fbpx

Pa fath o fwyd dros ben ydych chi’n ei dderbyn?

O gamgymeriadau labelu, bwyd sydd â’r pris wedi’i ostwng, samplau, a ffrwythau a llysiau sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’, i gynhwysion ar raddfa fawr ar gyfer gweithgynhyrchu. Rydyn ni’n derbyn pob math o fwyd ffres, bwyd sydd wedi rhewi, bwyd oer ac oddi ar y silff, gan gynnwys bwydydd â brand manwerthwr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Camgymeriadau pecynnu/labelu
  • Stoc sydd dros ben oherwydd camgymeriadau rhagolygon
  • Stoc sy’n is na MLOR (48 awr o leiafswm oes wrth i FareShare ei dderbyn)
  • Ffrwythau a llysiau sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’
  • Stoc sydd heibio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ (yn ddibynnol ar lythyr ymestyn gan y gwneuthurwr)
  • Bwyd sydd wedi’i wrthod achos ansawdd – ddim yn cwrdd â’r gofynion
  • Cynhyrchion heb eu cwblhau
  • Cynhwysion ar raddfa fawr ar gyfer gweithgynhyrchu
  • Casgliadau nad ydynt yn cael eu gwerthu mwyach
  • Samplau a bwydydd ar gyfer datblygu cynnyrch newydd “NPD”
  • Stoc â labeli iaith dramor
  • Difrodau
  • Stoc dymhorol
  • Bwyd sydd heibio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ os yw’r gwneuthurwr yn gallu gwarantu y bydd y cynnyrch dal yn dderbyniol i’r cwsmer a bod ansawdd a blas y bwyd heb gael eu heffeithio’n ormodol
  • Bwydydd â brand manwerthwr. Mae gennym ganiatâd gan brif manwerthwyr gan gynnwys Tesco, Sainsbury’s, Co-op ac Asda

Ydych chi’n gallu talu am gostau ail-ddosbarthu’r bwyd dros ben i FareShare Cymru?

Ydyn. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan FareShare Cymru yn anelu at ddileu costau dargyfeirio bwyd dros ben i elusennau. Gall dalu costau megis cost llafur ac adnoddau ychwanegol, cynaeafu, pecynnu, trafnidiaeth a chostau rhewi, ac unrhyw incwm coll o ailgylchu.

Ydych chi’n gallu derbyn bwyd dros ben ar fyr rybudd?

Ydyn. Deallwn fod bwyd dros ben yn anodd ei ragfynegi ac yn aml, mae’n digwydd ar fyr-rybudd. Ffoniwch ein tîm ar 029 20362111 ac fe wnawn ein gorau i gael eich bwyd dros ben chi i blatiau pobl.

Pa fath o fwyd dros ben na allwch chi ei gymryd?

Yn anffodus, ni allwn dderbyn alcohol, unrhyw fwyd sydd heibio’i ddyddiad ‘defnyddio cyn’, neu fwyd sydd wedi’i goginio neu ei baratoi’n barod.

Mae FareShare Cymru wedi’i drefnu i dderbyn cyfeintiau mawr o fwyd o’r diwydiant bwyd. Am y rheswm hwn, ni allwn dderbyn bwyd dros ben gan unigolion. Awgrymwn fod unigolion yn defnyddio ap rhannu bwyd fel Olio, yn hytrach.

Ydych chi’n derbyn bwydydd â brand manwerthwr?

Ydyn. Rydyn ni’n ymwybodol bod rhan helaeth gwastraff bwyd yn digwydd yn y gadwyn gyflenwi., cyn i gynhyrchion gyrraedd silffoedd yr archfarchnad. Am y rheswm yna, rydym am iddo fod mor hawdd â phosib i wneuthurwyr a chludwyr i gyfrannu bwyd dros ben o safon uchel i ni a bwydo pobl mewn angen. Mae gennym ganiatâd manwerthwyr gan Asda, Booker, Co op, Lidl, M&S, Pret a Manger, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose & Partners. Os nad yw enw’ch cwsmer yma, peidiwch â phoeni. E-bostiwch ni ar welshfood@fareshare.cymru ac fe awn ati i ofyn am ganiatâd ar eich rhan.

Sut ydych chi’n sicrhau diogelwch bwyd?

Rydyn ni’n gweithredu union yr un safonau â’r diwydiant bwyd. Mae’n systemau rheoli bwyd yn sicrhau cydymffurfiaeth lawn, a’r gallu i olrhain. Caiff ein canolfannau rhanbarthol awdit blynyddol. Sut ydyn ni’n diogelu’ch bwyd

Gyda phwy yr ydych chi’n gweithio?

Mae FareShare yn gweithio gyda mwy na 500 o gwmnïoedd ar draws y gadwyn gyflenwi – o ffermwyr i gludwyr, cadwyni lletygarwch i archfarchnadoedd, a brandiau mawr i fanwerthwyr bach, annibynnol. Darganfyddwch gyda phwy yr ydym yn gweithio yma yng Nghymru.

Pa fath o elusennau fydd ein bwyd dros ben yn eu helpu?

Mae FareShare Cymru yn ail-ddosbarthu bwyd dros ben i 175 o elusennau ledled Cymru – o lochesi trais domestig a chlybiau brecwast i blant, i hostelau ar gyfer y digartref, caffis cymunedol a chlybiau cinio ar gyfer yr henoed. Yn ogystal â thaclo newyn a thlodi bwyd, mae’r elusennau ‘rydyn ni’n eu cynorthwyo yn helpu datrys yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan rai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau.

Unigolyn ydw i. Ga i gyfrannu bwyd?

Mae FareShare Cymru wedi’i drefnu i dderbyn cyfeintiau mawr o fwyd o’r diwydiant bwyd. Am y rheswm hwn, ni allwn dderbyn bwyd dros ben gan unigolion. Awgrymwn fod unigolion yn defnyddio ap rhannu bwyd fel Olio, yn hytrach.


Cyfrannu bwyd