Sefydlwyd FareShare Cymru yn 2010 a bu iddyn nhw fynd rhagddi i gludo bwyd ym mis Gorffennaf 2011. Rydym yn defnyddio bwyd dros ben o safon ac sydd o fewn y dyddiad bwyta erbyn a fyddai fel arall yn mynd i wastraff. O ganlyniad rydym yn mynd ati i newid problem amgylcheddol i fod yn ddatrysiad cymdeithasol. Rydym yn rhan o rwydwaith o 21 canolfan tebyg ledled Prydain sy’n cydweithio i fynd i’r afael â’r un problemau: gwastraff bwyd a newyn.
Yng Nghymru, fe gaiff oddeutu 400,000 tunnell o fwyd ei wastraffu pob blwyddyn. Pe bai dim ond 1% o hwnna’n fwyd bwytadwy, fe fyddai’n ddigon i gyfrannu tuag at 9 miliwn o brydau. Mae hyn yn ystod cyfnod lle mae bron i chwarter o boblogaeth Cymru’n byw mewn tlodi. Mae’r bobl yn trafferthu i fanteisio ar fwyd da a maethlon ac maen nhw’n aml yn llwgu. Hoffem sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y bwyd sydd wedi’i wastraffu gan ei ddosbarthu i bobl ddifreintiedig ledled Cymru. Dyma’r broses:

Caiff bwyd dros ben o’r diwydiant bwyd ei gyfrannu i FareShare Cymru
655 tunnell

Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn trefnu’r bwyd ac yn paratoi archebion bwyd i fudiadau sy’n ymdrechu i fynd i’r afael gyda thlodi
70 o wirfoddolwyr

Mae ein gwirfoddolwyr yn cludo’r bwyd i ein Haelodau Bwyd Cymunedol (ABC) – hosteli i’r digartref, canolfannau cymunedol, canolfannau i ffoaduriaid ac ati
15,192 awr

Mae Aelodau Bwyd Cymunedol yn defnyddio’r bwyd i baratoi prydau iach a chytbwys i gefnogi aelodau bregus o’r gymuned
2.3 miliwn o brydau

Gan gydweithio gyda FareShare Cymru, mae Aelodau Bwyd Cymunedol yn arbed arian ar gostau
£1.05m

Maen nhw’n defnyddio arian wedi’i arbed i helpu talu am wasanaethau cefnogi hanfodol
12,585 o bobl

Amdanom ni
Sefydlwyd FareShare Cymru yn 2010 a bu iddyn nhw fynd rhagddi i gludo bwyd ym mis Gorffennaf 2011. Rydym yn defnyddio bwyd dros ben
Find out more
Ein Heffaith
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein siwrne wedi gweld twf sylweddol ac ymroddiad parhaol i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Er ein bod
Find out more
Y tîm
Cliciwch ar aelodau’r tîm i ganfod eu manylion cyswllt Cysylltwch os oes gennych chi sylwadau neu gwestiynau Ein manylion cyswllt cyffredinol: Ebost y swyddfa:
Find out more