Cliciwch ar aelodau’r tîm i ganfod eu manylion cyswllt
Sarah Germain
Prif Swyddog Gweithredol
Roedd Sarah yn un o’n sylfaenwyr, chwaraeodd ròl blaenllaw yn y gwaith o sefydlu FareShare yn Ne Cymru, a bu’n gyfarwyddwr ar FareShare Cymru ers 2012. Ynghyd â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, Sarah sydd yn gyfrifol am arwain a rheoli, ac am gyfeiriad strategol yr elusen. Mae wedi’i chyffroi am y cynlluniau i dyfu’r elusen dros y misoedd a blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod FareShare Cymru yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i daclo gwastraff bwyd ac ansicrwydd ynghylch bwyd.
Gerry Molan
Pennaeth Gweithrediadau
Gerry sy’n arwain tîm sy’n gyfrifol am reoli gweithredoedd beunyddiol y depo, gan gynnwys diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, derbyniadau, storio a chludo bwyd a darparu fframwaith lle mae gwirfoddolwyr yn gallu datblygu sgiliau newydd a chydweithio’n effeithiol fel rhan o dîm.
Katie Padfield
Pennaeth Datblygu
Ymunodd Katie yn 2019 a hi yw pennaeth y tîm datblygu. Mae’i rôl hi’n canolbwyntio ar brofiadau’r elusennau rheng flaen ‘rydyn ni’n cydweithio â nhw, a chynllunio strategol ar gyfer datblygu’r rhanbarth.
Phil Pinder
Cydlynydd gwirfoddoli a chyflogadwyedd
Phil sy’n datblygu’n tîm anhygoel o wirfoddolwyr. Ef sy’n gyfrifol am gefnogi’r tîm gyda chyngor a hyfforddiant. Cysylltwch ag e i glywed am gyfleoedd gwirfoddoli yn FareShare Cymru.
Emma Roberts
Rheolwr Gweithrediadau cynorthwyol
Mae Emma yn cydweithio’n agos â Gerry, i gynorthwyo â gweithdrefnau beunyddiol, gan gynnwys cofrestru nwyddau i mewn, cyfansoddi rhestrau pigo, rheoli cyflenwadau a chyfddyddio’r amserlen gyflenwi.
Dan Richards
Rheolwr Gweithrediadau cynorthwyol
Roedd Dan yn arfer gwirfoddoli fel gyrrwr fan, ond erbyn hyn mae’n gweithio llawn amser fel Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol. Fel rhan o’i rôl mae’n cofnodi ac yn paratoi’r bwyd rydym yn ei dderbyn gan gynhyrchwyr bwyd a chanolfannau dosbarthu archfarchnadoedd ar gyfer sefydliadau a chymunedau lleol ledled De Cymru.
Simon Stranks
Cydlynydd Cyrchu Bwyd Rhanbarthol
Mae Simon yn gyfrifol am greu partneriaethau yn y diwydiant bwyd Cymreig i ddatblygu sianeli newydd ar gyfer delio â bwyd dros ben. Gweithia Simon â busnesau bwyd i greu proses ail-ddosbarthu bwyd syml er mwyn sicrhau bod dim bwyd a ellir ei fwyta’n mynd yn wastraff, ac yn bwysicach fyth, ei fod yn cael ei gyfeirio at bobl fwyaf bregus Cymru.
Georgie Sullivan
Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata
Mae Georgie yn gyfrifol am ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd e-bost, cylchlythyrau, astudiaethau achos a diweddariadau gwefan. Cysylltwch â ni ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â marchnata.
Rhiannon Edwards
FareShare GO
Cydlynydd yn y gymuned yw Rhiannon ar gyfer prosiect FareShare Go, sy’n weithredol yn Ne Cymru a Swydd Gaerloyw. Mae’r prosiect hwn yn cysylltu sefydliadau gydag archfarchnadoedd lleol i gasglu eu bwyd dros ben ar ddiwedd dydd, am ddim.
Paula Howard
Cydlynydd Cymunedol Glannau Mersi a Gogledd Cymru
Paula yw Cydlynydd y Gymuned ar gyfer Glannau Mersi a Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys recriwtio Aelodau Bwyd Cymunedol (ABC), diwallu eu hanghenion, ac ymweld â’u safleoedd ddwywaith y flwyddyn (pan mae Covid yn caniatáu) er mwyn chwilio am gyfleoedd i gynyddu eu gallu i gymryd mwy o fwyd. Hi sy’n gyfrifol am y broses o wirio diogelwch bwyd yn flynyddol o fewn y terfyn amser cytunedig.
