Mae Pantri Llanharan yn derbyn 50kg o fwyd bob wythnos gan FareShare Cymru. Yn bennaf, maen nhw’n derbyn bwyd tun a bwyd sych ar y funud ond yn ddiweddar maen nhw wedi derbyn ychydig o lysiau. Mae’r pantri hefyd yn casglu bwyd dros ben o Co-op, cyflenwr wyau, Greggs a Tesco. Mae’r gymuned hefyd wedi cynnig llawer o roddion.

Mae’r bwydydd poblogaidd yn cynnwys wyau, bara, ffrwythau, nwdls a diod ffrwythau.

“Alla’ i fyth gael digon o wyau a byddaf bob tro yn mynd allan i brynu rhai os nad ydyn ni’n derbyn rhai”

Er mai dim ond am gyfnod byr mae’r pantri wedi bod ar agor mae i’w weld yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl.

“Mae pobl yn bendant i’w gweld yn llawer mwy cadarnhaol rŵan eu bod wedi dechrau defnyddio’r pantri. Maen nhw’n ddiolchgar iawn fod ganddyn nhw rywbeth fel hyn ar gael iddyn nhw. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn i’r gymuned”

Yn ychwanegol at ddarparu nwyddau angenrheidiol i bobl, mae’r pantri hefyd yn rhoi ychydig o gyfle i gymdeithasu wrth i bobl gael cyfle i sgwrsio yn normal yn y cyfnod anodd hwn!

Mae Pantri Llanharan yn arbed arian drwy fod yn bartner gyda FareShare ac felly’n gwario’r arian hynny ar ychwanegu mwy o eitemau i’r pantri.

“Mae faint o fwyd rydw i’n ei gael gan FareShare yn wych. Fuaswn i ddim yn gallu cael yr un faint o fwyd am £15 yn rhywle arall.”

Yn y dyfodol mae gan Bantri Llanharan gynlluniau i agor banc babi fyddai’n rhedeg ochr yn ochr â’r pantri. Byddai’n darparu nwyddau fel bwyd babi a chlytiau. Mae Janine hefyd yn edrych ar gyflenwi tyweli mislif golchadwy gan fod y nwyddau mislif yn boblogaidd iawn ac yn mynd bob wythnos. Mae hefyd cynlluniau i redeg siop cyfnewid gwisg ysgol fyddai o fydd mawr i deuluoedd yn y gymuned.

Rydym ni’n llawn cyffro ein bod wedi helpu Pantri Llanharan ddechrau arni ac yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn tyfu!