Pwy sy’n Elwa o FareChance Cymru?
Mae FareBoost Cymru yn cynorthwyo unrhyw un yn ardal Caerdydd sydd angen cymorth, gan gynnwys y rheiny sy’n ddi-waith, sy’n ceisio profiad gwaith, sy’n wynebu problemau iechyd corfforol neu feddyliol, sy’n ymdopi gydag anawsterau dysgu neu sydd â diffyg hunan-hyder.
Ymrwymiad a Thwf Di-oed
Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymgysylltu, yn ennill sgiliau newydd ac yn gwneud ffrindiau ystyrlon yn gyflym. Ymhen wythnosau, byddan nhw wedi ymdrochi’n llwyr yng ngweithgareddau’r rhaglen, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a datblygiad personol.
Proses FareBoost Cymru
Mae FareBoost Cymru yn rhaglen 12 wythnos gan FareShare Cymru, elusen sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu bwyd gyda nod cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym yn achub bwyd o safon, sydd o fewn y dyddiad bwyta erbyn, fyddai’n cyrraedd safleoedd tirlenwi fel arall ac yn ei ddosbarthu i ysgolion lleol, elusennau a chanolfannau cymunedol.
Mae awyrgylch ein warws yng Nghaerdydd yn ddynamig ac yn groesawgar a gallai unigolion ddysgu, datblygu a ffynnu yno. Mae lle i hyd at 8 o unigolion ym mhob sesiwn rhaglen, gan sicrhau eu bod yn derbyn sylw personol a bod dynamig tîm cadarn.
Gallai’r rheiny sy’n cymryd rhan ennill cymwysterau achrededig megis:
- Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Ymwybyddiaeth Alergeddau
- Iechyd a Diogelwch Lefel 2
- HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol)
- Trin a Thrafod Pwysau
- Trwydded Wagen Fforch Godi
Diwrnod yn FareBoost Cymru
Sesiwn Briffio yn y Bore: Trosolwg o’r gweithgareddau dydd i ddydd.
Gweithgareddau Ymarferol yn y Warws: Trefnu a phacio rhoddion bwyd, rheoli’r cyflenwad, defnyddio wagenni codi paledi.
Tasgau’r Prynhawn: Cynorthwyo gyda danfoniadau, cwrdd â gwirfoddolwyr, ymwneud gyda mudiadau cymunedol, a dysgu am agweddau amrywiol gweithrediadau’r warws a’r gwasanaeth cymunedol.
Ymysg yr uchafbwyntiau mae gweithio yn y fan danfoniadau, sy’n cynnig hoe fach o dasgau arferol a chyfle i ymwneud gyda’r gymuned. Mae’r profiad hwn yn helpu’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddeall effaith eu cyfraniadau, gan feithrin ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad.
Pam ddylech chi Ddewis Dosbarthiad Warws?
Mae dosbarthiad Warws yn llwybr ardderchog ar gyfer twf personol a phroffesiynol, waeth pa sgiliau rydych yn meddu arnyn nhw. Mae’n cynnig y cyfleoedd canlynol:
- Bod yn weithgar ac yn gymdeithasol mewn amgylchedd gwaith llawn prysurdeb.
- Cydweithio gydag unigolion o’r un anian i gynnig gwasanaethau cymunedol hanfodol.
- Ennill sgiliau amlbwrpas sy’n berthnasol i ddiwydiannau megis logisteg, trefnu digwyddiadau, marchnata, cyfathrebu, codi arian, ffotograffiaeth, gyrru danfoniadau, dadansoddi data a saernïaeth.
- Does dim angen profiad blaenorol – dim ond parodrwydd i ymgymryd â’r gwaith a dysgu.
Ydych chi’n chwilio am brofiad gwaith gwerth chweil a chyfle i ddatblygu sgiliau newydd? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Cwblhewch y ffurflen isod neu e-bostiwch ni ar Jessica@fareshare.cymru.
Join FareBoost Cymru
Please complete this form if you’d like to refer yourself or someone else to FareBoost Cymru, or if your organisation wants to collaborate with us.