Heather Thomas
Swyddog Prosiect
Mae Heather yn gweithio gyda Katie i ofalu am ein holl aelodau elusennol. Mae Heather hefyd yn gweithio ar wella rheolaeth amgylcheddol y depo. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am ddod yn aelod elusennol neu’n ystyried sefydlu prosiect bwyd, cysylltwch â ni!
Ilia Kalliontzi
Myfyriwr Marchnata a Chyfathrebu ar leoliad
Mae Ilia yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, ac yn cwblhau ei blwyddyn ar leoliad ym marchnata a chyfathrebu gyda FareShare Cymru.
Sarah Williams
Rheolwr Cyllid
Mae Sarah yn gyfrifol am ddata cyllidol a chydymffurfiaeth y sefydliad. Hi sy’n gyfrifol am gywirdeb ein llyfrau a chofnodion a thasgau cyfrifo rheolaidd fel cofnodion cyllidol dyddiol ac adrodd cyllidol misol.
Cysylltwch os oes gennych chi sylwadau neu gwestiynau
Ein manylion cyswllt cyffredinol:
- Ebost y swyddfa: info@fareshare.cymru
- Ffôn: 029 20362111
Ymddiriedolwyr
Simon Harris
Cadeirydd
Roedd Simon yn aelod o Ganolfan Gydweithredol Cymru am 18 mlynedd (7 fel Prif Swyddog Gweithredol) ac mae’n aelod o Fwrdd yr WCVA. Ar hyn o bryd mae’n gyflogedig yn y sector gyhoeddus gyda’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Ymunodd â Bwrdd FareShare Cymru yn 2016 a daeth yn Gadeirydd yn 2020.
Chris Bray
Ymddiriedolwr
Bu Chris yn Ymddiriedolwr gyda FareShare Cymru ers Ionawr 2020. Syrfëwr Siartredig ydyw, sydd â’i gefndir yn adeiladu ac ystadau. Mae’n rhedeg cwmni ymgynghori bach sy’n arbenigo mewn rheoli yn y gweithle.
Emma Waldron
Ymddiriedolwr
Bu Emma yn Ymddiriedolwr gyda FareShare Cymru ers Ionawr 2020. Mae’n weithiwr caffael a chyflenwi siartredig, ac yn ymarferwr GDPR.
Hitesh Vadgama
Ymddiriedolwr
Ymunodd Hitesh â Bwrdd Ymddiriedolwyr FareShare Cymru ym mis Tachwedd 2020. Mae e wedi ymddeol o’i waith fel Gwas Sifil i’r Llywodraeth ar ôl 40 o wasanaeth yn y sector gyhoeddus.
yr Athro John Hunt
Ymddiriedolwr
Ymunodd John â FareShare Cymru yn 2021 yn dilyn strôc a gafodd yn 42 mlwydd oed. Mae’n Athro newid hinsawdd sydd wedi’i ymddeol ar sail feddygol. Mae e hefyd yn ymgyrchydd-addysgwr amgylcheddol ac anabledd. Ef yw Dirprwy Gadeirydd ‘Disability Labour’ (y DU). Cydlyna grŵp anabledd ym Mlaenafon sy’n gweithredu cynllun cydweithredol / rhannu bwyd dros ben yn y gymuned leol, yn ogystal â phrosiectau cynllun pantri. Mae’n angerddol am gydraddoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd, gwyddoniaeth amgylcheddol a daearyddol ac ymwybyddiaeth anabledd.
Stephen Milburn
Ymddiriedolwr
Mae Stephen yn gyfarwyddwr cwmni meddalwedd sefydledig sy’n credu’n gryf bod technoleg a chydraddoldeb yn mynd law yn llaw. Rhanna’r un egwyddorion â FareShare ac mae’n falch iawn i fod wedi ymuno â’r Bwrdd yn 2021.
Amdanom ni
Sefydlwyd FareShare Cymru yn 2010 a bu iddyn nhw fynd rhagddi i gludo bwyd ym mis Gorffennaf 2011. Rydym yn defnyddio bwyd dros ben
Find out moreEin Heffaith
Roedd 2021-22 yn flwyddyn fawr arall i ni gyda’r pandemig Covid-19 yn parhau i herio wrth i ni setlo i mewn i normal newydd.
Find out moreY tîm
Cliciwch ar aelodau’r tîm i ganfod eu manylion cyswllt Cysylltwch os oes gennych chi sylwadau neu gwestiynau Ein manylion cyswllt cyffredinol: Ebost y swyddfa:
Find out more